Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr John Brynmor Hughes ac Arwyn Herald Roberts

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 55 KB

Cofnod:

  

          Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd 25ain o Fedi 2023 fel rhai cywir

 

 

5.

COFNODION IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU CANOLOG pdf eicon PDF 125 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:

 

a)    27ain Hydref 2023

b)    25ain Medi  2023

c)    13eg Medi  2023

d)    30ain Awst 2023

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd a derbyniwyd er gwybodaeth, gofnodion yr Is Bwyllgorau Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd 30ain o Awst 2023, 13eg Medi 2023, 25ain Medi 2023, 27ain o Hydref 2023 fel rhai cywir.

 

6.

CYNLLUN TRWYDDEDU GORFODOL NEWYDD - TRINIAETHAU ARBENNIG pdf eicon PDF 164 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gynllun trwyddedu newydd ar gyfer 'Triniaethau Arbennig' fydd yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru Mehefin 2024 dan Rhan 4 Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017. Eglurwyd bod y Triniaethau Arbennig yn cynnwys tatŵio, lliwio'r croen yn lled barhaol, tyllu addurnol, aciwbigo, nodwyddo sych ac electrolysis. Cyfeiriwyd at brif ofynion y gyfundrefn ynghyd a goblygiadau’r cynllun.

 

Adroddwyd mai bwriad Llywodraeth Cymru, drwy gyflwyno'r cynllun, yw lleihau'r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â'r triniaethau hyn. Bydd gofyn i awdurdodau lleol fod yn gyfrifol am orfodi gofynion trwyddedu a chadw cofrestr o drwyddedau triniaethau arbennig a gyflwynir ganddynt. Bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r rhan fwyaf o'r gwaith ychwanegol yma gael ei amsugno i raglenni gwaith presennol o fewn Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu. Ategwyd y gall hyn effeithio ar feysydd eraill o gyflwyno gwasanaeth.

 

Yng nghyd-destun goblygiadau ar gyfer y Pwyllgor Trwyddedu, nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi datgan y bydd disgwyliad i’r gyfundrefn eistedd dan strwythurau’r pwyllgor trwyddedu gyda dogfen ymgynghorol wedi ei llunio yn amlinellu eu disgwyliadau yn nhermau llywodraethu. Ategwyd nad yw rôl y pwyllgor trwyddedu, o ran gwneud penderfyniadau ar geisiadau Trwyddedu o dan y gyfundrefn newydd wedi’i ymgorffori mewn Rheoliadau Gwrandawiadau penodol.

 

Yn dilyn trafodaethau gyda’r Adran Gyfreithiol, nodwyd y byddai mecanwaith y gwrandawiadau trwyddedu yn disgyn o dan ddarpariaethau’r Pwyllgor Trwyddedu Canolog. Amlygwyd y byddai’r Aelodau yn derbyn gwybodaeth am unrhyw ddatblygiadau / cyfarwyddiadau pellach ar y mater gan Lywodraeth Cymru a bod sesiwn hyfforddi gyda Dr Sarah Jones (Uwch Ymgynghorydd Iechyd yr Amgylchedd, sydd wedi arwain ar ddatblygiad y cynllun trwyddedu ar gyfer Llywodraeth Cymru) eisoes wedi ei drefnu ar gyfer Aelodau, Swyddogion Amgylchedd, Cyfreithiol a Democratiaeth y Cyngor. Wedi derbyn eglurder o rôl y Pwyllgor Trwyddedu Canolog, bydd y Swyddog Monitro yn adolygu’r fecanwaith fydd angen ei mabwysiadu i Gyfansoddiad y Cyngor, yn ogystal â phenderfynu ar y pwerau dirprwyedig sydd eu hangen ar gyfer swyddogion.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

 

·         Pryder y byddai cyfrifoldebau yn disgyn rhwng dau faes o fewn yr Adran Amgylchedd (Gwarchod y Cyhoedd a Thrwyddedu) - byddai hyn yn gwneud pethau yn anodd ei craffu

·         Croesawu’r angen am reolaeth a threfn drwyddedu ar gyfer y maes yma

·         Pryder nad oes arian ychwanegol / buddsoddiad yn cael ei gyflwyno gan Llywodraeth Cymru i ymgorffori’r trefniadau ychwanegol

·         Pryder bydd y gwaith yn rhoi pwysau gwaith gormodol ar wasanaeth sydd yn wynebu heriau cynnal gwasanaeth mewn byd sydd yn brysur newid

·         Bod unrhyw ddarpariaethau sydd yn gwarchod y cyhoedd yn beth da

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyfrifoldebau adran Amgylchedd, amlygwyd mai Pennaeth yr Adran Amgylchedd sydd yn gyfrifol am holl elfennau gwaith Gwarchod y Cyhoedd a Thrwyddedu a bod staff y gwasanaethau yn ymwybodol ac yn eglur eu cyfrifoldebau ac atebolrwydd. Ategwyd bod y sgiliau a'r cymwysterau perthnasol gan y staff a bod cydweithio da rhwng y ddau wasanaeth. O ran rôl yr Aelodau, bydd y gwaith yn cael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.