Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  01286 679780

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Simon Glyn, Kevin Morris Jones a Dafydd Owen ynghyd â’r Cynghorydd Catrin Wager (Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i'w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 369 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol

o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4ydd o Dachwedd, 2021 fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 4ydd o Dachwedd 2021 fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD BLYNYDDOL Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL pdf eicon PDF 390 KB

AELOD CABINET: Y CYNGHORYDD DAFYDD MEURIG

 

Rhoi trosolwg i Aelodau o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) Gwynedd a Môn yn ystod 2020-21, a'r datblygiadau ar gyfer 2021-22.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyn cynnwys yr adroddiad a'r dogfennau atodol gan nodi’r sylwadau, a chefnogi blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i'r dyfodol.

2.    Cysylltu gyda Chadeirydd y Cyngor i nodi dymuniad y Pwyllgor i estyn gwahoddiad i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i gyfarfod o’r Cyngor Llawn.

3.    Gofyn i'r bartneriaeth rhoi ystyriaeth i  aelodau eraill y bartneriaeth fod yn bresennol yng nghyfarfod Trosedd ac Anrhefn y Pwyllgor Craffu Cymunedau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, gosododd y cefndir a’r cyd-destun, gan nodi bod gan awdurdodau lleol dyletswydd statudol i weithio mewn partneriaeth â’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub, i ymdrin â diogelwch cymunedol. Eglurodd y gwneir asesiad strategol i adnabod blaenoriaethau yn rhanbarthol,  ‘roedd y cynlluniau lleol i ymdrin â’r blaenoriaethau hyn gerbron y Pwyllgor.

 

Trosglwyddwyd i'r Swyddog Gweithredu a Phrosiectau Diogelwch Cymunedol. Rhoddwyd trosolwg o’r prif bwyntiau o fewn yr adroddiad ac eglurwyd bod gofyn i'r bartneriaeth adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn flynyddol i ddiweddaru ar waith y bartneriaeth. Aethpwyd ati i nodi’r prif gerrig filltir a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod diweddaraf a rhoddwyd trosolwg o’r gwaith oedd ar y gweill.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau:

·         Holwyd ynghylch y 5 cam gweithredu oedd heb eu cyflawni ers bron i ddwy flynedd. Beth oedd y camau nesaf i'w cyflawni?

·         Cyfeiriwyd at y gwaith i adnabod adeiladau priodol ar gyfer y tîm camddefnyddio sylweddau ym Mangor a holwyd os oedd modd cael mwy o wybodaeth.

·         Holwyd am y cynllun bugeiliaid stryd a pham nad ydynt yn weithredol gan fod y Cyngor yn defnyddio Zoom ers deunaw mis oedd modd iddynt ei ddefnyddio.

·         Gofynnwyd a oedd gwaith yn ymwneud a chaethwasiaeth fodern yn rhan o’r bartneriaeth.

·         Mynegwyd siom nad oedd cynrychiolwyr eraill o’r bartneriaeth yn bresennol i ateb cwestiynau.

·         Holwyd faint o waith mae’r bartneriaeth yn ei wneud i gydweithio i rwystro troseddau megis trais yn y cartref.

·         Nododd aelod ei bod yn pryderu am y cynnydd mewn pobl a oedd angen cefnogaeth iechyd meddwl, rhai yn camddefnyddio alcohol a digartrefedd yn enwedig yng Ngwynedd.

·         Gofynnwyd a fyddai’n bosib cael cyfarfod â’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd newydd, bu ei ragflaenydd gerbron y Cyngor Llawn yn y gorffennol.

·         Dywedwyd bod y pynciau o fewn yr adroddiad yn berthnasol i glybiau ieuenctid a holwyd os oedd y clybiau ieuenctid yn rhan o’r bartneriaeth.

·         Cefnogwyd y syniad o wahodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i'r Cyngor Llawn fel bod modd i'r holl aelodau ei gyfarfod.

·         Holwyd ynghylch trosedd seibr gan fod problemau yn codi oddi ar wefannau cyfryngau cymdeithasol wrth i bobl ddatgelu data wrth ymateb i gwestiynau cyffredinol. Bod angen rhoi pwysau ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i weithredu pan fo achosion yn cael eu hadrodd.

·         Ategwyd at hyn gan nodi ei fod yn broblem ar draws y wlad, roedd angen gweithrediad gan Lywodraeth San Steffan.

 

Mewn ymateb, nododd y swyddogion:

·         O ran y 5 cam gweithredu, oherwydd blaenoriaethau eraill nid oedd modd eu cyflawni.  Byddai rhai ohonynt yn cael eu hystyried eto yn y dyfodol.

·         Mewn perthynas â’r bugeiliaid stryd, dros y cyfnodau clo  nid oedd pobl yn mynd allan wrth i dafarndai fod ar gau, felly doedd dim eu hangen. Yn ogystal ag hyn, wrth i’r cyfyngiadau lacio nid oeddent yn teimlo’n ddiogel bod allan oherwydd covid-19. Ategodd y byddai modd ail ymweld â hyn yn y dyfodol .

