skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2020/21.

 

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Selwyn Griffiths yn Gadeirydd y pwyllgor hwn ar gyfer 2020/21.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Selwyn Griffiths yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21.

 

2.

IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2020/21.

 

Penderfyniad:

Ail-ethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn ar gyfer 2020/21.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21. 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, David Eastwood (Cynrychiolydd Buddiannau Harbwr) ac Ian Roberts (Cynrychiolydd Buddiannau Diwydiannol).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 205 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Mawrth, 2020 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Mawrth, 2020, fel rhai cywir.

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLI'R HARBWR pdf eicon PDF 202 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd cynnwys yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr harbwr.

 

(1)     Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion yr Harbwr am y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2021.

 

Gofynnwyd i’r aelodau anfon unrhyw sylwadau ar y Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd i’r gwasanaeth.

 

Nododd y Prif Swyddog Morwrol fod amcangyfrif o gyllidebau’r harbwr o 1/4/20 hyd at 31/3/21 wedi’i anfon at yr aelodau yn ddiweddar iawn, a manylodd ar y sefyllfa gyfredol gan nodi:-

 

·         Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, roedd gofyn bod y Cyngor yn ystyried lleihau ffioedd a chostau i dalwyr angorfeydd, gan fod balans i’w daro rhwng cadw cwsmeriaid at y dyfodol, neu eu colli yn gyfan gwbl i harbyrau eraill.

·         Y dymunai ddiolch i’r aelodau lleol am y gefnogaeth a gafwyd i leihau costau i’r cwsmeriaid 30% yn ystod y cyfnod Mai – Gorffennaf y llynedd.

·         Nad oedd yn opsiwn peidio codi unrhyw ffi o gwbl ar gwsmeriaid yn ystod y cyfnod yma, gan fod costau cynnal yr harbwr yn parhau.

·         Bod manylion y cyllidebau unigol fel a ganlyn:- 

 

Grŵp

Disgrifiad

Cyllideb

£

Gwariant hyd at 31/03/21

£

Gor(Tan) Wariant

£

Staff

Costau Staff

60,180

60,899

      719

Eiddo

Tiroedd ac Eiddo

23,140

10,907

(12,233)

Trafnidiaeth

Cwch a Cherbydau

      640

     640

          0

Offer a Chelfi

Offer a Chelfi

  9,930

12,252

   2,322

Incwm

Incwm Harbwr

(74,580)

(47,645)

 26,935

Cyfanswm

Cyfanswm

19,310

37,052

 17,742

 

·         Oherwydd y pandemig, a’r lleihad yn nifer y cychod yn angori yn yr harbwr llynedd, bod incwm yr harbwr tua £27,000 yn is na’r targed am y flwyddyn.

·         Mai’r targed ar ddiwedd y flwyddyn, gan gymryd incwm a gwariant i ystyriaeth, oedd bod Harbwr Porthmadog yn costio £19,000 i’r trethdalwyr, ond yn anffodus, oherwydd y diffyg incwm, roedd y gwahaniaeth yn £37,000 gan y byddai’r harbwr yn gorwario tua £18,000 yn y flwyddyn ariannol hon.

·         Mai dyma’r tro cyntaf ers blynyddoedd i’r gwasanaeth adrodd ar sefyllfa ariannol mor ddifrifol yn yr harbwr, ac roedd 2021 yn debygol o fod yn flwyddyn anodd hefyd, o ystyried yr ansicrwydd mawr yn y diwydiant morwrol.

·         Bod y pontwns yn gallu cynorthwyo’r sefyllfa gan eu bod yna drwy gydol y flwyddyn.

·         Bod Ffioedd a Thaliadau’r Harbwr 2021/22 bellach wedi’u hawdurdodi gan y swyddogion ac arweinyddion y Cyngor ar gyfer eu cyhoeddi.

 

(2)     Adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng Hydref 2019 a Mawrth 2021, gan gynnwys materion cynnal a chadw.

 

Nododd yr Harbwrfeistr fod staff yr harbwr yn dymuno anfon eu cofion at y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, yn dilyn ei anhwylder diweddar.  Cytunodd y Cadeirydd i anfon neges at yr aelod, ar ran bawb, yn aelodau a swyddogion, yn dymuno iddo wellhad llwyr a buan.

 

Nododd yr Harbwrfeistr ymhellach:-

 

·         Bod y Bwi Tramwyo wedi mynd allan ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, a bod Bwi rhif 2 wedi’i newid am Fwi rhif 1,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 5 Hydref, 2021, yn ddarostyngedig i’w gadarnhau gan y Cyngor Llawn.

Cofnod:

Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 5 Hydref, 2021.