Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  01286 679780

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Linda Morgan, Kevin M Jones, Aled Wyn Jones ac Dyfrig Siencyn (Arweinydd y Cyngor).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol na gollyngiadau perthnasol.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni fu mater brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 213 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol

o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23ain o Fedi, 2021 fel rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 23 Medi 2021 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD ADOLYGU CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD pdf eicon PDF 377 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth W Griffith

 

Cyflwyno’r Adroddiad Adolygu a derbyn sylwadau’r Pwyllgor ar y cynnwys.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr aelod cabinet dros Amgylchedd drwy nodi bod yr adroddiad yma gerbron y Pwyllgor ar gyfer derbyn sylwadau’r aelodau.   

 

 

Eglurodd y Rheolwr Polisi Cynllunio ar y Cyd bod gofyniad ar y Cyngor i baratoi adroddiad adolygu cryno a chynnwys rhai pethau penodol e.e.  wybodaeth fydd yn cael ei hystyried i lywio’r Cynllun datblygu lleol.

 

Cyfeiriwyd at Atodiad 1 a nodwyd ei fod wedi rhannu i mewn i 6 rhan. Trafodwyd y rhannau i gyd yn drylwyr gan esbonio pwrpas bob un.

 

Trafodwyd y camau nesaf sef bod ymgynghoriad cyhoeddus am 6 wythnos cyn bydd adroddiad terfynol yn dod gerbron y Cyngor Llawn. Gofynnwyd I'r Pwyllgor ystyried yr adroddiad adolygu drafft a chynnig sylwadau ar faterion fydd angen eu hadolygu wrth baratoi’r cynllun diwygiedig.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau fel a ganlyn:

 

-          Holwyd pam fod y Cyngor yn cynllunio ar y cyd efo Môn gan nad oes yr un Sir arall yng Nghymru sy’n cydweithio yn yr un modd. Nododd bod Gwynedd gyda’u hanghenion unigryw sy’n haeddu cynllun unigol.  

-          Cyfeiriwyd at dudalen 53 yn y rhaglen lle nodwyd bod y ddarpariaeth tai wedi disgyn o dan darged.

-          Nodwyd bod effaith ar gymunedau gan nad yw cynlluniau Wylfa yn parhau ac awgrymwyd dylai’r nifer tai a ddynodir yn y cynllun fod yn amodol ar ddatblygiadau yn cael eu gwireddu  rhag peryglu cymunedau.

-          Codwyd cwestiynau ynghylch dymchwel ac ail-adeiladu tai o fwy o faint a’r effaith amgylcheddol. Er yn fwy costus i’w brynu gallai tŷ newydd mwy o faint fod yn fwy gost effeithol gyda’r costau rhedeg yn is.

-          Mynegwyd pryder ynghylch codi tai heb fod yr angen yno a nodwyd nad oeddent yn fforddiadwy i fwyafrif o drigolion Gwynedd a Môn.

-          Croesawyd yr adolygiad a chytunwyd a sylwadau’r aelodau eraill ynghylch angen y tai newydd gan fod poblogaeth Gwynedd a Môn yn statig.

-          Awgrymwyd bod angen tai fforddiadwy marchnad leol ar draws y siroedd ac nid mewn rhai ardaloedd yn unig gan fod tystiolaeth yn dangos bod tai allan o gyrhaeddiad mwyafrif y bobl leol.

-          Holwyd ynghylch y cynllun peilot ‘Scottish Power’ gan fod tlodi tanwydd ym Mhenllyn ond nad yw’r cynllun yn ei gynnwys.

-          Mynegwyd balchder bod ystyriaeth yn cael ei roi i fioamrywiaeth, fodd bynnag tynnwyd sylw at y diffyg trafodaeth ar yr ardal AHNE.

-          Codwyd pwynt ynghylch defnyddio deunyddiau lleol megis llechi lleol ar dai sy’n cael eu hadeiladu er mwyn sicrhau gwaith yn y chwarel ac arian yn aros yn lleol.

-          Mynegwyd siom nad oes modd i blant o deuluoedd ffermio aros yn eu cartrefi gan nad oes modd iddynt adeiladu tai ar y tir. Ategwyd bod hyn yn arwain at ffermydd yn cael eu gwerthu. 

