skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Steve Collings a’r Cynghorydd Roy Owen.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 214 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19 Gorffennaf 2021 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

 

          Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Gorffennaf 19 2021 fel rhai cywir.

 

Llongyfarchwyd Geraint B Edwards (Cyfreithiwr) ar ei benodiad fel Cyfreithiwr yn Sir Fynwy. Diolchwyd iddo am ei gyngor a’i gefnogaeth i’r Pwyllgorau Trwyddedu a’r Is-bwyllgorau Trwyddedu dros y blynyddoedd a dymunwyd y gorau iddo yn ei swydd newydd.

 

5.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 289 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion o gyfarfod Is bwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol:

 

a) 15 Mawrth 2021

 

Cofnod:

Derbyniwyd, er gwybodaeth gofnodion yr Is bwyllgorau a gynhaliwyd 15 Mawrth 2021

 

6.

RHEOLI SEFYDLIADAU RHYW - DEDDF LLYWODRAETH LEOL (DARPARIAETHAU AMRYWIOL) 1982 pdf eicon PDF 288 KB

I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo argymhelliad i’r Cyngor Llawn fabwysiadu grymoedd i reoleiddio sefydliadau rhyw ac argymhellion cysylltiol yn dilyn sylwadau ymgynghoriad cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Pwyllgor yn argymell i’r Cyngor Llawn:

 

·         Fabwysiadu ledled y Sir Atodlen 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009, gan ddod yn weithredol ddim cynt na 1 Rhagfyr 2021

 

·         Cyfarwyddo’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gyhoeddi’r hysbysebion statudol ynghlwm â’r penderfyniad i fabwysiadu am 2 wythnos yn olynol, gyda’r cyntaf ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn y dyddiad y daw'r penderfyniad i rym

 

·         Dirprwyo’r materion o bennu ffioedd, gosod amodau safonol a chynllun prosesu ceisiadau i’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Amgylchedd yn amlygu’r angen i’r Awdurdod Trwyddedu sydd yn dymuno rheoleiddio sefydliadau rhyw yn ei ardal, i fabwysiadu darpariaethau Atodlen 3 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009.

 

Cyfeiriwyd at gefndir y sefyllfa yng Ngwynedd a’r grymoedd sydd yn bodoli ar hyn o bryd ynghyd a phenderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol (19 Gorffennaf 2021) i gymeradwyo ymgymryd â phroses o ystyried mabwysiadu Atodlen 3 er mwyn sicrhau cyfundrefn trwyddedu a rheoleiddio sefydliadau rhyw drwy’r Sir. Yn ogystal cymeradwywyd proses o ymgynghori am 28 diwrnod ac fe lansiwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y 26ain o Orffennaf a daeth i ben ar y 23ain  Awst.

 

Cyhoeddwyd datganiad i’r wasg a bu ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad ar y cyfryngau cymdeithasol. Ymgynghorwyd gyda phartneriaid allweddol (gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned) a’u gwahodd i gyfrannu at yr ymgynghoriad, Yn ogystal rhoddwyd holiadur ar wefan y Cyngor ac fe dderbyniwyd 102 o ymatebion i’r holiadur hwnnw. Adroddwyd bod mwyafrif amlwg (68%) o’r ymatebion cyflawn a ddaeth i law, o blaid mabwysiadau Atodlen 3 i gael trefn rheoleiddio sefydliadu rhyw yn y Sir. O ganlyniad, argymhellwyd bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cyngor Llawn fabwysiadu Atodlen 3 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982  ynghyd ag argymhellion cysylltiol. Rhagwelwyd cyflwyno’r mater gerbron y Cyngor Llawn ar y 7fed o Hydref 2021.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

          Cynigiwyd ac eiliwyd i gymeradwyo’r argymhelliad

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cyngor Llawn:

 

·         Fabwysiadu ledled y sir Atodlen 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009, gan ddod yn weithredol ddim cynt na 1 Rhagfyr 2021

 

·         Cyfarwyddo’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gyhoeddi’r hysbysebion statudol ynghlwm â’r penderfyniad i fabwysiadu am 2 wythnos yn olynol, gyda’r cyntaf ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn y dyddiad y daw'r penderfyniad i rym

 

·         Dirprwyo’r materion o bennu ffioedd, gosod amodau safonol a chynllun prosesu ceisiadau i’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol