Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies (Aelod Cabinet – Economi), David Eastwood (Cynrychiolydd Buddiannau Harbwr) a David McLean (Cynrychiolydd Buddiannau Perchnogion Tir). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Nododd Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden bod Clwb Hwylio Porthmadog wedi cysylltu gyda’r
cwmni a osododd pontwns yn yr
Harbwr yng nghyswllt gosod pontwns ar wal
yr Harbwr. Byddai’r cynllun yn cynnwys
cyfleuster i alluogi’r anabl i’w defnyddio. Roedd y Clwb Hwylio cyn
cychwyn y cyfarfod wedi derbyn dyfynbris
ar gyfer y gwaith ac y byddent yn cysylltu efo’r
Gwasanaeth Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd: ·
Cefnogaeth i’r egwyddor. ·
Yr angen i dderbyn caniatâd
cynllunio a chaniatâd gan CADW ac eraill cyn mynd ymlaen
efo’r gwaith. ·
Yr angen i gymryd
i ystyriaeth yr effaith weledol. ·
Y byddai’r bwriad yn golygu
colli angorfeydd felly bod angen pwyso a mesur
yr effaith ariannol yng nghyswllt
incwm yr Harbwr a chostau rheoli/cynnal a chadw. ·
Effaith y llif. ·
Yr angen i ystyried defnyddwyr
eraill yr Harbwr. ·
Anogir y Clwb Hwylio i ymgynghori’n
lleol gan gynnwys y Cyngor Tref. PENDERFYNWYD: (i)
Nodi cefnogaeth i’r egwyddor; (ii)
Cynnal cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor
Ymgynghorol pe derbynnir mwy o fanylion cyn dyddiad
y cyfarfod nesaf. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2015, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion
cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Hydref, 2015, fel rhai cywir. Nododd Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden bod golau ar bontŵn Madog Yacht Club yn
weithredol. |
|
ADRODDIAD Y GWASANAETH MORWROL PDF 207 KB Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Tywysodd y Swyddog ·
Ni dderbyniwyd
sylwadau o ran y Cod Diogelwch
·
Rhagwelir y bydd archwiliwr o adran polisi Asiantaeth
Gwylwyr y Glannau yn ymweld â’r
Cyngor yn ystod yr Hydref
er archwilio’r Cod cyfredol ac i gynghori
ar unrhyw welliannau. ·
Y gwaredwyd llongddrylliad a oedd yn achosi
perygl a chymerwyd camau i waredu
cwch wedi ei leoli ar
Gei Balast gan roi rhybudd
terfynol i’r perchennog. ·
Bod y cwch ar y llithrfa lle'r
oedd unigolyn yn trigo arni
wedi ei symud
mewn ymateb i bryderon. ·
Bod 6 rhybudd i forwyr mewn
grym gan fod rhai o’r
cymhorthion mordwyo oddi ar eu
safle ac nad
oedd wedi bod yn bosib i’w
gosod yn ôl ar eu
lleoliad cywir hyd yn hyn
oherwydd y tywydd anffafriol. Gobeithir cwblhau’r gwaith o’u lleoli yn
y bythefnos nesaf. ·
Bod Cwch y Dwyfor yn cael
ei chynnal a chadw gan gwmni
Partington Marine ym
Mhwllheli ar hyn o bryd gyda
gwaith anorfod yn mynd rhagddo. ·
Cynhaliwyd archwiliad gan Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar 24 Chwefror 2016. Roedd yr adroddiad
yn tynnu sylw at ddiffyg y gwasanaeth i gydymffurfio
â gofynion ‘Panar’ ac yn tynnu sylw
fod angen caniatâd Tŷ’r Drindod cyn newid
lleoliad cymhorthyddion mordwyo. Nodwyd nad oedd
yn ymarferol bosib bob tro i
dderbyn caniatâd ymlaen llaw. ·
Bod gwaith cynnal a chadw angorfeydd wedi ei gwblhau heddiw
a byddai’r buddsoddiad o fudd mawr i’r
Harbwr. ·
Y derbyniwyd
97 o geisiadau am angorfeydd
blynyddol gyda 92 gan unigolion a
oedd yn dychwelyd. ·
Y buddsoddwyd
mewn system Teledu Cylch Cyfyng (TCC) newydd o safon a fyddai’n arf o ran trosedd ac anrhefn. ·
Y sefyllfa gyllidebol hyd at ddiwedd Chwefror 2016, gan nodi bod yr
incwm a dderbynnir o ran ffioedd maes
parcio’r Harbwr yn gymorth mawr
i sicrhau cyllideb a oedd yn gyffredinol gytbwys ar ddiwedd
y flwyddyn ariannol. ·
Bod ffioedd blwyddyn ariannol 2016-17 wedi cynyddu 1% ac fe unionwyd
taliad cofrestru badau dŵr o ran ceisiadau trwy’r post a cheisiadau a wnaed yn Swyddfa’r Harbwr. ·
Bod cyfnod secondiad yr Harbwr
Feistr wedi ei ymestyn tan ddiwedd Medi 2016 gyda chynllun datblygu
mewn lle o ran cyrraedd gofynion y swydd. ·
Ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Arfaethedig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig Arfaethedig, nodwyd y dylai’r mudiadau,pe dymunent,
gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad yn uniongyrchol. Gwnaed cais am farn yr aelodau o ran ail-leoli’r Fairway buoy, nodwyd bod Tŷ’r Drindod yn gefnogol i’r egwyddor. Nododd Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden y gellir symud y bwi ychydig ond bod angen ystyried bod ceg yr harbwr yn symud. Nododd Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub bod y sefydliad wedi trafod y mater ac yn cynghori na ddylid ail-leoli’r bwi. Nododd Cynrychiolydd Buddiannau Masnachol bod y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 12 Hydref 2016 yn ddarostyngedig i’w gadarnhau gan y Cyngor Llawn. Cofnod: Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal
ar 12 Hydref, 2016. |