Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023 /24

Penderfyniad:

Cofnod:

PENDERFYNWYD ETHOL Y CYNGHORYDD ELFED WILLIAMS YN GADEIRYDD AR GYFER 2023/24

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2023 / 24

Penderfyniad:

ETHOL Y CYNGHORYDD GWYNFOR OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2023/24

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ETHOL Y CYNGHORYDD GWYNFOR OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2023/24

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Anwen Davies, Alan Jones Evans ac Angela Russell

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w  nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 131 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd 5ed Rhagfyr 2022  fel rhai cywir

 

7.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 216 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinnol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:

 

1.    13 Mawrth 2023

2.    10 Chwefror 2023

3.    23 Ionawr 2023

4.    14 Rhagfyr 2022

5.    23 Tachwedd 2022

6.    14 Tachwedd 2022

7.    08 Tachwedd 2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd a derbyniwyd er gwybodaeth, gofnodion yr Is Bwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd 13 Mawrth 2023, 10 Chwefror 2023, 23 Ionawr 2023, 14 Rhagfyr 2022, 23 Tachwedd 2022, 14 Tachwedd 2022 a 08 Tachwedd 2022 fel rhai cywir.

 

8.

FFIOEDD ARFAETHEDIG TRWYDDEDAU TACSIS 2023/24 pdf eicon PDF 272 KB

I ystyried cymeradwyo'r cynnig i godi’r ffioedd i’r lefel a argymhellir ; yn ddarostyngedig i yn ymgynghoriad gyda’r diwydiant tacsi ac ymgynghoriad drwy rybudd cyhoeddus.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r cynnig i godi’r ffioedd i’r lefel a argymhellwyd: yn ddarostyngedig i ymgynghoriad gyda’r diwydiant tacsi ac ymgynghoriad drwy rybudd cyhoeddus.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo ffioedd arfaethedig trwyddedau tacsi 2023/24. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Pwyllgor, yn ôl yn 2013, wedi  penderfynu y byddai ffioedd tacsi yn cael eu hadolygu yn flynyddol a hynny i adennill costau llawn o dderbyn, prosesu a gweinyddu trwyddedau yn unig. Amlygwyd nad oedd ffioedd Gwynedd wedi newid ers 2019 ac er yr adolygwyd y sefyllfa yn 2020/21, penderfyniad y Pwyllgor oedd peidio cynyddu ffioedd oherwydd sgil effeithiau argyfwng covid.

 

Adroddwyd bod yr Awdurdod Trwyddedu yn cydnabod fod costau cynnal a chadw cerbydau, costau yswiriant a chostau tanwydd wedi bod yn cynyddu dros yr 18 mis diwethaf, a bod y sefyllfa wedi bod yn anodd i’r diwydiant tacsi wrth ddod allan o’r cyfnod covid.

 

Amlygwyd, yng nghyd-destun costau’r Uned Trwyddedu, bod chwyddiant, ynghyd a  ffactorau megis anghenion hyfforddiant swyddogion, costau hysbysebu ac ymgynghori ar newidiadau i’r prisiau, a chynnydd yn y lefel gwiriadau sydd angen eu gwneud i sicrhau addasrwydd gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr hefyd yn ystyriaethau ar gyfer cynyddu costau darparu’r gwasanaeth trwyddedu tacsis. Ategwyd yr angen i gwblhau Adolygiad y Polisi Tacsi Unedig, fydd yn mabwysiadu argymhellion Safonau Statudol Cerbydau Hacni a Hurio Preifat  Cenedlaethol yr Adran Drafnidiaeth; yn ogystal ag ymgorffori'r newidiadau  pellgyrhaeddol arfaethedig fydd yn debygol o ddeillio o  ymgynghoriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar sut mae’r diwydiant tacsi yn cael ei reoleiddio. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd fawr o ddewis ond cynyddu’r ffioedd os am gynnal y gwasanaeth a ddisgwylir gan y cyhoedd a’r diwydiant.

 

Adroddwyd bod y diffyg  incwm a geir am y gwahanol drwyddedau tacsi yn amrywio; yn ddibynnol ar yr ymdrech ychwanegol sydd yn digwydd wrth brosesu ceisiadau a gwirio cydymffurfiad ac felly argymhellwyd cynnydd ar gyfartaledd o 12% mewn lefelau ffioedd yn ddarostyngedig i ymgynghoriad gyda’r diwydiant tacsi ac ymgynghoriad drwy rybudd cyhoeddus.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·         Er bod cynyddu unrhyw ffioedd yn groes i’r graen, bod rhaid adennill costau

·         Pryder y bydd rhai cwmnïau yn dod i ben o ganlyniad i’r cynnydd – angen sicrhau bod cymorth ar gael

·         Prinder gyrwyr mewn ardaloedd gwledig, pam felly bod rhaid iddynt dalu'r un pris a gyrwyr ardaloedd trefol

·         Bod rhai cwmnïau yn anwybyddu’r tariff

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnydd arfaethedig sylweddol mewn trwydded 3 mlynedd, derbyniwyd mai dyma’r cynnydd mwyaf sydd yn cael ei argymell oherwydd y gwaith o sicrhau os yw gyrrwr yn addas a phriodol (fydd hefyd i’r dyfodol, yn unol â gofynion statudol, yn cynnwys gwirio taliadau treth).

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam na ellid gwneud cynnydd o 12% ar gyfer yr holl ffioedd yn hytrach na chanran cyfartaledd, nodwyd mai adennill costau yn unig yw hawliau'r Uned Trwyddedu a bod ffactorau penodol ynglŷn â’r broses. Amlygwyd bod ymarferiad costau wedi ei wneud ar gyfer pob math o drwydded i amlygu tegwch ac fe ystyriwyd na fuasai un canran yn adlewyrchiad teg o’r sefyllfa.

Mewn ymateb i’r sylw bod rhai cwmnïau tacsi yn anwybyddu’r tariff, nodwyd bod Papur  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.