Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2018/19. Cofnod: PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol Is-Gadeirydd am 2018/19. Cofnod: PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Ioan Thomas (Aelod Cabinet Datblygu’r Economi). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Nododd y Cadeirydd nad oedd
Barry Davies, Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig yn bresennol yn
y cyfarfod oherwydd ei fod i
ffwrdd o’r gwaith o ganlyniad i anaf. Dymunwyd
adferiad buan iddo. Nododd aelod ei werthfawrogiad o broffesiynoldeb a dyfalbarhad
staff yn wyneb ymddygiad annerbyniol unigolion mewn digwyddiad ar draeth
Morfa Bychan. Ategwyd y sylw gan nodi diolchiadau
aelodau’r Pwyllgor. Llongyfarchwyd Dr John Jones-Morris (Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden) ar ei benodiad yn Ddirprwy Gomodor Clwb Hwylio Madog. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2018, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2018, fel rhai cywir. |
|
DIOGELWCH HARBWR I ystyried unrhyw
fater diogelwch harbwr. Cofnod: Ni nodwyd unrhyw fater o ran diogelwch harbwr. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 71 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Tywysodd yr Uwch Swyddog Harbyrau
yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw
at y prif bwyntiau canlynol: ·
Mewn ymateb i argymhellion Asiantaeth Gwylwyr y Glannau, yn eu hadroddiad
ar drefniadau a systemau diogelwch harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd a chydymffurfiaeth â’r Côd Diogelwch Morol,
byddai Cabinet y Cyngor yn cael eu penodi’n
‘Ddeilydd Dyletswydd’ a Chapten M. Forbes (Harbwr Feistr Conwy) yn ‘Berson Dynodedig’. ·
Bod archwilwyr
Asiantaeth Gwylwyr y Glannau i fod
i ail-ymweld â’r gwasanaeth a rhoi cyflwyniad i’r Pwyllgor ynghylch y Côd Diogelwch Morol.
Fodd bynnag, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, gohiriwyd yr ymweliad tan fis Mawrth 2019 i gyd-fynd â chyfarfod
y Pwyllgor hwn. ·
Daeth cyfnod cyflogaeth Cymhorthydd Harbwr Porthmadog (tymhorol) i ben 30 Medi 2018. I sicrhau cymorth gyda gwaith
yr harbwr, ymestynnwyd y cyfnod cyflogaeth ar drefniant
tri diwrnod yr wythnos, mis ar
y tro. ·
Yn ddibynnol ar gyfyngiadau ariannol a chyllidebol, bod y gwasanaeth yn chwilio am bosibilrwydd
cyflogi cymhorthydd harbwr llawn amser
i weithio yn harbyrau Porthmadog,
Aberdyfi ac Abermaw. Byddai swydd cymhorthydd
harbwr ym Mhorthmadog fel arall yn dychwelyd
i weithio'n llawn amser ar
1 Ebrill 2019. ·
Cyfeiriwyd at grynodeb bras o gyllidebau'r
harbwr a'r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd y chwarter. ·
O safbwynt
ffioedd a thaliadau arfaethedig Harbwr Porthmadog yn ogystal
â ffioedd lansio Badau Dŵr Personol yn 2019/20, bwriad y gwasanaeth oedd addasu'r ffioedd
yn unol â'r
gyfradd chwyddiant. Disgwylir am gadarnhad o’r cyfraddau oedd
i’w defnyddio. Cyflwynodd Harbwr
Feistr Porthmadog adroddiad a oedd
yn rhoi crynodeb
o'r materion mordwyo a gweithredol a gododd yn ystod
y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis
Medi 2018, gan gynnwys materion cynnal a chadw a digwyddiadau yn ystod y cyfnod.
Diolchodd i Gynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub a chriw
Bad Achub Cricieth am eu cymorth wrth
ymdrin â suddiad y cwch catamaran ‘Jessica’s Day’ yn
yr Harbwr gyda’r nos ar
23 Gorffennaf. Nododd Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub bod Bad Achub Cricieth wedi ymateb
i 3 galwad yng nghyswllt unigolion
mewn trafferth ar Fanc y Gogledd
ar draeth Y Graig Ddu, gan
achub bywyd 10 unigolyn. Pwysleisiodd pwysigrwydd bod yr arwyddion diogelwch newydd yn cael
eu gosod mor fuan
â phosib. Cyfeiriodd at y bwriad i dynnu
rhai o’r arwyddion yn ystod
misoedd y gaeaf er lleihau difrod
gan y tywydd garw, gan nodi
ei bryder. Nododd nad
oedd y risg yn lleihau yn
ystod y gaeaf gyda digwyddiadau yn bosib yn
ystod y cyfnod. Nododd aelod y dylid gweithredu yn unol â chyfarwyddyd
Sefydliad y Bad Achub. Mewn ymateb, nododd
Harbwr Feistr Porthmadog y byddai’r arwyddion diogelwch yn cael eu
gosod yn unol â’r hyn
a gytunwyd mewn ymgynghoriad â Sefydliad y Bad Achub. Nododd aelod bod y gwaith a wnaed fel rhan o’r Cynllun Lliniaru Llifogydd ym Morth-y-gest wedi bod yn destun trafod. Ymhelaethodd bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 6 Mawrth 2019. Cofnod: Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal
ar 6 Mawrth, 2019. |