·         Nododd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

GLENDID STRYD pdf eicon PDF 132 KB

AELOD CABINET: Y CYNGHORYDD CATRIN WAGER

 

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD:Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a thywyswyd yr aelodau drwy’r prif faterion.

 

Nodwyd bod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i sicrhau nad oes sbwriel ar briffyrdd a mannau cyhoeddus eraill.. ‘Roedd yn wasanaeth gweladwy a phwysig yn enwedig yn ystod y cyfnod pandemig. Eglurwyd bod y Gwasanaethau Stryd yn ymdrin â bob safle cyhoeddus a pob ffordd oedd wedi ei fabwysiadu a reolir gan y Cyngor

 

Amlygwyd bod ardaloedd wedi eu rhannu yn barthau yn ôl eu defnydd. Eglurwyd bod glendid ardal yn cael ei asesu trwy gymharu gyda safon, roedd amrediad safon o Gradd A i D. Ymhelaethwyd y caniateir cyfnod amser gwahanol i lanhau'r ardaloedd a'u dychwelyd i'r safon briodol..

 

Nodwyd bod yr Adran wedi wynebu toriadau yn y gorffennol, a phwysau ychwanegol

yn sgil cynnydd yn nhwristiaeth.   Manylwyd ar weledigaeth y Gwasanaeth gan ofyn i’r Pwyllgor am eu sylwadau ar y weledigaeth.

 

Ategodd y Rheolwr Gwasanaethau Stryd sylwadau’r Pennaeth gyda’r pwyntiau canlynol:

·         Cyfeiriodd at y cod ymarfer a nododd oherwydd sefyllfa Covid ni fyddai un newydd yn cael ei gyflwyno o fewn y flwyddyn. Nododd bod deddfwriaeth yn Lloegr i gosbi perchnogion ceir sy’n gollwng sbwriel, nid oedd hyn ar gael yng Nghymru ond yn cael ei hystyried.

·         Nododd fel rhan o’r peilot, bod 4 bin clyfar wedi eu harchebu a fyddai’n gweithio drwy bŵer solar. Byddai’r bin yn gwasgu’r sbwriel nifer o weithiau cyn anfon signal i hysbysu’r swyddogion bod angen ei wagio.

 

Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Croesawyd y weledigaeth a holwyd am finiau ailgylchu ar strydoedd. Nododd bod pobl yn rhoi sbwriel yn y bin anghywir ar ddamwain neu yn ddiofal a gofynnwyd am fwy o wybodaeth am y broses casglu a’r gofynion staffio i wahanu a sortio’r deunydd.

·         Holwyd ynghylch grwpiau codi sbwriel yn wirfoddol gan nodi bod digwyddiadau cyson ar draws y wlad ac yng Ngwynedd a’i fod yn syniad da bod y cyhoedd yn rhan o’r broses.

·         Holwyd beth yw’r drefn efo ysgubo ffyrdd ag a yw hyn yn parhau mewn llefydd gwledig. Ategodd bod cadw ffyrdd yn lan yn ddull o osgoi llifogydd.

·         Codwyd y mater o chwyn ar balmentydd yn enwedig rhai sy’n cael eu defnyddio yn llai aml.

·         Cyfeiriwyd at y Tîm Cymunedau Glan a Thaclus a’r angen i wybyddu aelodau o waith y tîm.

·         Derbynnir cwynion o ran arwyddion yn wyrdd a gydag ymgyrchoedd codi ysbwriel yn ail-gychwyn roedd bagiau duon yn cael eu rhoi tu ôl i finiau stryd. A ellir ystyried ysgubo’r llwybrau beicio yn dilyn torri tyfiant? Holwyd am drefniadau glanhau gwm cnoi.

·         Yn falch bod addysgu plant wedi ei gynnwys fel un o’r camau nesaf ond gall oedolion greu mwy o broblem e.e. peidio â chodi baw cŵn. Wedi gweld cyd-gynghorwyr yn arddangos cynhwysydd siâp asgwrn i ddal bagiau baw cŵn ar y cyfryngau cymdeithasol. Oedd rhai ar gael i aelodau eraill.

·         Bod staff yn ymwybodol o fannau problemus, dylid parhau i wagio biniau yn rheolaidd yn hytrach na  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

TORRI GWAIR A CHYNNAL TIROEDD pdf eicon PDF 123 KB

AELOD CABINET: Y CYNGHORYDD CATRIN WAGER

 

I ystyried yr adroddiad.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, gosododd y cefndir a’r cyd-destun. Nododd er mwyn cyflawni dyletswyddau bod angen paratoi a mabwysiadu polisi torri gwair ar gyfer ymylon ffyrdd, oedd yn ystyried anghenion defnyddwyr y ffordd, yn ogystal ag anghenion bywyd gwyllt. Cyfeiriodd at yr adolygiad o drefniadau torri gwair a’r gyfundrefn cynnal arfaethedig a oedd gerbron er trafodaeth.

