Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau  gan y Cynghorwyr John Brynmor Hughes a Rheinallt Puw

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 218 KB

Cofnod:

5.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 217 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinnol a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol:

 

a)    4ydd Hydref 2022

Cofnod:

6.

YMGYNGHORIAD CYHOEDDUS AR UCHAFSWM PRISIAU TEITHIAU CERBYDAU TACSI HACNI - ER PENDERFYNIAD pdf eicon PDF 277 KB

Cymeradwyo cynnig i godi uchafswm prisiau teithiau tacsis gan ystyried sylwadau yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus i godi’r uchafswm prisiau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Cymeradwyo'r cynnig i godi'r uchafswm pris yn unol â'r argymhellion, yn ddarostyngedig i dynnu'n ôl yr argymhelliad ar gyfer tariff ychwanegol ar gyfer teithiau mewn bws mini lle mae rhwng 5 ac 8 o deithwyr.

 

Uchafbris perthnasol

Cyfraddau presennol

Argymhelliad

 

 

 

Lle mae’r daith yn llai na milltir

£3.60

Dim newid

Lle mae’r daith yn fwy na milltir, am y filltir gyntaf

£3.00

Dim newid

Uchafbris cludo bagiau ychwanegol yn cist y cerbyd

30c

50c

Uchafbris cost ‘valet‘ glanhau proffesiynol

£45

£120

Am logi'r cerbyd rhwng hanner nos a 7:00y.b. unrhyw ddydd neu ar unrhyw amser ar Ŵyl y Banc, heblaw am Ddydd Nadolig a Dydd Calan

50% yn ychwanegol ar y gyfradd sylfaennol

 £4.50

60% yn ychwaegol i’r cyfradd sylfaennol

£4.80

 

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn argymell codi uchaf brisiau teithiau cerbydau hacni yn y Sir. Atgoffwyd yr Aelodau, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 sydd yn gosod dyletswyddau rheoleiddio ar yr Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas â gweithredu  uchaf bris a all gael ei godi ar y cyhoedd wrth deithio mewn cerbydau hacni oddi fewn i’r Sir, mae’n ofynnol fod unrhyw gais am newid yn cael ei gyflwyno gan y diwydiant. Cadarnhawyd bod 5 cais diweddar wedi eu derbyn gan berchnogion cwmnïau tacsi i adolygu’r prisiau a bod y prisiau hyn ar gyfer cerbydau hacni yn unig ac nid cerbydau preifat. Mewn cyfarfod ar y 24ain o Hydref, cyflwynwyd argymhellion gan yr Awdurdod Trwyddedu i gynyddu rhai prisiau. Penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r argymhellion hynny ynghyd a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus am 14 diwrnod. Adroddwyd bod gohebiaeth wedi ei gyflwyno i’r diwydiant tacsi cyn i’r ymgynghoriad ddechrau yn swyddogol gan roi cyfle i’r diwydiant ystyried y cynigion. Derbyniwyd pum gwrthwynebiad gyda sylwadau gan gynrychiolaeth o’r diwydiant - ni dderbyniwyd sylwadau gan y cyhoedd. Eglurwyd, oherwydd bod gwrthwynebiadau i’r cynigion wedi ei derbyn bod rhaid ail gyflwyno argymhellion fel y gall y Pwyllgor roi ystyriaeth ofalus i’r mater cyn dod i benderfyniad terfynol.

 

Cyfeiriwyd at y ffactorau hynny sydd wedi effeithio busnesau tacsi yn ddiweddar (cyfnod clo dros gyfnod covid 19, cynnydd sylweddol yng nghostau tanwydd  ynghyd a chynnydd sylweddol mewn chwyddiant) gan nodi bod rhain yn ffactorau sydd yn effeithio pawb. Nodwyd pwysigrwydd cloriannu effaith y sefyllfa bresennol gan sicrhau tegwch i’r diwydiant ac i ddefnyddwyr tacsi. Ategwyd bod rhaid cynlluniau cymunedol, gyda chefnogaeth grantiau, drwy gyd-weithio gyda hwb cymdeithasol yn cynnig gwasanaeth cludiant i ddefnyddwyr bregus am ddim gan fod prisiau tacsi yn rhy ddrud. Gwelid hyn yn ardal Penygroes a Bethesda

 

Er yn derbyn sylwadau’r diwydiant, roedd yr Uned Trwyddedu yn argymell parhau gyda’r argymhellion gwreiddiol ond yn derbyn y sylw i ddileu’r cynnig o greu tariff ychwanegol ar gyfer teithiau mewn bws mini lle mae rhwng 5 ac 8 o deithwyr. Ystyriwyd bod y cynnig yma, yn unol â sylwadau unfrydol y diwydiant yn agored i’w gamddefnyddio ac nad oedd gwerth iddo.

 

b)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod yr adroddiad yn glir a chytbwys

·         Bod rhaid gwarchod y diwydiant ond ar y llaw arall ystyried effaith ar y defnyddwyr

·         Croesawu’r ymgynghoriad a pharodrwydd y Pwyllgor i drafod y sylwadau

·         Anodd cael gwasanaeth yn Nwyfor – gwasanaeth bysus yn lleihau a chostau tacsis y cynyddu

 

c)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â bod y sylwadau a dderbyniwyd yn adlewyrchu materion trefol a gwledig, nodwyd bod cymysgedd o sylwadau wedi eu derbyn. Mewn ymateb i gwestiwn atodol ynglŷn ag ymatebion dienw, nodwyd bod enwau a chyfeiriadau personol e-byst yr ymatebwyr wedi eu dileu fel modd o warchod eu preifatrwydd.

 

Mewn ymateb i sylw bod rhai cwmnïau yn osgoi siwrneiau byr, cadarnhawyd bod costau’r daith yn dechrau o’r amser y bydd y defnyddiwr yn cael ei godi ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.