skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes a Peter Read

 

Croesawyd y Cynghorydd W Roy Owen fel aelod newydd i’r Pwyllgor Trwyddedu Canolog

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 49 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 3 Mehefin 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Mehefin 3ydd 2019 fel rhai cywir.

 

5.

COFNODION IS BWYLLGORAU TRWYDDEDU pdf eicon PDF 115 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd;

 

03.06.19

 

Cofnod:

Derbyniwyd, er gwybodaeth gofnodion yr Is bwyllgor a gynhaliwyd 3.06.19

 

Adroddodd y Rheolwr Trwyddedu, er gwybodaeth, bod apêl wedi ei gyflwyno gan aelodau o’r cyhoedd yn dilyn penderfyniad caniatáu trwydded Ceilwart Bungalow, North Promenade, Bermo