Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Anwen Davies, Linda Ann Jones, Eryl Jones-Williams
and Elfed Williams |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Rhagfyr 4ydd 2023 fel
rhai cywir |
|
COFNODION IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU CANOLOG PDF 129 KB Cofnod: Cyflwynwyd a
derbyniwyd er gwybodaeth, gofnodion yr Is Bwyllgorau Trwyddedu Canolog a
gynhaliwyd 26 Ionawr 2024 fel rhai cywir. |
|
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus statudol, gofynnir i’r Pwyllgor
Trwyddedu gymeradwyo’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu ar gyfer ei gyfeirio at y Cyngor ar gyfer ei fabwysiadu Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn amlygu’r angen i bob Awdurdod Trwyddedu
gyhoeddi datganiad o Bolisi Trwyddedu bob 5 mlynedd. Eglurwyd bod y Datganiad o
Bolisi presennol wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn Rhagfyr 2015, a’r cyfnod 5 mlynedd felly wedi dod i ben ers 2021.
Er i’r Pwyllgor gymeradwyo adolygiad drafft o’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu ar
gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ym Mehefin 2021, bu oediad cyn symud ymlaen gyda’r adolygiad oherwydd bod y Gwasanaeth yn
rhoi blaenoriaeth i waith gorfodaeth cyfnodau clo covid. Nodwyd bod chwe sir y Gogledd wedi penderfynu sefydlu Grŵp Tasg er
mwyn cydweithio i greu datganiad o Bolisi Trwyddedu oedd yn cysoni elfennau
cyffredin ar draws y rhanbarth. Ategwyd, bod y Grŵp Tasg hefyd wedi ceisio
cydweithio ar gysondeb, strwythur a chynnwys y datganiad, ond oherwydd
ffactorau economaidd a chymdeithasol gwahanol, nodwyd bod pob datganiad wedi ei
eirio ychydig yn wahanol ac yn parhau i fod yn berthnasol i’w ardal benodol. Gyfeiriwyd at fan newidiadau i’r polisi megis cyfeiriad at Ddeddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Bwrdd
Iechyd yn y broses o lunio polisi ynghyd ag ymateb i geisiadau am drwydded
eiddo. Er y newidiadau, adroddwyd nad oedd ysbryd na gweledigaeth y polisi wedi
newid. Yng nghyd-destun ymgynghoriad ffurfiol, cynhaliwyd ymgynghoriad dros fis
Rhagfyr 2023 ac Ionawr 2024 gyda Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân &
Achub Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Pobl/Cyrff sy’n cynrychioli
busnesau a thrigolion y Sir, Pobl/Cyrff sy’n cynrychioli deiliaid
trwydded/tystysgrif gyfredol ynghyd a chopi o’r ddogfen oedd ar gael i’w
harchwilio yn Siop Gwynedd ac ar-lein. Adroddwyd na chafwyd ymateb a hynny
efallai oherwydd nad oedd y polisi drafft newydd yn cynnwys unrhyw newidiadau
dadleuol. Amlygwyd bod Asesiad Effaith Cydraddoldeb ar y datganiad cyfredol
hefyd wedi ei gwblhau oherwydd bod newidiadau wedi eu gwneud i’r polisi ers
2015. Diolchwyd am yr
adroddiad Cynigiwyd ac eiliwyd
cymeradwyo’r Polisi PENDERFYNWYD: ·
Derbyn yr adroddiad ·
Cymeradwyo’r Datganiad o Bolisi
Trwyddedu a’i gyfeirio at y Cyngor Llawn i’w fabwysiadu (Mai 2024) |