skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2015/16

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd am y cyfnod 2015 - 2016

 

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2015/16

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Tudor Owen yn Is-Gadeirydd am y cyfnod 2015 - 2016

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r Pwyllgor gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Eryl Jones- Williams. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Eddie Dogan, Llywarch Bowen Jones ac Ann Williams.

 

Croesawyd Gareth Jones, Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd  i’r Pwyllgor. Nodwyd bod Gareth Jones wedi derbyn cyfrifoldeb dros dro dros yr adran Gwarchod y Cyhoedd yn sgil ymddeoliad Mr John Reynolds, Uwch Reolwr Gwarchod y Cyhoedd . Anfonwyd neges a ran y pwyllgor i ddiolch i Mr John Reynolds am ei wasanaeth a’i gefnogaeth dros y blynyddoedd i’r Pwyllgorau Trwyddedu.

 

Croesawyd pawb i’r Pwyllgor gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Eryl Jones- Williams. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Eddie Dogan, Llywarch Bowen Jones ac Ann Williams.

 

Croesawyd Gareth Jones, Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd  i’r Pwyllgor. Nodwyd bod Gareth Jones wedi derbyn cyfrifoldeb dros dro dros yr adran Gwarchod y Cyhoedd yn sgil ymddeoliad Mr John Reynolds, Uwch Reolwr Gwarchod y Cyhoedd . Anfonwyd neges a ran y pwyllgor i ddiolch i Mr John Reynolds am ei wasanaeth a’i gefnogaeth dros y blynyddoedd i’r Pwyllgorau Trwyddedu.

 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 103 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2014  fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 9fed o Fawrth  2015 fel rhai cywir.

 

7.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 189 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol –

 

a)         08.12.2014

b)         17.12.2014

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 09.02.2015 a 12.05. 2015.

 

8.

DIWYGIO DEDDF LLYWODRAETH LEOL (DARPARIAETHAU AMRYWIOL) 1976: DEDDF DADREOLI 2015 pdf eicon PDF 120 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio er gwybodaeth / trafodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio i godi ymwybyddiaeth yr Aelodau i newidiadau o fewn Diwygio Deddf Llywodraeth Leol (darpariaethau amrywiol) 1976: Deddf Dadreoli 2015.  Nodwyd bod y Ddeddf Dadreoli 2015 wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 26 Mawrth 2015 fydd o ganlyniad yn darparu ar gyfer tynnu neu leihau baich ar fusnesau, unigolion, cyrff sector cyhoeddus ac unigolion.  Amlygwyd bod y  Ddeddf Dadreoli 2015 yn ymdrin ag amrediad eang o ‘fesurau sy'n effeithio ar fusnes: mannau penodolsy’n cynnwys rhannau ynghylch Tacsis a Hurio Preifat, sydd drwy hynny yn effeithio ar Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

 

Tynnwyd sylw at y prif fesurau fydd yn effeithio ar ddarpariaethau Tacsis a Hurio Preifat Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 sef:

·         A10 – Tacsis a cherbydau hurio preifat: hyd trwyddedau 

·         A11 – Cerbydau hurio preifat: is-gontractio

 

Ategwyd y bydd y newidiadau yn dod i rym 1.10.2015 ac yn debygol o greu effaith sylweddol ar drefniadau’r adran. Yn ychwanegol bydd y newid i hyd y drwydded yn effeithio ar y ffi a osodir ar gyfer y trwyddedau hyn. Bydd rhaid i’r ffioedd a godir fod wedi ei sefydlu ar gyfer tair blynedd, yn ffioedd rhesymol gyda'r prif fwriad o adennill costau rhedeg a gorfodi pob cynllun trwyddedu.    

 

Amlygwyd bod gofyn i’r Cyngor ail-gyfrifo’r ffioedd am drwydded gyrrwr tair blynedd a thrwydded gweithredwr hurio preifat pum mlynedd. Gall y Cyngor ddiwygio ffi trwydded gyrrwr heb ymgynghori cyhoeddus; fodd bynnag, mae gosod ffi trwydded gweithredwyr hurio preifat yn destun trefn rhybudd cyhoeddus.   