 

Manylodd Pennaeth Cynorthwyol Priffyrdd a Bwrdeistrefol ar rai o’r camau a oedd yn cael eu cymryd. Nododd bod yr Adran yn cydweithio gyda’r Uwch Swyddog Bioamrywiaeth ac yn adnabod mannau penodol o ran casglu’r gwair yn dilyn ei dorri. Cyfeiriodd at brosiect ‘ymylon gwell’ gyda’r elusen Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, a oedd i’w gynnal ym mlwyddyn ariannol 2022-23. Nododd bod Plantlife wedi cyhoeddi dogfen yng nghyswllt ymylon ffyrdd cefn gwlad a oedd wedi derbyn sêl bendith Llywodraeth Cymru.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod rhai yn gefnogol i newid trefniadau torri gwair i wella bioamrywiaeth, ond doedd eraill ddim yn gefnogol.

·         Yn derbyn cwynion o ran coed yn ymwthio i’r ffyrdd, a ellir addasu uchder torri mewn rhai achosion? Bod angen cael balans rhwng hybu bioamrywiaeth a diogelwch ffyrdd. Efallai byddai’n opsiwn i dorri un ochr mewn rhai mannau. Yn gefnogol i doriad llawn diwedd Hydref i ddelio gyda gordyfiant prysgwydd ond o’r farn bod torri gwair ym mis Awst mewn ardaloedd gwledig yn rhy hwyr.

·         Bod angen torri mewn ardaloedd 30mya. Roedd ardaloedd yn fwy taclus pan gesglir y gwair a dorrwyd. Beth oedd yr ystyriaethau wrth ddod i gasgliad o ran casglu’r gwair yn dilyn ei dorri? Byddai toriad ym mis Awst yn rhy hwyr yn ei ardal – fyddai’n bosib cael rota o ran pa ardaloedd oedd yn cael toriad gyntaf?

·         Yn sicr roedd lonydd cul angen sylw. Ei fod yn bwysig i fioamrywiaeth bod rhai mannau yn cael eu gadael. Dylai’r Cyngor dynnu lluniau pan fo blodau gwyllt yn eu hanterth a’u defnyddio i hyrwyddo.

·         Bod sbwriel yn dod i’r amlwg yn dilyn torri gwair a’r angen i gyd-gordio trefniadau. Wedi derbyn cwynion o ran drain yn crafu ceir ar lonydd cul a thractorau a ddefnyddir i dorri yn rhy lydan ac yn tynnu waliau i lawr. Dylid ystyried defnyddio peiriannau torri clawdd mewn rhai ardaloedd cul.

·         Bod agweddau yn newid o ran torri gwair gyda mwy o ystyriaeth i fioamrywiaeth. Yn gefnogol i beidio â thorri os oedd yn dderbyniol o safbwynt diogelwch.  

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod symudiad i wneud toriad llawn yn hwyrach yn y flwyddyn. Angen adnabod ardaloedd penodol i hybu bioamrywiaeth gan gynnwys plannu. Edrychir ar y defnydd o chwistrellwr i ladd chwyn gan gynnwys rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio ysgubwr yn lle.

·         Bod gwrychoedd yn cael eu torri i fyny i uchder o 1 medr, cyfrifoldeb y perchennog oedd y tyfiant uwchlaw hyn. Rhoddir ystyriaeth i ardaloedd penodol fel rhan o’r adolygiad.

·         Rhoddir sylw i sylwadau’r aelod. O ran casglu’r holl wair yn dilyn ei dorri, bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

BWRDD NEWID HINSAWDD

I enwebu aelod i gynrychioli’r Pwyllgor ar y Bwrdd Newid Hinsawdd.

 

 

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD: Ethol y Cynghorydd Mike Stevens  i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar y Bwrdd Newid Hinsawdd.

 

 

 

Cofnod:

Nodwyd yn dilyn y drafodaeth yng nghyswllt aelodaeth y Bwrdd Newid Hinsawdd yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 23 Medi 2021, o dan yr eitem ‘Newid Hinsawdd’, derbyniwyd cais i ethol aelod i gynrychioli’r Pwyllgor ar y Bwrdd. 

 

Eglurwyd bod y Bwrdd wedi gwahodd y Cynghorydd Angela Russell fel y Pencampwr Bioamrywiaeth, ac yn estyn gwahoddiad i’r Pwyllgor enwebu un aelod arall oedd gyda diddordeb yn y maes ac yn awyddus i gyfrannu at y gwaith.

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Mike Stevens i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar y Bwrdd Newid Hinsawdd.

 

 

Ar derfyn y cyfarfod, cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i Natalie Lloyd Jones (Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth) am ei gwaith. Dymunwyd yn dda iddi ar gyfer y dyfodol.