Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  E-bost: NatalieLloydJones@Gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Kevin Morris Jones, Linda Morgan, Aled Wyn Jones a Gethin Williams.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Bu i’r Cynghorwyr Berwyn Parry Jones ac Owain Williams ddatgan buddiant ar Eitem 6, gan nodi eu bod yn aelodau o’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.

 

Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 244 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 10fed Rhagfyr, 2020 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 10fed o Ragfyr 2020, fel rhai cywir.

 

 

5.

RHAGLEN WAITH CYNLLUN GWIETHREDU HAWLIAU TRAMWY pdf eicon PDF 255 KB

AELOD CABINET: Cynghorydd Gareth W Griffith

 

I ystyried yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn y cynllun drafft gan nodi’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod i’w hymgorffori yn y ddogfen er ymgynghoriad cyhoeddus.
  • Bod y fersiwn terfynol yn cael ei gyflwyno gerbron y pwyllgor yn dilyn y cyfnod ymgynghori.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Cefn Gwlad ac amlinellwyd y gwaith sydd wedi bod ar y gweill. Ategodd mai nod y cynllun yw sicrhau bod mynediad hygyrch a diogel i bobl ddefnyddio llwybrau yn y cefn gwlad, mannau gwyrdd ac yr arfordir. Gofynnwyd am farn y pwyllgor craffu ar gynnwys yr adolygiad diweddaraf.

 

Rhoddwyd trosolwg o’r tri phrif bennawd sydd wedi ei hymgorffori yn y cynllun;

 

1)   Cynnal a rheoli rhwydwaith - nodwyd bod angen cyfarch mathau gwahanol o ddefnyddwyr, fodd bynnag rhoddir blaenoriaeth i lwybrau sydd mewn categorïau 1 a 2.

 

2)   Y map a datganiad swyddogol - Eglurwyd y gellir cyfeirio yn ôl at hyn os bydd achos neu anghydfod ynghylch statws neu fodolaeth llwybr.

 

 

3)   Asesu a chwrdd ag anghenion defnyddwyr - Nodwyd bod mwy o alw am lwybrau aml-ddefnydd wedi bod yn ystod y cyfnod clo gyda mwy yn aros yn lleol. Eglurwyd bod y lonydd las yn caniatáu'r math yma o ddefnydd i raddau.

 

Eglurwyd bod gwahaniaeth o gymharu â’r cynllun blaenorol yn nodedig yw’r absenoldeb o raglenni gwaith manwl. Yn eu lle, nodwyd bod rhaglenni gwaith blynyddol neu bob dwy flynedd yn cael eu paratoi. Nodwyd bod y cynllun yn cydblethu efo polisïau’r Cyngor, Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

 

Cyn agor y drafodaeth allan i’r pwyllgor, gofynnwyd i’r aelodau ystyried a yw’r adroddiad yn cyfleu beth yw, yn eu barn hwy, dyheadau a gofynion pobl Gwynedd, o ystyried mynediad hygyrch i’r cefn gwlad.

 

 

 

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

 

-     Diolchwyd am yr adroddiad ddrafft a chychwynnwyd y drafodaeth drwy holi pa ddulliau sydd wedi eu defnyddio er mwyn asesu hygyrchedd i bobl anabl gan fod gymaint o amrywiaeth mewn anghenion. Yn ychwanegol, gofynnwyd oes oedd ymgynghoriad gyda mudiadau anabledd wedi digwydd fel rhan o’r cynllun.

-     Rhoddwyd sylw ar y posibilrwydd o raddio hygyrchedd y gwanhaol llwybrau er mwyn i drigolion gynllunio eu bod yn defnyddio llwybrau priodol sy’n cyfarch eu hanghenion.

-     Trafodwyd os oedd pryder o golli llwybrau mewn categorïau is sydd ddim yn derbyn arian rheolaidd fel categorïau 1 neu 2.

