skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriad am absnoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Robert Glyn Daniels, Linda Morgan, Beca Roberts a Rob Triggs.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion o frys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 307 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgoe hwn a gynhaliwyd ar 19.01.2023 fel rhai cywir. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2023, fel rhai cywir.

 

5.

CYFLWYNO CYFARWYDDYD ERTHYGL 4 I REOLI'R DEFNYDD O DAI FEL AIL GARTREFI A LLETY GWYLIAU TYMOR BYR. pdf eicon PDF 422 KB

I graffu’r sail tystiolaeth, yr opsiynau ardaloedd a’r opsiwn a ffafrir ar gyfer cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd a fyddai’n galluogi rheoli’r trosglwyddiad mewn defnydd o dai preswyl i ddefnydd gwyliau (ail-gartrefi a llety gwyliau).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

·       Argymell i’r Cabinet y dylid cymeradwyo yr opsiwn a ffafrir o ran cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, sef ‘Opsiwn 4: Gwynedd gyfan (Ardal yr Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd)’.

·       Gofyn i’r swyddogion polisi cynllunio ail-edrych ar y trothwy y diffinir gorddarpariaeth o lety gwyliau ac ail gartrefi mewn cymunedau, yn ystod y broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol newydd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd ac Arweinydd Tîm (Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd – Gwyned a Môn). Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Atgoffwyd yr aelodau bod tri dosbarth defnydd newydd bellach wedi dod i rym, sef:

o   C3 – Prif Gartref

o   C5 – Ail Gartref Eilaidd

o   C6 – Llety Gwyliau

-      Cadarnhawyd bod perchnogion tai yn gallu newid dosbarth defnydd eu tai heb gais cynllunio a byddai cyfarwyddyd Erthygl 4 yn rheoli hyn, drwy ychwanegu’r orfodaeth i wneud cais cynllunio cyn newid dosbarth defnydd eu tai.

-      Pwysleisiwyd bod cyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ddull o reoli stoc dai oddi fewn ardaloedd, a thrwy hynny hwyluso gallu pobl leol gael tai o fewn eu cymunedau.

-      Adroddwyd bod y broses o gyflwyno’r cyfarwyddyd yn newydd a digynsail a chadarnhawyd bod yr adran yn y broses o dderbyn cyngor cyfreithiol ar gyfer y gwahanol agweddau o’r broses.

-      Eglurwyd ni fyddai cyfarwyddyd Erthygl 4 yn berthnasol i ardal awdurdod cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri. Er hyn, mae swyddogion yr adran yn cydweithio yn agos gyda’r Parc i rannu buddion/profiadau.

-      Adroddwyd bod cynnydd wedi bod mewn niferoedd yn trosglwyddo o fod yn uned breswyl i fusnes llety gwyliau gan dalu treth annomestig.

-      Nodwyd bod ystyriaeth wedi cael ei roi i gyfres o opsiynau ardaloedd cyn i’r swyddogion dod i gasgliad ar y ffordd gorau o gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 sef:

o   Opsiwn 1: Dwyfor (ardal beilot y Llywodraeth)

o   Opsiwn 2: Ardaloedd Cynghorau Cymuned/Tref/Dinas ble fo’r ddarpariaeth bresennol o gartrefi gwyliau yn fwy na 15% o’r stoc dai

o   Opsiwn 3: Ardaloedd Bregus (ardaloedd sydd dan fygythiad)

o   Opsiwn 4: Gwynedd gyfan (Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd).

-      Cadarnhawyd bod gwaith ymchwil y swyddogion yn awgrymu mai’r opsiwn a ffafrir i gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 ydi Gwynedd gyfan (Opsiwn 4). Er hyn, nodwyd nad oes modd bod yn sicr o oblygiadau ar yr ardal. Tybiwyd mai dyma’r opsiwn symlaf ymlaen gan na fyddai amheuaeth o ba ardaloedd sy’n disgyn o dan reolaeth y cyfarwyddyd – oni bai am ardaloedd o dan reolaeth cynllunio ardal Parc Cenedlaethol Eryri.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Nododd aelod ei fod yn falch bod argymhelliad clir ond yn pryderu am yr effaith bosib ar ardaloedd o dan y trothwy gormodedd o ail gartrefi a llety gwyliau o 15% o’r stoc dai.

