skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2019 - 2020

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Elfed Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2019 – 2020

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is gadeirydd ar gyfer 2019 - 2020

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Annwen Hughes yn Is Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2019 – 2020

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Sïon Jones           

 

Croesawyd y Cynghorydd Gareth Jones fel aelod newydd i’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Gwnaed cais gan y Cynghorydd  Eryl Jones Williams i drafod a chadarnhau aelodaeth panel ar gyfer ceisiadau trwyddedu cerbydau  tu allan i bolisi. Nododd y Swyddog Trwyddedu bod y Polisi Tacsi Unedol yn cael ei adolygu, ond yn y cyfamser bod  ceisiadau wythnosol yn cael ei gwneud i’r panel gan nad yw’r swyddogion gyda’r awdurdod i wneud penderfyniad. Amlygwyd bod y panel yn cynnwys tri aelod - fel arfer y Cadeirydd, Is-gadeirydd, cyn gadeiryddion neu’r aelod mwyaf profiadol.

 

PENDERFYNWYD enwebu'r Cynghorwyr Elfed Williams, Annwen Hughes a Peter Read fel aelodau i’r panel.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 68 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11 Ebrill 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 11eg o Ebrill 2019 fel rhai cywir.

 

Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor i enwebu aelodau ar gyfer cylch gorchwyl i ystyried cynnwys Polisi Trwyddedu Tacsi Unedig (drafft) amlygodd y Swyddog Trwyddedu y byddai cyfarfod cychwynnol o’r cylch gorchwyl yn cael ei drefnu ymhen 6 wythnos.

 

 

7.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 88 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinnol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:

 

 

a)    16.04.2019

b)    12.04.2019

c)    20.03.2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd 16.04.2019, 12.04.19 a 20.03.19

 

          Mynegodd y Cynghorydd Eryl Jones Williams ei fod yn dymuno camu i lawr fel un o gadeiryddion yr Is Bwyllgorau a diolchodd i’r Aelodau a’r swyddogion am eu cefnogaeth.

 

          Diolchodd y Cynghorydd Peter Read i aelodau’r Pwyllgor a’r swyddogion am eu cefngoaeth tra yn Gadeirydd y Pwyllgorau Trwyddedu.