skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Linda Morgan

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Cynghorwyr Aled W Jones, Annwen Hughes, Kevin M Jones, Angela Russell, Gethin G Williams ac Elwyn Jones yn eitem 7 ar y rhaglen gan eu bod yn berchen neu yn perthyn i rywun agos sydd yn berchen gwyliau

 

Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 230 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd Hydref 22ain 2020 fel rhai cywir  

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 22ain o Hydref  2020, fel rhai cywir.

 

 

 

 

5.

STRWYTHUR LLYWODRAETHIANT A THREFNIADAU CYFLAWNI BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWYNEDD AC YNYS MÔN pdf eicon PDF 359 KB

AELOD CABINET: Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn amlinellu trefniadau llywodraethu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC). Ymhelaethwyd ar gynnwys yr adroddiad a rhoddwyd diweddariad byr ar y datblygiadau o fewn y meysydd blaenoriaeth ynghyd a gwaith yr is-grwpiau sydd yn gyfrifol am y meysydd hynny. Ers mis Mawrth 2020, yn wyneb pandemig covid-19, eglurwyd bod cyrff cyhoeddus wedi gorfod addasu i ymateb i’r argyfwng iechyd drwy newid eu ffordd o weithio a chysylltu gydag eraill. Cyfeiriwyd at weithdy a gynhaliwyd ym mis Medi 2020 i drafod rôl y Bwrdd yn eu gwaith o adfer cymunedau o’r pandemig.

 

O ganlyniad i ganfyddiadau’r gweithdy addaswyd ffrydiau gwaith yr is-grwpiau presennol ynghyd a’u rhaglenni gwaith a chytuno ar gerrig milltir. Cytunwyd hefyd i wneud gwaith ymchwil pellach mewn rhai meysydd (tlodi ariannol a diweithdra ymhlith pobl ifanc) er mwyn canfod y sefyllfa ddiweddaraf. Bydd canfyddiadau’r gwaith ymchwil hynny yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar 16eg Rhagfyr 2020.

Canfyddiad arall y gweithdy oedd bod nifer o’r partneriaid yn ymateb i anghenion llesiant ein cymunedau fel sefydliadau unigol. Eglurwyd bod y BGC yn gadarn eu bod am osgoi dyblygu gwaith, a'u bod yn ymchwilio i sut y gallent weithredu heb ddyblygu’r gwaith a wneir gan bartneriaid unigol er mwyn ychwanegu gwerth at gynlluniau presennol. Un modd o osgoi dyblygu gwaith yw bod y Bwrdd o bryd i’w gilydd yn gwahodd partneriaid eraill i roi cyflwyniadau am eu gwaith fel y Bartneriaeth Sgiliau a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

·         Os am graffu gwaith y Bwrdd, bod angen gwybodaeth am fesuriadau, targedau, data, llwyddiannau

·         Pam nad yw’r Heddlu yn rhan o’r Bwrdd?

·         Bod diffyg tai ar gael i brynu yn lleol

·         Cefn gwlad yn dioddef gyda gwasanaethau yn symud neu cau mewn cymunedau

·         Ethos Cymdeithasau Tai oedd prynu tai yn lleol yn hytrach nag adeiladau i bobl leol - angen canolbwyntio ar yr elfen o ail adeiladu i warchod yr iaith a sicrhau bod unrhyw arian sydd yn cael ei dderbyn  e.e., Premiwm Treth Cyngor ar gyfer ail gartrefi yn cael ei fuddsoddi yn yr ardaloedd hynny sydd yn dioddef o’r effaith

 

Mewn ymateb i sylw nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhagweld yr angen i gyfrannu at gostau cynnal a chadw'r arfordir mewn ymateb i gynnydd mewn defnydd / ymwelwyr o ganlyniad i’r pandemig, awgrymwyd bod angen addasu meddylfryd y Llywodraeth i ddeall bod rhai materion arfordirol tu hwnt i strategaethau Awdurdodau Lleol. Amlygwyd bod Gwynedd eisoes wedi gorfod ymdrin gyda chostau ychwanegol o gynnal a chadw'r isadeiledd o gwmpas y cynnydd mewn defnydd.

