Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Angela Russell Croesawyd y Cynghorydd W Gareth Roberts fel aelod newydd i’r
Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan
unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 9fed o
Fedi 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Medi
9fed 2019 fel rhai cywir. |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL PDF 109 KB Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor
Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol: a) 01.08.2019 b) 18.09.2019 c) 20.09.2019 d) 07.10.2019 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd, er gwybodaeth gofnodion yr Is bwyllgorau a gynhaliwyd 1af o
Awst 2019, 18 Medi 2019, 20 Medi 2019 a’r
7fed o Hydref 2019 |
|
DIRPRWYO HAWLIAU I BENDERFYNU AR GEISIADAU TRWYDDEDAU TACSI PDF 134 KB I ystyried yr
adroddiad Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Pennaeth yr Amgylchedd yn gofyn i’r Pwyllgor gefnogi’r egwyddor o
adolygu’r cynllun dirprwyo cyfredol. Eglurwyd bod gan y Cyngor, fel Awdurdod
Trwyddedu ddyletswydd o dan y Ddeddf Cymalau Heddluoedd Trefol 1847 a’r Ddeddf
Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i drwyddedu gyrwyr a cherbydau
hurio preifat a hacni, a gweithredwyr. Ategwyd ei bod
yn ofynnol i’r Awdurdod sicrhau bod y sawl sydd yn ymgeisio am drwydded gyrrwr/
gweithredwr, neu’n ymgeisio i adnewyddu trwydded o’r fath, yn unigolyn ‘addas a
phriodol’ i ddal y drwydded honno. Atgoffwyd yr Aelodau mai prif bwrpas
trwyddedu cerbydau, gweithredwyr a gyrwyr yw diogelu iechyd y cyhoedd. Dyma’r
flaenoriaeth mae’r Cyngor wedi ei ystyried wrth fabwysiadau trefn bwrpasol i
geisio cyfarch hyn. Tynnwyd sylw
at eiriad y Cyfansoddiad sydd yn gosod trefn benodol o ran pa benderfyniadau
sydd wedi eu dirprwyo i swyddogion; a pha benderfyniadau sydd yn disgyn o dan
gyfrifoldebau’r Is-Bwyllgor ynghyd a’r hawliau dirprwyedig sydd wedi ei
dirprwyo i Pennaeth yr Amgylchedd sydd yn awdurdodi swyddogion ar ei ran. Wrth drafod y drefn bresennol nodwyd bod gwydnwch i benderfyniadau’r
Is Bwyllgor oherwydd bod pob ymgeisydd yn
derbyn gwrandawiad teg. Rhoddir cyfle
i bob ymgeisydd roi cefndir o ran y troseddau ac mae
adroddiad ac argymhelliad y
Swyddog Trwyddedu yn ogystal â thystiolaeth
a gyflwynir yn sicrhau bod gan yr Is bwyllgor y dystiolaeth ar wybodaeth angenrheidiol ar gyfer gwneud
penderfyniad. Bydd yr ymgeisydd yn
derbyn eglurhad llawn ar lafar
ac yn ysgrifenedig am resymeg y penderfyniad gan y Cyfreithiwr. Tynnwyd sylw'r Aelodau at bedwar opsiwn dechreuol a gynigiwyd gan Pennaeth
yr Amgylchedd. Amlygwyd bod trefniadau dirprwyo penderfyniadau yn amrywio o Gyngor
i Gyngor, ond o safbwynt Cyngor Gwynedd amlinellwyd bod rôl bwysig i’r Is Bwyllgor
yng nghyd-destun gwneud penderfyniadau, ond bod her o ddiffinio beth yw’r amgylchiadau
lle dylid cyfeirio cais i
Is bwyllgor. Cynigwyd
ac eiliwyd i ystyried adolygu’r cynllun dirprwyo cyfredol gan roi
hawl i’r Gwasanaeth Trwyddedu, mewn ymgynghoriad gyda’r Adran Gyfreithiol
i ymchwilio ymhellach i’r opsiynau
dechreuol. Sylwadau yn
codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Derbyn
bod rhai ymgeiswyr yn aros yn
hir am benderfyniad ·
Bod rhai
penderfyniadau
yn hawdd i’w dirprwyo ·
Bod llwyth
gwaith di angen yn cael ei greu gan y drefn bresennol ·
Bod yr
Is bwyllgor yn barod i gymryd y baich
yn hytrach na rhoi gormod
o gyfrifoldeb ar swyddog ·
Bod hi’n
amser moderneiddio ac adolygu’r drefn ·
Bod rhaid
ystyried ymddygiad os nad oes collfarn Ategodd
y Cyfreithiwr bod geiriad yr opsiynau yn
yr adroddiad yn rhy gyffredinol
a bod angen sicrhau geiriad pendant, manwl a phenodol i’r opsiynau
terfynol PENDERFYNWYD, ·
derbyn yr adroddiad ·
cefnogi’r egwyddor o’r adolygu’r
cynllun dirprwyo cyfredol ·
Ystyried yr opsiynau dechreuol
a rhoi cymeradwyaeth i’r Gwasanaeth Trwyddedu mewn ymgynghoriad gyda’r Gwasanaeth Cyfreithiol i edrych mewn
mwy o fanylder ar yr opsiynau
neu gyfuniad ohonynt ac adrodd yn ôl i’r
Pwyllgor gydag opsiynau terfynol a’r opsiwn a ffafrir
cyn diwedd Mawrth 2020. |