 

Mewn ymateb nododd y Swyddogion y canlynol:

 

-          Cytunwyd bod y sefyllfa yn wahanol erbyn hyn yn dilyn newyddion nad oes datblygiad wylfa ar y gorwel a bod hyn yn cael ei gynnwys wrth ddiwygio’r cynllun.

-          Nododd bod sicrhad y bydd tystiolaeth gadarn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN GWEITHREDU HAWLIAU TRAMWY pdf eicon PDF 77 KB

Aelod Cabinet: y Cynghorydd Gareth W Griffith

 

Derbyn adborth a sylwadau’r Pwyllgor Craffu ar ddrafft terfynol o’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a chymeradwyo’i defnydd ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Derbyn y cynllun drafft terfynol gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd i’w hymgorffori yn y ddogfen er ymgynghoriad cyhoeddus.

b)    Derbyn yr adroddiad yn dilyn y cyfnod ymgynghori gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Agorwyd y drafodaeth gan yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd drwy nodi pwrpas y drafft terfynol yw derbyn sylwadau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Cefn Gwlad gan nodi bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn y sylwadau ar y cynllun ddrafft terfynol. Cyfeiriwyd at ffactorau sydd wedi ei amlygu o fewn yr adroddiad sef rhaglen diwygio mynediad, adnoddau ychwanegol a grantiau i'r gwasanaeth.

 

Nododd bod camau gweithredu yn parhau fel yr oeddent a rhain fydd yn arwain y gwaith. Ategodd na fydd angen paratoi rhaglenni gwaith manwl, serch hynny bydd rhaid gwneud fesul blwyddyn neu dwy flynedd.

 

 

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau fel a ganlyn:

 

-          Holwyd sut mae’r cynllun yn gweithio ar hyn o bryd, oes unrhyw broblemau megis rhai tirfeddianwyr yn gwrthod cydymffurfio.

-          Diolchwyd am yr adroddiad a gofynnwyd beth yw gofynion y Ddeddf Anableddau mewn perthynas â mynediad at y rhwydwaith llwybrau.

-          Awgrymwyd y dylai fod gan y Cyngor gofnod ar eu gwefan sy’n nodi hygyrchedd y rhwydwaith ar gyfer pobl ag anableddau.

-          Gofynnwyd faint o gynnydd sydd wedi ei wneud yn asesu llwybrau, gan gyfeirio at adroddiad o 2004/5 a nododd bod 25% o’r rhwydwaith wedi ei hasesu bryd hynny.

-          Ategwyd y byddai man addasiadau yn gwneud byd o wahaniaeth i'r anabl, gan gyfeirio at gŵyn lleol yr aelod a gofynnwyd am ganllaw ar gychwyn llwybr yn y ward er mwyn hwyluso hygyrchedd i berson dall.

-          Diolchwyd am yr holl waith gan nodi bod milltiroedd o lwybrau angen eu hasesu ac felly rhoddwyd cydnabyddiaeth ei fod yn dasg heriol. Cyfeiriwyd at y mwynhad mae pobl wedi cael yn cerdded y llwybrau yma dros y cyfnodau clo.

-          Ategwyd at hyn gan nodi y buasai modd o gofnodi nifer defnyddwyr y llwybrau yn ddefnyddiol.

-          Holwyd am gyflwr y llwybrau sydd heb fod ar agor ers tro oherwydd diffyg cynnal a chadw.

-          Dylid cyflwyno adroddiad yn y dyfodol i’r Pwyllgor ar gyflwr y rhwydwaith.

 

 

 

Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Cefn Gwlad:

 

-          Yn sgil y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000) sefydlwyd tir agored ar gyfer mynediad ar yr ucheldir a hefyd cynlluniau a oedd yn targedu sector amaeth gyda grantiau yn sgil hynny. Ategodd bod y maes yn cael ei asesu ar hyn o bryd yn sgil ‘Brexit’.

-          Ar y materion mynediad a hygyrchedd, bod y tirlun yn amrywio ag bod rhai sefyllfaoedd pan mae’r llwybrau ar dir anwastad o safbwynt mynediad. Ategodd bod cyfle yn sgil rhaglen grant i wella llwybrau a’r rhwydwaith, yn yr achos yma gobeithio hwyluso mynediad i bawb. Cyfeiriodd at enghraifft sef tynnu camfeydd ar gyfer sicrhau hygyrchedd.

