skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Roy Owen.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 210 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd 13 Medi 2021 fel rhai cywir.

 

5.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 226 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion yr Isbwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canynol:

 

a)    01/11/21

b)    05/10/21

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

6.

RHEOLI SEFYDLIADAU RHYW - DEDDF LLYWODRAETH LEOL (DARPARIAETHAU AMRYWIOL) 1982 pdf eicon PDF 275 KB

I gymeradwyo trefn prosesu ceisiadau, ffioedd ac amodau safonol ar gyfer trwyddedu a rheoleiddio sefydliadau rhyw

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Cymeradwyo Mabwysiadu ledled y sir y Datganiad o Bolisi Trwyddedu Sefydliadau Rhyw  fydd yn gosod gweithdrefnau ac amodau  er mwyn caniatáu rheoleiddio sefydliadau rhyw drwy gyfundrefn drwyddedu; yn weithredol o’r 6ed o Ragfyr 2021 yn ddarostyngedig i gynnwys y Bwrdd Iechyd Lleol ym mharagraff 3.4 o’r Polisi (rhestr ymgynghorwyr)

 

  • Cymeradwyo gosod y ffi a nodir sydd yn adlewyrchu gweinyddu a phrosesu  ceisiadau am drwydded sefydliad rhyw a chymeradwyo adolygiad blynyddol o’r ffioedd hynny.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Amgylchedd yn amlygu’r angen i’r Awdurdod Trwyddedu sydd yn dymuno rheoleiddio sefydliadau rhyw yn ei ardal, fabwysiadu darpariaethau Atodlen 3 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009.

 

Penderfyniad unfrydol y Pwyllgor hwn (13 Medi 2021) oedd argymell i’r Cyngor Llawn fabwysiadu’r grymoedd ac ar y 7fed o Hydref 2021 penderfynodd y Cyngor llawn i gymeradwyo mabwysiadu’r drefn rheoleiddio ar gyfer sefydliadau rhyw fel a ganlyn

·         Mabwysiadu ledled y sir Atodlen 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009, gan ddod yn weithredol ddim cynt na 1 Rhagfyr 2021.

·         Cyfarwyddo’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gyhoeddi’r hysbysebion statudol ynghlwm â’r penderfyniad i fabwysiadu am 2 wythnos yn olynol, gyda’r cyntaf ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn y dyddiad y daw'r penderfyniad i rym.

·         Dirprwyo’r materion o bennu ffioedd, gosod amodau safonol a chynllun prosesu’r ceisiadau i’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol

 

Yn unol â chyfarwyddyd y Cyngor llawn a gofynion cyfreithiol cadarnhawyd bod rhybudd statudol wedi ei gyhoeddi yn y wasg ynghlwm â’r penderfyniad i fabwysiadu am 2 wythnos yn olynol, gyda’r cyntaf  wedi ymddangos dim hwyrach na 28 diwrnod cyn y dyddiad y daeth y penderfyniad i rym.

 

          Eglurwyd bod y Cyngor yn ystyried pob cais am drwydded yn unol â’i rinweddau ei hun er mwyn sicrhau cysondeb, tegwch a thryloywder. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Gwasanaeth Trwyddedu a’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol dros y blynyddoedd wedi mabwysiadu sawl polisi ac egwyddorion cyffredinol er pwrpas cynnig arweiniad wrth ystyried ceisiadau am drwydded. O ganlyniad, lluniwyd dogfen bolisi, er cymeradwyaeth y Pwyllgor, yn cwmpasu’r prosesau a fabwysiedir mewn perthynas â Sefydliadau Rhyw. Ategwyd bod y Polisi yn manylu ar y broses o geisio am drwydded, adnewyddu, amrywio a throsglwyddo trwyddedau sefydliad rhyw mewn perthynas ag eiddo sydd yn gweithredu oddi fewn i  ddalgylch Cyngor Gwynedd.

 

          Cyfeiriwyd at y broses trwyddedu ynghyd a’r amodau safonol a’r ffioedd i’w talu. Amlygwyd bod deddfwriaeth yn gosod hawl i godi ffi am drwyddedau sefydliadau rhyw a bod y Cyngor wedi gosod ffi sydd yn ddigonol i adennill costau yn unig. Y bwriad yw adolygu’r ffioedd trwyddedau yn flynyddol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Ymatebion i gwestiynau a godwyd yn y drafodaeth ddilynol:

 

Mewn ymateb i sylw bod angen ystyried lleoliad addas ar gyfer unrhyw sefydliad rhyw, gan osgoi e.e. ger ysgolion, nodwyd bod  y polisi yn un grymus a chynhwysfawr oedd yn rhoi ystyriaeth i bob sefyllfa posib.

 

Mewn ymateb i awgrym i  gynnwys y Bwrdd Iechyd Lleol yn y rhestr ymgynghorwyr (paragraff 4.3 o’r adroddiad (3.4 o’r polisi), ystyriwyd hyn yn rhesymol a bod modd ychwanegu’r Bwrdd Iechyd i’r rhestr os mai dyma ddymuniad y Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r ffurflen gais am drwydded, nodwyd bod y ffurflen gais yn ffurflen safonol (fel yr un ar gyfer trwydded eiddo) ac yn gyson gyda ffurflenni awdurdodau eraill.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am sut roedd y ffioedd yn cymharu gyda ffioedd siroedd eraill,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.