 

Ategwyd bod Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn nodi bod rhaid i gyrff cyhoeddus ganolbwyntio ar sut mae eu penderfyniadau yn mynd i gael effaith hirdymor, gan gydweithio i atal problemau rhag digwydd a chydnabod na all unrhyw gorff cyhoeddus unigol ymateb i’r heriau mawr. Cytunwyd yr angen i drafod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DIWEDDARIAD ADOLYGIAD PARCIO pdf eicon PDF 432 KB

AELOD CABINET: Cynghorydd Gareth Griffith

 

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y diweddariad a chefnogi argymhelliad y Grŵp Tasg y dylid cynyddu ffioedd talu ac arddangos 10%.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Adran Amgylchedd a rhoddwyd trosolwg ar ei gynnwys. Nodwyd prif ddiben yr adroddiad sef bod y strategaeth bresennol, y mabwysiadwyd yn 2015, yn dod i derfyn yn 2021. Atgoffwyd y pwyllgor bod tasglu parcio wedi ei sefydlu i ystyried yr angen i gynyddu incwm ynghyd a’r heriau a chyfleoedd newydd sydd wedi codi ers y strategaeth parcio ddiwethaf gael ei sefydlu ym mis Chwefror 2015.

 

Adroddwyd bod dau brif her gan y grŵp tasg sef i gynyddu incwm i’r nod o £400,000 ag yn ail i gyflawni hynny heb effeithio’n ormodol ar drigolion Gwynedd. Eglurwyd bod sawl newid wedi bod yn arferion parcio dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys;

·         Mwy o dwristiaid ac o ganlyniad mwy o alw ar lefydd parcio.

·         Mwy o geir trydan yn cael eu prynu ac felly cyfle i osod mannau gwefru ceir.

·         Cynnydd yn y defnydd o daliadau di gyffwrdd, amlygu’r angen i uwchraddio’r peiriannau talu yn y meysydd parcio.

·         Cynnydd mewn cartrefi modur yn parcio mewn mannau amhriodol.

 

Ymhelaethwyd ar y pwyntiau uchod gan nodi'r angen i gynnig darpariaeth talu a cherdyn yn gyfochrog a thaliadau arian. Nodwyd bod darpariaeth talu dros y ffôn wedi ei sefydlu, ond ei fod yn ddibynnol ar ffon symudol a signal digonol i wneud y taliadau. Fodd bynnag, dengys bod cynnig y ddau opsiwn yn mynd i hwyluso codi mwy o incwm yn y dyfodol gan fod modd i bobl sydd heb arian ddefnyddio’r meysydd parcio.

 

Adnabuwyd y pryderon sydd wedi eu hamlygu’n ddiweddar ynghylch cerbydau gwyliau a’r cynnydd a fu wrth i gyfyngiadau rhwystro teithiau tramor. Eglurwyd nad oedd hwn yn fater hawdd i’w ddatrys a bod y broblem wedi bodoli ers rhai blynyddoedd bellach. Nodwyd bod datrysiadau megis, creu is-ddeddfau, cynyddu swyddogion gorfodaeth a hefyd addasu’r meysydd i hwyluso’r parcio cerbydau gwyliau ond gan godi ffioedd derbyniol arnynt am y gwasanaeth.

 

Cyfeiriwyd at argymhelliad y grŵp tasg parcio o godi ffioedd 10% o fewn y meysydd parcio fel dull o gynyddu incwm. Ategwyd at hyn bod y grŵp tasg wedi adnabod na ddylid codi ffioedd ar barcio mewn mannau anabl ac felly byddai'r rhain yn parhau am ddim.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

·         Mynegwyd pryder ynghylch cerbydau gwyliau yn parcio mewn mannau heb gyfleusterau ac mewn mannau gwyddonol ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Nodwyd bod tystiolaeth o ddefnyddwyr yn gwaredu a gwastraff carthffosiaeth mewn mannau cyhoeddus.

·         Cododd yr awgrym y dylid pwyso am greu is-ddeddfau er mwyn gwarchod mannau aros rhag i bobl parcio eu cerbydau gwyliau yna.

·         Nodwyd bod angen cefnogi busnesau carafanau lleol ac felly ni ddylid y Cyngor buddsoddi mewn cynnig gwasanaethau ym meysydd parcio ar eu cyfer.