-          Bod yr adran yn edrych ar ffyrdd i wella gwybodaeth ar y rhwydwaith gan nad oes llawer o wybodaeth i'w roi ar gyflwr y rhwydwaith ar hyn o bryd. Ategodd bod angen sefydlu pa rai sy’n hawdd eu defnyddio ac yn agored i'w ddefnyddio.

-          Ychwanegodd y Pennaeth Amgylchedd bod y Parc wedi gwella llwybrau a bydd yr adran  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

STRWYTHUR LLYWODRAETHIANT A THREFNIADAU CYFLAWNI BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWYNEDD AC YNYS MON, AC ADRODDIAD CYNNYDD AR YR ASESIADAU LLESIANT pdf eicon PDF 371 KB

Aelod Cabinet: Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Adolygu trefniadau Llywodraethu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn a diweddariad ar waith yr is-grwpiau. Yn ogystal adroddiad ar gynnydd yr asesiadau llesiant.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd

 

b)    Cytuno i graffu gwaith y Bwrdd ddwywaith y flwyddyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor.

 

Trafodwyd fod yr is-grŵp cartrefi o dan y bwrdd bellach wedi dod i ben gan ei fod wedi cyflawni ei  bwrpas.

 

Eglurwyd bod llawer o gynnydd wedi bod yn blaenoriaethu yr iaith Gymraeg – mae prosiect am gael ei gyd-ariannu i weld pam nad yw nifer o Gymry yn defnyddio’r Gymraeg wrth gysylltu efo cyrff ehangach lleol.

Eglurwyd bod cynllun peilot ar waith efo’r prosiect Newid Hinsawdd yn ardal Porthmadog, aethpwyd ati i egluro bod bwriad i ehangu’r ardaloedd ymhellach yn y dyfodol.

 

Nododd bod gwaith yr Asesiad Llesiant yn mynd yn ei flaen. Bu asesiad llesiant yn 2017 ymysg yr ardaloedd. Gofynnir i'r gwaith asesu yma gael ei wneud fesul 5 mlynedd, sef pam fod yr asesu wedi cychwyn arni eto. Eleni, mae’r gwaith asesu yma yn cyd-fynd efo’r Fframwaith Adfywio, sef cynllun ymgysylltu sydd ar waith yng Ngwynedd. Gobeithir fydd yr asesiad yma wedi gorffen erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Bydd cynllun pellach yn dilyn hynny.

Mae'r Bwrdd yn cynnig i'r adroddiadau gael eu cyflwyno fesul 6 mis yn hytrach na’r drefn bresennol o gyflwyno adroddiad tair gwaith y flwyddyn.

 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y swyddog i  sylwadau’r aelodau fel a ganlyn:

-          Nodwyd fod yr is-grŵp sydd yn dod i ben o bosibl am gael ei ail bwrpasu at y dyfodol i gael mwy allan o’u gwybodaeth nhw.

-          Eglurwyd bod trafodaethau pellach efo’r gymuned yn y prosiect ymgysylltu am nodi os oes angen rhoi blaenoriaeth ar Economi’r gymuned, ac Hinsawdd yn yr un modd.

 

8.

RHAGLEN WAITH CRAFFU DDIWYGIEDIG 2021-22 pdf eicon PDF 218 KB

Cyflwyno rhaglen waith craffu ddiwygiedig ar gyfer 2021/22.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr rhaglen waith ddiwygiedig.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd y rhaglen waith diwygiedig i'r Pwyllgor ar gyfer ei dderbyn. Tynnwyd sylw bod yr eitemau ‘Newid Hinsawdd’ a ‘Diweddariad – Biniau Halen’ wedi eu hychwanegu i raglen cyfarfod 10 Mawrth 2022.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan aelodau yng nghyswllt amseriad craffu’r eitem ‘Diweddariad – Biniau Halen’, nododd yr Ymgynghorydd Craffu y byddai’n cysylltu gyda’r Adran i dderbyn cadarnhad o’r trefniadau llenwi biniau halen, er sicrhau ei fod yn amserol i graffu’r mater yng nghyfarfod mis Mawrth.