skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Clive Moore (Cynrychiolydd Sefydliad y Bad Achub Cricieth), Y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet Datblygu’r Economi) ac Arthur Francis Jones (Uwch Swyddog Harbyrau).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 229 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2021 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2021, fel rhai cywir.

5.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLI'R HARBWR pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr harbwr.

 

(1)     Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr am y flwyddyn oedd yn dod i ben ar ddiwedd mis Mawrth 2022.

 

Nododd y Rheolwr Morwrol:-

 

·         Y bu o fudd cynnal cyfarfodydd rhithiol o’r pwyllgor dros y cyfnod diwethaf, ond bod colled o beidio cael presenoldeb pobl o amgylch y bwrdd a’r trafodaethau sy’n digwydd yn naturiol o flaen ac ar ôl y cyfarfodydd.  Nid oedd yn hysbys eto beth fyddai’r trefniadau i’r dyfodol, ond nodwyd bod y trefniadau rhithiol wedi gweithio’n wych, a diolchwyd i bawb am hwyluso hynny.

·         Yr hoffai ddymuno’n dda i David Eastwood (Cynrychiolydd Buddiannau Harbwr) oedd wedi ymddiswyddo o’r pwyllgor yn ddiweddar.  Nododd y bu’n aelod ffyddlon iawn o’r pwyllgor, ac yn gefnogol i’r staff ar hyd y blynyddoedd, a byddai colled ar ei ôl.  Ychwanegodd y Rheolwr Morwrol y byddai’n cysylltu â’r sawl sydd â buddiannau masnachol yn yr harbwr i dynnu sylw bod sedd ar gael ar y pwyllgor.

·         Y dymunai hefyd ddiolch ar ran y Gwasanaeth Morwrol i’r Cynghorydd Selwyn Griffiths am ei arweiniad a’i gefnogaeth fel Cadeirydd y pwyllgor hwn, ac hefyd fel yr aelod lleol dros Orllewin Porthmadog.  Nododd y Cadeirydd ei fod yntau’n ddiolchgar iawn i staff yr harbwr am eu gwaith.

·         Bod nifer o elfennau yn yr adroddiad ar goll ar hyn o bryd oherwydd absenoldeb salwch, ond y bwriedid cylchredeg y wybodaeth honno, sef y ffioedd a’r cyllidebau, i’r aelodau yn dilyn y cyfarfod hwn.

·         Yn sgil cysylltu â phob cwsmer yn yr harbwr, y derbyniwyd nifer o geisiadau am angorfeydd.  Bwriedid cynnal archwiliad tanddwr o’r angorfeydd yn yr harbwr cyn cyfnod y Pasg, a phwysleisiwyd pwysigrwydd cyflawni’r gwaith hwnnw oherwydd y gallai angorfeydd gwan neu ddiffygiol achosi difrod sylweddol.  Ychwanegodd, er i stormydd Chwefror daro ar benllanw, nad oedd yr un cwch wedi torri i ffwrdd, a bod hynny’n amlygu cryfder yr angorfeydd i gymryd yr holl bwysau.

·         Yn sgil llwyddiant y system gofrestru Cychod Pŵer a Badau Dŵr Personol ar-lein llynedd, y bwriedid parhau â’r un drefn ar gyfer y flwyddyn i ddod, a byddai’r system yma’n ail-agor ar 31 Mawrth ar gyfer y tymor i ddod.

·         Bod y gwasanaeth yn monitro ac yn ail-asesu’r Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd yn rheolaidd, gan ychwanegu ac addasu asesiadau risg yn ôl yr angen.  Nodwyd hefyd bod yr Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau (MCA) wedi cyhoeddi rhestr gyflawn yn y pythefnos diwethaf o harbyrau sy’n cydymffurfio â’r Cod, a bod Harbwr Porthmadog wedi’i gynnwys ar y rhestr honno.  Y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Datblygu’r Economi, oedd y Deilydd Cyfrifoldeb ar gyfer hyn, ac roedd yntau’n ymwybodol bod yr MCA wedi cymeradwyo’r Cod Diogelwch.

·         Bod marcio’r sianel mordwyo a chynnal y cymorthyddion mordwyo yn heriol gan fod y sianel yn newid yn barhaus.  Roedd y sianel wedi bod yn newid tuag at Gricieth, ond yn y pythefnos diwethaf roedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 11 Hydref, 2022 yn ddarostyngedig i’w gadarnhau gan y Cyngor Llawn.

 

Cofnod:

Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 11 Hydref, 2022.