Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

COFNODION:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Peter Read, Louise Hughes, Tudor Owen a Elfed W. Williams

 

Adroddwyd bod y Cynghorydd Tudor Owen wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar a dymunwyd gwellhad buan iddo a phenderfynwyd anfon cerdyn iddo gan y Pwyllgor.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

COFNODION:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

COFNODION:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 231 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20.06.16 fel rhai cywir  

COFNODION:

 Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 20fed o Fehefin 2016 fel rhai cywir.

 

 

5.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 207 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinnol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:

 

a)    25.05.16

b)    04.10.16

c)    19.10.16

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

 Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd 25.05.16, 04.10.16 a 19.10.16

 

 

6.

TRWYDDEDU TACSIS A DEDDF MEWNFUDO 2016 pdf eicon PDF 164 KB

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio yn amlygu diwygiadau i’r Ddeddf Mewnfudo 2016  a oedd wedi dod i rym ar y 1af o Ragfyr 2016. Pwrpas y diwygiadau oedd sicrhau nad yw Awdurdodau Trwyddedu yn cyflwyno trwyddedau i fewnfudwyr anghyfreithlon ac yn cyflawni'r ddyletswydd yma drwy wiriadau mewnfudo.

 

Wrth ymhelaethu ar y cefndir nodwyd,

·      Bod y Ddeddf yn diwygio cyfundrefnau trwyddedu presennol yn y DU i geisio atal gweithio anghyfreithlon yn y sector trwyddedu tacsis/cerbydau hurio preifat a cherbydau hacni.

·      Bod y Ddeddf 2016 yn ymgorffori dulliau diogelu mewnfudiad yng nghyfundrefnau trwyddedu presennol yng nghyswllt Deddf Trwyddedu 2003 ar draws y DU, ond nid yw trefniadau ar gyfer y darpariaethau yma wedi'u cadarnhau

 

Tynnwyd sylw at effaith y mesurau newydd a oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ynghyd â dyletswyddau’r Awdurdodau Trwyddedu i weithredu diwygiadau i’r Ddeddf.

 

Wrth ystyried goblygiadau gweithredu'r diwygiadau hyn, nodwyd bod pob deddfwriaeth newydd yn cyflwyno mwy o waith sydd fel arfer, yn gam arall mewn proses yn hytrach na gwaith o’r newydd. Eglurwyd, er bod Swyddogion Trwyddedu eisoes yn gwirio rhai o'r dogfennau sydd eu hangen dan Ddeddf Mewnfudo 2016, y byddai’r gofynion newydd yn golygu cynnal pob gwiriad ym mhresenoldeb yr ymgeisydd; gallai'r gwiriadau a cheisiadau  cychwynnol  gymryd mwy o amser i'w prosesu ynghyd a threfnu i swyddogion dderbyn hyfforddiant pellach ar adnabod dogfennau ffug. Gan mai camau ychwanegol sydd yn ymddangos i’r broses gwirio ceisiadau, anodd yw mesur y goblygiadau yn llawn ac efallai bydd darlun mwy eglur o’r sefyllfa ymhen 6 mis.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r Ddeddfwriaeth yn dod i rym ar y 1af o Ragfyr, eglurwyd bod y canllawiau wedi eu derbyn ar ôl y dyddiad yma ac nad oedd fersiwn Gymraeg o’r canllawiau ar gael

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rhannu'r wybodaeth gyda chwmnïau tacsi, nodwyd nad oedd newyddlen wedi ei dosbarthu ac felly derbyniwyd yr awgrym i greu taflen syml a dealladwy ar gyfer y cwmnïau tacsi fyddai yn amlinellu diwygiadau'r Ddeddf Mewnfudo 2016.

 

Derbyniwyd y wybodaeth

 

 

7.

FFORDD GWYNEDD - YMARFER TRWYDDEDU

Ystyried adroddiad y Rheolwr Trwyddedu

COFNODION:

Cafwyd diweddariad ar lafar gan yr Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd ar ymarferiadau’r gwasanaeth trwyddedu dros y 12 mis diwethaf i adolygu eu prosesau gwaith er mwyn sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i’r hyn sydd yn cael ei weithredu.

 

Nodwyd bod y broses yn rhoi cyfle i bawb gael mewnbwn i’r adolygiad gwasanaeth a bod y broses wedi adnabod cyfleoedd megis,

·         Cysoni a rhesymoli polisïau trwyddedu tacsi

·         Cyflwyno hunanwasanaeth

·         Diddymu elfennau  nad oes gwerth iddynt o fewn proses – angen creu proses llyfn

 

Camau nesaf yr ymarfer yw adnabod yr adnodd i wella a hwyluso

 

Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol;

 

·         Angen sicrhau cysondeb ffioedd tacsi

·         Angen diweddaru'r Pwyllgor yn aml o’r sefyllfa er mwyn sicrhau cefnogaeth i hwyluso'r broses ymlaen

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â hwyluso’r adolygiadau, nodwyd y byddai’r Adran yn edrych am gefnogaeth y Pwyllgor ynghyd a rhoi arweiniad  i’r broses. Awgrymwyd sefydlu gweithgor i drafod yr adolygiadau a sicrhau mewnbwn.

 

Derbyniwyd y wybodaeth a diolchwyd i’r Adran am y gwaith.