Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2016/17.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17.

 

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2016/17.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Selwyn Griffiths yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies (Aelod Cabinet – Economi), David Eastwood (Cynrychiolydd Buddiannau Harbwr) a David McLean (Cynrychiolydd Buddiannau Perchnogion Tir).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 217 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2016, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2016, fel rhai cywir.

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 145 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod lleihad bychan yn y nifer o gychod ar yr angorfeydd blynyddol gyda 129 o gychod o gymharu â 142 cwch yn 2015. Nodwyd bod tueddiad i gychod fod yn fwy o ran maint. Roedd 21 cwch wedi gadael yn 2016 gydag 17 cwch newydd wedi angori yn yr Harbwr yn 2016.

·         Nodwyd bod 37 cwch pwer wedi cofrestru yn yr Harbwr yn 2016 sydd yn cymharu gyda 30 a gofrestrwyd yn 2015. Cadarnhawyd bod 31 cwch pŵer wedi ei gofrestru ym Morfa Bychan o gymharu â 14 a gofrestrwyd yn 2015.

·         Ni dderbyniwyd sylwadau o ran y Côd Diogelwch Morwrol yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf.

·         Bod yr Uwch Swyddog Harbyrau yn adolygu’r côd diogelwch ac y gobeithir y bydd Uwch Arolygydd Gwylwyr y Glannau yn ymweld â’r Cyngor yn fuan yn 2017 i’w archwilio a chyflwyno adborth ar y côd.

·         Fe edrychir ar Is-ddeddfau’r Harbwr yn y Gwanwyn gyda’r bwriad i’w cyflwyno a rhoi mewn grym i gynorthwyo gyda delio efo’r broblem o oryrru. Cyfeiriwyd at ymgyrch Neifion a lansiwyd yn yr haf er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gysylltu â’r awdurdodau os ydynt yn amau fod rhywun yn aflonyddu ar fywyd gwyllt y môr a thorri’r Côd Diogelwch Morwrol.

·         Cynhaliwyd archwiliad gan Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar 26 Gorffennaf 2016. Roedd yr adroddiad yn cadarnhau gwelliant yng nghyflwr a lleoliadau’r cymhorthion mordwyo o gymharu ag adroddiadau blaenorol.

·         Gwnaed buddsoddiad sylweddol yng Nghwch y Dwyfor a chadarnhawyd y byddai’n cael ei lleoli ym Mhorthmadog i gynorthwyo gyda chynnal a chadw cymhorthyddion mordwyo yn yr Harbwr.

·         Nid oedd unrhyw rybudd i forwyr mewn grym yn harbwr Porthmadog.

·         Bod cyfnod cyflogaeth Cymhorthydd Harbwr (tymhorol) Porthmadog wedi dod i ben 30 Medi 2016. Nodwyd er sicrhau cefnogaeth a pharhad i’r gwasanaeth ar draws y Sir, roedd cyfnod cyflogaeth Cymhorthion Harbwr Abermaw ac Aberdyfi wedi eu hymestyn hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2016. Eglurwyd y byddai Cymhorthydd Harbwr Abermaw yn cael ei ail leoli i Borthmadog am y cyfnod cychwynnol er sicrhau cymorth ychwanegol ym Mhorthmadog dros fisoedd y gaeaf.

·         Bod cyfnod secondiad yr Harbwr Feistr yn cael ei adolygu’n gyfnodol.

·         Y derbyniwyd ymholiad gan gwmni llongau masnachol yng nghyswllt mewnforio cargo trwm ar gyfer gorsaf bŵer cyfagos ar fwrdd llongau masnachol i Borthmadog. Nodwyd y tynnwyd sylw’r cwmni i’r cymhlethdodau a chadarnhawyd pe byddai penderfyniad i fewnforio, y cwmni a fyddai’n gyfrifol am unrhyw gostau yn gysylltiedig â’r bwriad.

·         Y sefyllfa gyllidebol hyd at ddiwedd Medi 2016, gan nodi na ragwelir y cyrhaeddir y targed incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol.

·         Bod y system Teledu Cylch Cyfyng a fuddsoddwyd ynddo er gwarchod eiddo a defnyddwyr yr Harbwr wedi bod o gymorth i’r Heddlu wrth ymchwilio i 3 achos.

·         Fe argymhellir cynyddu ffioedd Harbwr Porthmadog ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-18, 2% ar gyfartaledd er cwrdd â her cyllideb a tharged incwm y gwasanaeth. Nodwyd y credir bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 8 Mawrth 2017.

Cofnod:

Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 8 Mawrth, 2017.