 

Eisoes mae trafodaethau gyda’r Adran Cyllid wedi dechrau i ail-gyfrifo’r strwythur ffioedd. Y bwriad yw cyflwyno y strwythur ffioedd newydd sydd yn cael ei gynnig, i gyfarfod arbennig o’r Pwyllgor hwn yn ystod yr wythnosau sydd i ddod. Os caiff ei gymeradwyo, bydd y strwythur ffioedd newydd ynghylch trwyddedau gweithredwyr hurio preifat yn destun trefn rhybudd cyhoeddus. Wedi cwblhau’r ymgynghoriad cyhoeddus, gellid cymeradwyo’r strwythur ffioedd yn ffurfiol gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Medi 2015, i’w weithredu ar 1 Hydref 2015.     

         

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad

 

9.

POLISI AR DDERBYN TYSTYSGRIFAU DBS LEFEL UWCH A GYHOEDDWYD YN FLAENOROL I YMGEISWYR TRWYDDED GYRRWR CERBYD HACNI/CERBYD HURIO PREIFAT

pdf eicon PDF 239 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio er penderfyniad

Cofnod:

Cyflwynwyd er penderfyniad adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio. Nodwyd bod ymgeiswyr am ‘Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Gyfun’ wedi’u heithrio o ddarpariaethau Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 ac o Orchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygiadau) 2002. Mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu POB euogfarn, rhybudd a chosb benodedig.    Yn unol ag a46 Deddf Cymalau Heddlu’r Dref ac a51 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ni fydd y Cyngor yn cyhoeddi ‘Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat’ gyfun oni bai ei fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn ‘berson addas a phriodol’ i ddal trwydded. Er hynny, ym mholisi cyfredol y Cyngor nid yw yn amlygu yn glir yn y nodiadau sut i ymgeisio am ddatgeliad.

 

          Yn ychwanegol, cyfeiriwyd at Ddeddf yr Heddlu 1997, sydd yn nodi bod RHAID i’r dystysgrif cofnod troseddol uwch, wrth ystyried addasrwydd yr ymgeisydd i gael neu ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni neu drwydded gyrrwr hurio preifat, hefyd gynnwys gwybodaeth addasrwydd h.y. gwiriad rhestr gwahardd, yn ymwneud â phlant ac oedolion.           

 

          Nid yw’r ddogfen polisi presennol yn cyfeirio at dderbyn tystysgrifau lefel Uwch DBS a gyhoeddwyd yn flaenorol ac nid yw’n rhoi manylion ychwaith am ba hyd yr ystyrir bod y dystysgrif lefel Uwch DBS yn ddilys.  O ystyried y gofynion cyfreithiol, gall yr arferiad o dderbyn tystysgrifau lefel uwch DBS a gyhoeddwyd yn flaenorol barhau AR YR AMOD bod y dystysgrif a gyhoeddwyd yn flaenorol yn Dystysgrif Lefel Uwch a'i bod yn cynnwys y gwiriad rhestr gwahardd plant a'r gwiriad rhestr gwahardd oedolion.

 

          PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad yn unol ar argymhellion gan bwysleisio'r angen i sicrhau y bydd y rhestr gwahardd yn cael ei wirio.

 

 

10.

Y CYNLUN DIRPRWYO YNGHYLCH PENDERFYNU AR GEISIADAU AM GERBYDAU HACNI/HURIO PREIFAT PAN NAD YW'R CERBYDAU'N CYDYMFFURFIO Â PHOLISI'R AWDURDOD pdf eicon PDF 395 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio er penderfyniad

Cofnod:

Cyflwynwyd er penderfyniad adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio gan dynnu sylw'r Aelodau at gefndir yr adroddiad. Nodwyd yng nghyfarfod 17 Medi 2012, penderfynodd y Pwyllgor ddirprwyo pwerau i Bennaeth yr Adran Rheoleiddio, mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd ac Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol, i gymeradwyo penderfyniadau trwyddedu cerbydau tacsi ar gyfer cerbydau nad ydynt yn cydymffurfio â pholisi’r awdurdod.     Ar 8 Rhagfyr 2014, penderfynodd y Pwyllgor y byddai aelod ychwanegol, sef y Cynghorydd Peter Read, yn cael ei gynnwys ar y ‘panel penderfynu’ er mwyn sicrhau cynrychiolaeth tair ardal (Arfon, Meirion, Dwyfor).