-     Nodwyd bod rhai tirfeddianwyr yn gwrthod derbyn bod llwybr cyhoeddus ar eu tir. Ategwyd hyn a nodwyd bod rhwystrau megis ffensiau yn amharu ar rhai llwybrau oherwydd hyn.

-     Trafodwyd y posibilrwydd o arwyddion clir er mwyn dangos y ffordd gywir i gerddwyr neu ddefnyddwyr, gan fod rhai llwybrau yn amwys.

-     Tynnwyd sylw’r pwyllgor at gyflwr y llwybr ger yr Eglwys ym Mhistyll.

-     Cyfeiriwyd at bwysigrwydd yr adroddiad canlynol, gan bwysleisio bod pawb yn cael budd o’r llwybrau.

-     Eglurwyd bod gan rhai trefi neu gymunedau sawl llwybr i gynnal a chadw a gofynnwyd pwy sy’n cyllido'r rhain.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Rheolwr Cefn Gwlad y pwyntiau isod:-

 

-     Sicrhawyd y pwyllgor bod ymgynghoriad eisoes wedi digwydd ynghylch hygyrchedd i bobl ag anableddau. Ategwyd at hyn gan nodi bod Swyddog Anabledd y Cyngor wedi cydweithio gyda’r adran.

-     Cydnabuwyd ei bod yn anodd cwrdd ag anghenion bawb ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: CYFLEUSTERAU A LLETY I DWRISTIAID pdf eicon PDF 354 KB

AELOD CABINET: Cynghorydd Gareth W Griffith

 

I ystyried yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio ar y Cyd gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth am y canllaw cynllunio atodol. Gofynnwyd i’r pwyllgor roi adborth cyn i’r adroddiad fynd gerbron y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd er mwyn roi penderfyniad i’w fabwysiadu neu beidio.

 

Adroddwyd ar y cynnwys ac yna tynnwyd sylw at Atodiad 2 sef fersiwn drafft cyflawn o’r Canllaw Cynllunio Atodol sydd eisoes wedi ei gyflwyno i Bwyllgor Sgriwtini a Phartneriaeth, Cyngor Sir Ynys Môn.

 

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

-     Cwestiynwyd a yw’r polisi newydd yn caniatáu safleoedd ar gyfer carafanau sefydlog yn ogystal ag rhai teithiol

-     Mynegwyd pryder ynghylch Gor-dwristiaeth fel y gwelwyd llynedd wedi ymlacio cyfyngiadau.

-     Ategwyd bod nifer uchel iawn o safleoedd garafanau yng Ngwynedd fel y mae hi.

 

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelodau, nodwyd:-

 

-     Bod y polisi dan sylw yn caniatáu ar gyfer carfanau teithiol newydd ynghyd a rhai sefydlog newydd cyn belled bod y safleoedd sefydlog heb eu lleoli o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol neu’r Ardal o Dirwedd Arbennig. Nodwyd y bydd y polisïau mewn perthynas a safleoedd carafanau yn destun y broses o adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

-     Ar y pryder o gor-dwristiaeth, sicrhawyd y byddai hyn yn cael ei ail-ymweld

-     Ceir sawl esiampl lle mae ceisiadau wedi cael eu gwrthod os ydynt yn groes i gynlluniau perthnasol, a bod sgôp i wrthod datblygiadau nad ydynt yn cydymffurfio a pholisïau perthnasol.

-     Bod newidiadau mawr ar y gweill ar lefel genedlaethol ynghylch cynllunio a byddai hyn yn cael ei hystyried wrth adolygu’r cynllun.

 

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

 

7.

GWASANAETH GWARCHOD Y CYHOEDD - GWAITH YN YSTOD Y PANDEMIG pdf eicon PDF 348 KB

AELOD CABINET: Cynghorydd Gareth W Griffith.

 

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

 

Derbyn cynnwys yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Adran Amgylchedd gan bwysleisio'r gwahanol agweddau mae’r gwasanaeth gwarchod y cyhoedd wedi bod yn ymdrin â dros y cyfnod diwethaf.

