skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd W Roy Owen a’r Cynghorydd Jason W Parry

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 117 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 7fed o Fehefin 2021 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Mehefin 7fed 2021 fel rhai cywir

 

5.

RHEOLI SEFYDLIADAU RHYW - DEDDF LLYWODRAETH LEOL (DARPARIAETHAU AMRYWIOL) 1982 pdf eicon PDF 336 KB

Cymeradwyo cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ar fabwysiadu grymoedd i reoleiddio sefydliadau rhyw

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • cymeradwyo ymgymryd â’r broses o ystyried mabwysiadu Atodlen 3 o Ddeddf 1982, fel y’i diwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf 2009, fel bod cyfundrefn ar gyfer rheoleiddio a thrwyddedu sefydliadau rhyw drwy’r sir;

 

  • awdurdodi’r Pennaeth Amgylchedd i ymgymryd â phroses ymgynghori am 28 diwrnod gan gychwyn ar 26 Gorffennaf 2021, gan ddychwelyd y mater i’r Pwyllgor hwn am benderfyniad ynghylch ag argymell i’r Cyngor Llawn fabwysiadu ynghyd ag argymhellion cysylltiol ar y rhybudd statudol, y dyddiad y daw'r mabwysiadu i rym a dirprwyo’r grym i’r Pwyllgor hwn bennu ffioedd, gosod amodau safonol a chynllun prosesu ceisiadau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Amgylchedd yn amlygu’r angen i gychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ar fabwysiadu grymoedd i reoleiddio sefydliadau rhyw yn y Sir. Eglurwyd bod yn ofynnol i Awdurdod Trwyddedu sydd yn dymuno rheoleiddio sefydliadau rhyw yn ei ardal, fabwysiadu darpariaethau Atodlen 3 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (“Deddf 1982”), fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009 (“Deddf 2009”). Mae mabwysiadu Atodlen 3 o Ddeddf 1982 yn ddewisol ac yn digwydd fel arfer pan gyflwynir bwriad i agor busnes o’r fath am y tro cyntaf.

 

Yn hanesyddol, dim ond ym Mangor y derbyniwyd cais ble rhoddwyd trwydded i agor busnes o’r fath ac felly Cyngor Dosbarth Arfon yn unig sydd wedi gwneud penderfyniad i fabwysiadu Atodlen 3, a ddaeth yn weithredol 1 Awst 1983. (Nid oes tystiolaeth fod Cyngor Dosbarth Dwyfor na Chyngor Dosbarth Meirionnydd wedi penderfynu mabwysiadu Atodlen 3). Ymddengys, yn sgil ad-drefnu Llywodraeth Leol 1996 nad oes tystiolaeth bod Cyngor Gwynedd wedi penderfynu mabwysiadu Atodlen 3 chwaith. O ganlyniad, ardal Arfon yw'r unig ardal o’r sir lle mae gan y Cyngor yr hawl i drwyddedu o dan Atodlen 3 (yr hen Gyngor Bwrdeistref Arfon). Yn ogystal, ers i Gyngor Bwrdeistref Arfon fabwysiadu’r atodlen yn 1983, mae’r atodlen bellach wedi ei diwygio gan adran 27 o Ddeddf 2009 i gynnwys y gallu i drwyddedu mangreoedd adloniant rhywiol. Gan fod y diwygiad yn ddewisol ac wedi ei gyflwyno ar ôl y penderfyniad i fabwysiadu, nid yw grym y Cyngor i reoleiddio yn Arfon o dan Atodlen 3 yn cynnwys y gallu i reoleiddio mangreoedd adloniant rhywiol ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Trwyddedu at y broses ffurfiol a’r camau allweddol sydd ynghlwm ar broses o fabwysiadu Atodlen 3 ynghyd ar risgiau i’r Cyngor o beidio â mabwysiadu’r atodlen. Yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010, cyfeiriwyd hefyd at yr asesiad cydraddoldeb a gwblhawyd oedd yn ystyried yr effaith cydraddoldeb i’r cynnig. Adroddwyd bod yr asesiad yn rhoi cyfle i’r Awdurdod Trwyddedu hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a’r ddyletswydd economaidd cymdeithasol, drwy sefydlu cyfundrefn lle mae sefydliadau yn cael eu rheoli a’u gweithredu yn gyfreithlon.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Y byddai gosod cyfundrefn yn sicrhau rheolaeth a threfn

·         Bod angen sicrhau geiriad addas ar gyfer hysbysebu yn gyhoeddus

·         Bod angen ail adolygu rhai cymalau o fewn yr asesiad effaith

·         Bod angen sicrhau mewnbwn gan yr Heddlu a phartneriaid eraill

·         Bod angen cydweithio gyda’r gwasanaeth cynllunio

·         Byddai peidio mabwysiadau trefn yn amlygu risgiau a codi pryderon

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â ffioedd priodol, nodwyd er bod y Siop ym Mangor wedi cau erbyn hyn, bod Cyngor Dosbarth Arfon wrth fabwysiadau Atodlen 3 wedi pennu'r ffioedd uchaf posib o dan ddarpariaethau statudol y  Ddeddf. Er hynny, heriwyd ffioedd y Cyngor ac yn unol â dyfarniad Llys gorfodwyd y Cyngor i osod ffioedd fyddai yn adennill costau yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.