Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Annwen Daniels, Annwen Hughes, John Brynmor Hughes, Sion Jones a Jason W Parry,

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 309 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11.09.17 fel rhai cywir  

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 11eg o Fedi 2017 fel rhai cywir.

 

5.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 297 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:

 

a)    22.08.17

b)    13.11.17

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd 22.8.17 a 13.11.17

 

6.

GWEITHREDU DEDDF CYDRADDOLDEB 2010 - TACSIS HYGYRCH AR GYFER CADEIRIAU OLWYN pdf eicon PDF 242 KB

I ystyried adroddiad Pennaeth Adran yr Amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Adran yr Amgylchedd yn cynghori'r Aelodau ar yr elfennau hynny o’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sydd yn weithredol ers Ebrill 2017. Adroddwyd bod  adrannau 165, 166 a 167, sydd yn berthnasol i gerbydau sydd yn hygyrch i gadeiriau olwyn, yn ei gwneud hi yn ofynnol i’r Awdurdod Trwyddedu benderfynu os ydynt yn dymuno cyhoeddi rhestr o gerbydau sydd wedi eu dynodi fel rhai hygyrch. Y bwriad yw sicrhau bod gwell gwybodaeth ar gael i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn am y cerbydau hynny sydd yn addas ar eu cyfer, yn eu hardaloedd, ac iddynt fod yn hyderus y byddant yn derbyn cymorth angenrheidiol i deithio’n ddiogel.

 

Ategwyd bod Adran 167 o’r Ddeddf yn rhoi caniatâd i’r Awdurdodau gynnal rhestr ddynodedig o gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn. Er nad oes rhwymedigaeth gyfreithiol  na gofyn statudol i gynnal rhestr o’r fath, nodwyd bod y llywodraeth yn awgrymu’n gryf y dylai Awdurdodau Lleol gadw'r rhestr yn gywir a chyfredol. Cyfeiriwyd at ganllawiau statudol y mae'r Adran Drafnidiaeth wedi eu pennu ynghylch gweithredu’r adrannau ynghyd ag argymell pa brosesau y dylai’r Awdurdodau Lleol eu hystyried i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu’n effeithiol.

 

Adroddwyd bod 53 o gerbydau trwyddedig fyddai yn cael eu dynodi fel rhai sydd yn hygyrch i gadeiriau olwyn yng Ngwynedd (13% o gyfanswm y Sir). Nodwyd y byddai cyhoeddi rhestr yn  ffordd o annog cynnydd mewn ceisiadau am drwydded cerbydau o’r fath ac yn anogaeth i gwmnïau sylweddoli bod gwerth economaidd posib i gynnwys cerbyd hygyrch fel rhan o’u fflyd.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

-       Y byddai rhestr yn gosod fframwaith i ddarpariaeth Cyngor Gwynedd

-       Yn ganllaw da i hyrwyddo gwasanaeth

-       Bod posibilrwydd i gydweithio a rhannu'r rhestr  gydag ysbytai'r Sir

-       Delfrydol y dylai pob cerbyd hacni fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac y dylai hyn fod yn weledigaeth i’r dyfodol

-       Bod angen cyflwyno cyfundrefn newydd yn raddol i annog defnydd o geir amlbwrpas – angen i’r Cyngor fod yn arloesol

-       Cwmnïau llai yn debygol o fuddsoddi petai pwysau yn dod gan y cyhoedd

-       Bod her i’r Adran gadw'r rhestr yn gyfredol

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo:

 

a)           gweithredu gofynion adrannau 165, 166 a 167 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

b)           bod y swyddogion yn paratoi polisi, i'w ystyried gan y pwyllgor, ar y meini prawf ar gyfer eithriadau a'r gweithdrefnau ar gyfer gyrwyr na allent gydymffurfio â'r dyletswyddau a osodir yn y Ddeddf am resymau meddygol neu gorfforol.

c)           bod y darpariaethau polisi ar gyfer rhoi'r gweithdrefnau hyn ar waith yn cael eu cynnwys yn yr adolygiad o bolisïau tacsis sydd ar y gweill ar hyn o bryd; a'u cynnwys yn y polisi tacsis unedig fydd yn barod i ymgynghori arno yn fuan.

 

 

7.

ADOLYGU POLISÏAU TACSI CYNGOR GWYNEDD

I dderbyn diweddariad ar lafar ar yr adolygiad

Cofnod:

Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Rheolwr Trwyddedu ar y broses o adolygu holl bolisïau tacsis Cyngor Gwynedd gan atgoffa’r Aelodau mai'r bwriad oedd cyflwyno un polisi unedol fydd yn cynnwys penderfyniad y Pwyllgor i weithredu adrannau 165, 166 a 167 o’r Ddeddf Cydraddoldeb. Adroddwyd bod James Button (JB) (Cyfreithiwr arbenigol yn y maes trwyddedu) hefyd yn cynnal adolygiad cenedlaethol i atgyfnerthu a gwella'r polisi collfarnau. Ategwyd bod Cyngor Gwynedd yn croesawu'r gwaith yma ac yn gwerthfawrogi unrhyw welliant / diweddariad, gan fod y Cyngor yn gwneud defnydd helaeth o’r polisi wrth ystyried ceisiadau trwydded hacni / gyrrwr tacsi. Adroddwyd y byddai adolygiad JB yn debygol o fod wedi ei gwblhau erbyn Ebrill 2018 ac y bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cynnwys ym mholisi unedol Gwynedd.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

-       Croesawu'r angen i resymoli a chysoni'r polisïau ar gyfer y 3 ardal yng Ngwynedd

-       Angen sicrhau polisi collfarnau cyffredinol i bawb - ar hyn o bryd y polisïau yn cael eu camddehongli sydd yn gwneud rhai sefyllfaoedd yn anodd

-       Angen sicrhau bod yr addasiadau / newidiadau yn cael eu gweithredu gyda'i gilydd - un addasiad

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag amserlen cyhoeddi'r polisi unedol, amlygwyd y byddai hyn yn ddibynnol ar sicrhau bod yr holl elfennau yn barod ynghyd a chynnal ymgynghoriad ffurfiol, swyddogol. Ategwyd mai’r elfennau fydd yn gyrru’r amserlen, ond gobeithiol  y byddai’r polisi unedol yn weithredol erbyn Mehefin 2018.

 

DERBYNIWYD y wybodaeth