skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2021 / 22

Penderfyniad:

ETHOL Y CYNGHORYDD ANNWEN HUGHES YN GADEIRYDD AR GYFER 2021/22

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ETHOL Y CYNGHORYDD ANNWEN HUGHES YN GADEIRYDD AR GYFER 2021/22

 

Diolchwyd i’r Cynghorydd Elfed Williams am ei waith fel Cadeirydd y Pwyllgor dros y ddwy flynedd diwethaf a hefyd am ei gefnogaeth i'r Is-bwyllgorau Trwyddedu.

 

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is gadeirydd ar gyfer 2021 / 22

Penderfyniad:

ETHOL Y CYNGHORYDD EDGAR OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2021/22

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ETHOL Y CYNGHORYDD EDGAR OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2021/22

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes a’r Cynghorydd Jason W Parry

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

·         Bod cais wedi dod i law gan yr Awdurdod Trwyddedu Lleol i fabwysiadau Adran 2 ac Atodlen 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau amrywiol) 1982 yn dilyn cais i agor Siop Rhyw yn Abermaw. Bydd angen i’r Cyngor ystyried mabwysiadu hawl i ystyried y cais gan sicrhau bod trefniadau rheoleiddio pwrpasol yn eu lle. Ategwyd yr angen i gynnal cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol er mwyn derbyn cymeradwyaeth y Pwyllgor i ddechrau ymgynghoriad statudol i’r mater.

 

·         Tynnwyd sylw at sedd Aelod Unigol sydd wedi bod yn wag ers tro bellach ar restr Aelodaeth y Pwyllgor. Awgrymwyd i’r mater gael ei gyfeirio at y Grŵp Busnes

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 208 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 15 Mawrth 2021 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Mawrth 15fed 2021 fel rhai cywir

 

 

7.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 310 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion o gyfarfod Is bwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol:

 

a) 2 Mawrth 2021

Cofnod:

Derbyniwyd, er gwybodaeth gofnodion yr Is bwyllgor a gynhaliwyd 2il Mawrth 2021