 

Eglurodd y Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd na fyddai gweithredu cyfarwyddyd Erthygl 4 yn newid polisïau cynllunio  ac mai  polisiau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, fydd dal  yn weithredol yn dilyn cyflwyno cyfarwyddyd erthygl 4.

 

Mewn ymateb i ymholiad am ddiffiniad o ‘ail gartrefi a llety gwyliau’, adroddodd Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd nad oes polisi penodol ar gyfer llety gwyliau ac ail gartrefi. Er hyn, eglurwyd bod cymal ym Mholisi TWR 2 yn sicrhau na fydd caniatâd cynllunio yn cael ei ganiatáu os yw’n amharu ar stoc dai Gwynedd. Sicrhawyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

GLENDID STRYD pdf eicon PDF 279 KB

I gyflwyno Gwybodaeth arm drefniadau i sicrhau cymunedau glan a thaclus.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, Pennaeth Adran Priffyrdd Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd a’r Pennaeth Cynorthwyol. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Eglurwyd bod y gwasanaeth glanhau strydoedd yn weithredol ar bob safle ffordd gyhoeddus a ffordd fabwysiedig gan y Cyngor. Mae’r rhain wedi cael eu rhannu i barthau yn unol â’u defnydd:

o   Parthau dwysedd defnydd uchel – canol trefi yn bennaf

o   Parthau dwysedd defnydd canolig – ardaloedd preswyl yn bennaf

o   Parthau dwysedd defnydd canolig – ardaloedd llai dwys megis ffyrdd Sirol gwledig.

-      Cadarnhawyd bod y gwasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff wedi trosglwyddo i’r Adran Amgylchedd yn ddiweddar ac mae hyn wedi rhoi cyfle i swyddogion ail edrych ar sut mae’r ddarpariaeth yn cael ei gyflwyno. Mae’r gwasanaeth tacluso yn parhau o dan reolaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd.

-      Eglurwyd bod adolygiad o’r gwasanaeth wedi cael ei gynnal. Yn gyffredinol, cydnabuwyd bod gwaith y gwasanaeth yn dda iawn ond mae materion cyllidol ac iechyd a diogelwch i’w cyfarch.  Adroddwyd bod amserlen wedi ei osod ar gyfer cyfarch cylchdeithiau yn y dull mwyaf effeithlon erbyn diwedd yr haf.

-      Manylwyd bod ‘Cadw Cymru'n Daclus’ yn cynnal arolwg annibynnol blynyddol ar lendid strydoedd.

-      Esboniwyd bod yr adran yn cynnal treialon biniau clyfar. Mae 5 bin o fewn y treial ac maent yn defnyddio ynni solar a thechnoleg fodern i wneud cais i’w wagio yn awtomatig i’r adran pan maent yn llawn.

-      Trafodwyd bod addysgu plant a phobl Gwynedd, yn ogystal ,â chodi ymwybyddiaeth o effeithiau ysbwriel, yn rhan o broses newid ymddygiad er mwyn cyflawni buddion amgylcheddol yn y tymor hir.

-      Adroddwyd ar fwriad yr Adran i gyfuno gwasanaethau glanhau stryd, elfennau gorfodaeth a'r timau tacluso i un gwasanaeth newydd o’r enw Edrychiad Stryd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan aelodau, cadarnhaodd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd bod timau gorfodaeth yn wynebu trafferthion capasiti ar hyn o bryd sy’n arwain at oediad mewn gosod biniau baw cŵn newydd ar ôl i’r adran dderbyn ceisiadau. Er hyn, cadarnhawyd bod y Timau Tacluso yn anelu i ddosbarthu biniau mor fuan â phosibl gan gadarnhau mai cyfanswm cyfyngedig o finiau sydd yn cael eu cadw ym meddiant y Cyngor.

 

Nododd aelod bod rhai unigolion yn taflu sbwriel allan o’u ceir. Holodd a fyddai’n bosib bod yn fwy rhagweithiol yn y llefydd roedd hyn yn broblem gyson e.e. cilfannau. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Adran y gellir edrych ar y lleoliad a grybwyllwyd gan yr aelod i dreialu trefniant o’r fath.

 

Holodd aelod os oedd cymhariaeth o’r costau ynghlwm â chlirio sbwriel a gwagio bin wedi ei wneud. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Adran ei fod yn fater i’w gynnwys fel rhan o’r adolygiad.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar y sialensiau o atal llygredd, nododd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd bod bwriad i benodi Swyddog  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.