·         Teimlai rhai aelodau bod y tocyn blynyddol am £140 yn swm uchel i rai talu ar unwaith, gan nad oes modd talu’n fisol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

PAPUR YMCHWIL: RHEOLI’R DEFNYDD O DAI FEL TAI GWYLIAU pdf eicon PDF 224 KB

AELODAU CABINET:

 

Cynghorydd Gareth Griffith (Amgylchedd)

Cynghorydd Craig ab Iago (Tai)

 

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn cynnwys yr adroddiad

Diolch i’r swyddogion am gyflwyno tystiolaeth a gwybodaeth fanwl a defnyddiol a ellid ei ddefnyddio i geisio dwyn perswâd ar Lywodraeth Cymru i newid eu polisïau cynllunio.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019 oedd yn ymwneud a cheisio cyfarch sut y byddai modd cyfyngu ar faint o dai y gellid eu defnyddio at ddibenion gwyliau, gan edrych ar fesurau gweithredol mewn llefydd eraill a sut byddai modd newid y ddeddfwriaeth gynllunio er mwyn gweithredu yng Nghymru. Gofynnwyd hefyd am sylwadau’r Pwyllgor ar y gwaith cyn adrodd i’r Cabinet ar y 15fed o Ragfyr 2020.

 

Tynnwyd sylw, er pwrpas y gwaith, y diffiniwydcartrefi gwyliau fel;

           Unedau gwyliau a osodir yn y tymor byr: preswyl (dosbarth defnydd C3) sydd ddim yn cael ei feddiannu’n rheolaidd ac yn cael ei ddefnyddio’n achlysurol drwy ei osod ar gyfer defnydd gwyliau ar sail fasnachol.

           Ail gartref: preswyl (dosbarth defnydd C3) sydd yn cael ei ddefnyddio’n achlysurol gan y perchennog (ond ddim yn brif gartref) yn ogystal ag ymwelwyr eraill ar gyfer pwrpas gwyliau.

 

Cafwyd cyflwyniad manwl, ystyrlon i’r gwaith ac fe drafodwyd y chwe argymhelliad. Nodwyd bod yr argymhellion yn rhoi opsiynau o ran y mecanwaith posib a ellid ei gweithredu er mwyn cael rheolaeth a lleihau effaith llety gwyliau ar gymunedau. Eglurwyd y byddai rhai argymhellion yn cael eu trafod ar y cyd ac yn faterion i Lywodraeth Cymru eu gweithredu, tra bod modd gweithredu eraill ar lefel lleol e.e., gweithredu polisïau cynllunio lleol yn effeithiolgellid rhoi ystyriaeth bellach i’r argymhelliad yma yn y tymor byr ac wrth adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Amlygodd Aelod Cabinet Amgylchedd ei siom mai Dinas Caerdydd oedd yr unig Awdurdod arall oedd wedi cyfrannu i’r gwaith ymchwil, ond bod siroedd eraill wedi dangos diddordeb ers i’r adroddiad gael ei ryddhau yn gyhoeddus. Ategodd bod un Sir eisoes wedi cyflwyno rhybuddion o gynnig o flaen eu Cyngor. Derbyniodd bod her yn wynebu’r Cyngor gan nad oedd llawer o ddiddordeb gan y Llywodraeth yn y sefyllfa ar yn o bryd, ond gyda dogfen weithredol yn cael ei chefnogi gan dystiolaeth bod modd dechrau gweithredu ac ymateb i’r her.

 

Nododd Pennaeth Tai ac Eiddo ei fod yn llongyfarch y tîm ar eu gwaith gan ategu bod y dystiolaeth a gasglwyd yn lladd esgusodion Llywodraeth Cymru o weithredu. O ystyried cyflwyniad Premiwm Tai, Cynllun Gweithredu Tai Gwynedd ynghyd a'r gwaith ymchwil, amlygodd bod tystiolaeth bendant i osod cyfeiriad i reoli’r defnydd.

 

Ategodd Aelod Cabinet Tai ac Eiddo bod y papur ymchwil yn cyflwyno ffeithiau sydd bellach yn arf i herio Llywodraeth Cymrurhaid rheoli’r defnydd.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

·         Croesawu’r adroddiadyn sylfaen dda i ddechrau lobio ac yn gyfle euraidd i newid y drefn a chymryd cyfrifoldeb a rheolaeth dros y sefyllfa

·         Bod yr adroddiad yn cyfarch materion megis AirBnb, ond dim digon yn cael ei wneud i newid y Ddeddf  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.