 Ategwyd bod proffil y gwasanaeth wedi ei amlygu gan iddynt weithio ar y rheng flaen yn ddiweddar wrth olrhain cysylltiadau a gyda chydymffurfiaeth rheoliadau COVID-19.

 

Eglurwyd un pryder ar gyfer y gwasanaeth wrth symud ymlaen sef darparu gwasanaeth arferol h.y. archwiliadau hylendid bwyd wrth i lefydd ail agor, yn ogystal â’r gofynion presennol ynghylch y pandemig.

 

Ychwanegwyd bod tri swyddog ychwanegol wedi eu penodi ar gyfer rhannu baich gwaith wrth i ofynion y gwasanaeth ehangu. Ategwyd y byddai’r swyddogion newydd yn cael eu datblygu a’u hyfforddi at y diben o’u cadw ymlaen fel swyddogion Iechyd a Diogelwch y dyfodol i gryfhau’r gwasanaeth.

 

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

-     Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r holl adran am eu gwaith pwysig iawn dros y cyfnod COVID-19.

-     Ategwyd bod achosion o COVID-19 wedi cynyddu yn ardal Bala er enghraifft, a bod swyddogion olrhain wedi gweithio’n ddiddiwedd er mwyn cysylltu â phawb.

-     Gofynnwyd sut mae’r adran yn ymdrin â thrigolion sydd wedi cychwyn busnesau bwyd o’u tai dros y pandmeig.

-     Croesawyd y newyddion bod tri aelod newydd wedi eu penodi i’r adran a nodwyd bod hyn yn symudiad da ar gyfer y dyfodol.

-     Diolchwyd am yr holl ddiweddariadau sydd wedi bod drwy e-bost ar y sefyllfa gwarchod y cyhoedd ac ategwyd bod yr adroddiad hwn yn amlinellu’r gwaith ychwanegol sydd ar waith.

-     Gofynnwyd a yw’r gwasanaeth yn ffyddiog y byddant yn ymdopi’n ddigonol a’u llwyth gwaith wrth i ddyletswyddau arferol ddychwelyd.

 

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nodwyd y canlynol:-

-     Eglurwyd bod yr adran yn gefnogol o’r trigolion sydd wedi mynd ati i sefydlu busnesau bwyd o’u cartrefi yn ystod y cyfnod clo. Fodd bynnag, nid pob un sy’n cysylltu â’r adran er mwyn cofrestru a nodwyd bod hyn yn hanfodol er mwyn i’r adran sicrhau safonau iechyd a diogelwch.

-     Atgyfnerthwyd mai pwrpas yr adran yw cefnogi ac ymgysylltu dim i gosbi a gorfodi.

-     Nodwyd y byddai straen ar y gwasanaeth petai archwiliadau yn ailgychwyn ar raddfa arferol, ar ben dyletswyddau COVID-19.

-     Cydnabuwyd bod swyddogion yr adran yn gweithio oriau hir a bod hon yn sefyllfa hirdymor hyd hyn, dim yn un dros dro fel y rhagwelwyd yn gychwynnol.

-     Nodwyd bod cefnogaeth gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru er mwyn penodi staff ychwanegol i’w groesawu gan ei bod yn lleihau pwysau ar y swyddogion.

-     Parthed y sefyllfa COVID-19, nodwyd bod y niferoedd yn ystyfnig o fewn y Sir , a bod clystyrau wedi ymddangos yn ddiweddar.

 

Yn ychwanegol at yr ymatebion, nododd y Pennaeth yr Adran Amgylchedd bod risgiau wedi eu hamlygu dros y deuddeg mis diwethaf gan i faterion ag elfennau risg uchel wedi parhau i ddigwydd. Ategodd bod swyddogion wedi gorfod parhau i ddelio gyda materion difrifol iechyd a lles, er enghraifft materion sy’n ymwneud ag lles anifeiliaid. Ar ben hyn,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.