skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Rhithiol ar Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Llywelyn Rhys (Cyngor Tref Porthmadog) a Sefydliad Bad Achub Cricieth.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 239 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Hydref, 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Hydref, 2022 fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLI'R HARBWR pdf eicon PDF 197 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr harbwr.

 

(1)     Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbwr yn rhoi diweddariad byr i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr am y flwyddyn a ddaw i ben ar ddiwedd Mawrth 2023.

 

Codwyd materion o dan y penawdau isod:-

 

Angorfeydd Porthmadog a Chofrestru Cychod

 

Ymhellach i gynnwys yr adroddiad ysgrifenedig, nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau fod yr archwiliad tanddwr o’r angorfeydd yn yr harbwr eisoes wedi’i gynnal.  Canfuwyd bod angen newid 20 cadwyn (riser) a gobeithid y byddai’r gwaith yn cychwyn yn fuan, yn amodol ar ymrwymiadau’r contractwr angorfeydd.

 

Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

 

Ymhellach i gynnwys yr adroddiad ysgrifenedig, nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau y byddai Gorchymyn Llongau Masnach (Badau Dŵr) 2023 yn dod yn weithredol ar y 31ain o Fawrth, ac y byddai’n rhoi mwy o bwerau i’r asiantaethau perthnasol i erlyn perchnogion a mordwywyr am gamddefnydd peryglus o fadau dŵr.  Roedd ganddo gyfarfod gyda’r Heddlu ar 17 Mawrth i drafod y ffordd ymlaen, a byddai mewn sefyllfa i adrodd mwy i’r aelodau yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

 

Nododd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned fod diffyg rheolaeth / gorfodaeth dros fadau dŵr personol wedi bod yn destun cryn bryder dros y blynyddoedd, a bod y newid yn y ddeddfwriaeth yn gam i’r cyfeiriad cywir.  Byddai’r trefniadau a’r rheoliadau yn datblygu dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, a gellid rhannu manylion pellach gyda’r aelodau maes o law.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol y byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn arf ychwanegol i’r Cyngor petai yna ddamwain neu ddigwyddiad yn y dyfodol.  Pwysleisiodd hefyd fod gan y Cyngor system gofrestru effeithiol mewn lle yn barod, felly petai rhywun yn cael ei weld yn troseddu gyda bad pŵer, roedd yn bwysig nodi’r rhifau cofrestru er mwyn sicrhau bod modd adnabod yr unigolyn.

 

Materion Ariannol

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Morworol esboniad llawn o gyllideb yr Harbwr 01/4/22 - 31/3/23, a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad.

 

Holwyd pam bod incwm yr Harbwr bron £10,000 yn is na’r targed.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol:-

 

·         Nad oedd pob angorfa wedi ei llenwi, ac roedd yr incwm yn ddibynnol ar brysurdeb yn ystod y tymor.

·         Nad oedd tymor 2022 mor brysur â thymor 2021, pan roedd yna gyfyngiad ar deithio dramor oherwydd Cofid.

·         Yn gyffredinol, rhagwelid y byddai tua £6,000 o orwariant, ond roedd yna gostau sylweddol eraill yn debygol o godi yn y mis nesaf, megis pwrcasu cadwyni angorfeydd a chwblhau gwaith cynnal a chadw ar gwch yr harbwr, felly byddai’r gorwariant yn debygol o gynyddu rhywfaint erbyn diwedd y mis.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned:-

 

·         Ei bod yn debyg bod y gyllideb yn seiliedig ar niferoedd hanesyddol, a gwelwyd lleihad yn gyffredinol yn nifer y cychod ar draws harbyrau’r sir.

·         Yn ogystal ag angorfeydd y Cyngor, bod yna adnoddau ychwanegol wedi’u datblygu yn Harbwr Porthmadog dros y blynyddoedd, ac yn benodol pontwns Clwb Hwylio Madog.  Roedd rhai o gwsmeriaid hanesyddol y Cyngor wedi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ETHOL SYLWEDYDDION

Ethol sylwedydd i wasanaethu ar yr isod:-

 

a) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi

b) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw

c) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli

 

Penderfyniad:

Ethol y canlynol i wasanaethu fel sylwedyddion ar y pwyllgorau isod:-

 

a)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi – Y Cynghorydd Gwilym Jones

b)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abemaw – Y Cynghorydd June Jones

c)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli – Y Cynghorydd Gwilym Jones

 

Cofnod:

Gwahoddwyd y pwyllgor i ethol sylwedydd i dderbyn gwybodaeth, neu fynychu cyfarfodydd y 3 phwyllgor harbwr arall.

 

PENDERFYNWYD ethol y canlynol i wasanaethu fel sylwedyddion ar y pwyllgorau isod:-

 

a)         Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi – Y Cynghorydd Gwilym Jones

b)        Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw - Y Cynghorydd June Jones

c)         Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli – Y Cynghorydd Gwilym Jones

 

7.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 3 Hydref, 2023 (yn ddarostyngedig i’w gadarnhau gan y Cyngor Llawn.)

 

Cofnod:

Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 3 Hydref, 2023.

 

Nododd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned nad oedd angen i’r aelodau aros tan gyfarfod Hydref os oedd ganddynt fater yn codi rhwng nawr a hynny, a bod croeso iddynt gysylltu â Swyddfa’r Harbwr yn y cyfamser.

 

Holwyd a oedd bwriad i gynnal cyfarfod nesaf y pwyllgor ar Zoom, neu wyneb yn wyneb yn y Ganolfan ym Mhorthmadog, gan y deellid nad oedd pawb o’r aelodau yn gyffyrddus yn defnyddio’r dechnoleg.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth mai polisi’r Cyngor ar hyn o bryd, yn unol â Rhan 3 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, oedd i gynnal cyfarfodydd y Cyngor Llawn, y Pwyllgor Cynllunio, y Cabinet a phwyllgorau craffu yn unig yn hybrid, gyda phob pwyllgor arall yn parhau yn rhithiol.