 

Yn ystod y cyfnod rhwng 17 Medi 2012 a 30 Ebrill 2015, adroddwyd bod cyfanswm o 73 o drwyddedau wedi'u rhoi ar gyfer cerbydau sy'n groes i bolisi cyfredol Cyngor Gwynedd ar Gerbydau Hacni. Nodwyd bod nifer y ceisiadau i drwyddedu cerbydau nad ydynt yn cydymffurfio â’r polisi wedi cynyddu’n sylweddol ers gwnaed y penderfyniad i ddirprwyo penderfyniadau trwyddedu i’r Pennaeth Rheoleiddio mewn ymgynghoriad gyda’r ‘panel penderfynu’. 

 

Cydnabuwyd bod y broses ymgynghori yn un eithaf dwys gan fod nifer o ymgeiswyr yn awyddus i dderbyn penderfyniad ar eu cais cyn gynted â phosib. Nodwyd bod cwynion wedi’u gwneud yn ddiweddar i’r Cyngor ynghylch yr oedi a’r ffordd y mae ceisiadau i drwyddedu cerbydau nad ydynt yn cydymffurfio â’r polisi yn cael eu prosesu. Yng ngoleuni’r cwynion hyn, penderfynodd y Pennaeth Rheoleiddio adolygu’r sefyllfa a chynnal trafodaethau gyda’r Adran Gyfreithiol i ofyn cyngor ynghylch y trefniant presennol o wneud penderfyniadau. Amlygwyd nad oedd dim newid i’r broses, ond bod angen eglurder ynglŷn â’r cyngor sydd yn cael ei gynnig i ymgeiswyr wrth wneud ymholiadau cychwynnol i gais. Ategwyd y bydd rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cais ffurfiol. Nodwyd bod adolygu’r broses wedi bod yn ddefnyddiol ac o ganlyniad, disgwyliadau’r ymgeiswyr o’r sefyllfa yn cael ei reoli yn effeithiol.

 

Mewn ymateb gwnaed sylw bod yr oediad i benderfyniad fel arfer o ganlyniad i resymau penodol ac mai’r prif nôd yw gwneud y penderfyniad cywir i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

 

Eglurodd y cyfreithiwr, mewn perthynas â pharagraff 3.4 o’r adroddiad, nad methiant aelodau’r “Panel Penderfynui ddod i benderfyniad ar gais am gyngor ar gerbyd arbennig fyddai yn eu heithrio rhag pleidleisio ar gais am drwydded mewn perthynas â’r cerbyd hwnnw mewn gwrandawiad o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol, ond yn hytrach y ffaith eu bod wedi ymdrin â’r cais am gyngor yn y lle cyntaf.

 

Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Cynllunio a’r Amgylchedd, a’r Cyfreithiwr, y newidiadau canlynol i’r adroddiad: dileu paragraff 4.5; dileu paragraff 5.1 a mewnosod paragraff 5.1 newydd fel a ganlyn “Nodir yr adroddiad.”; dileu paragraff 5.2 a mewnosod paragraff 5.2 newydd fel a ganlyn “Nodir y darperir cyngor cyn gwneud cais gan yr Uned Drwyddedu, ar sail ddiduedd, ar ganlyniad tebygol cais, cyn cyflwyno cais ffurfiol.”

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad yn unol â’r argymhellion diwygiedig.

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 11.00am a daeth i ben am 11.55am