skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Ffion Bryn Jones  E-bost: ffionbrynjones@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Kevin Morris Jones, Mike Stevens, a Gethin Glyn Williams

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion o frys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 325 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2022 fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 13eg Ionawr 2022, fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD - ADOLYGIAD PARCIO pdf eicon PDF 100 KB

YR AELOD CABINET – CYNGHORYDD GARETH GRIFFITH

 

Diweddaru’r Pwyllgor am y cynnydd hyd yma yn nhermau rheolaeth cerbydau modur a phwerau ymdrin â modurwyr sydd yn parcio’n anghyfreithlon.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

Cofnod:

Cyflwynwyd diweddariad gan Pennaeth Adran Amgylchedd ar y cynnydd hyd yma ar argymhellion y Grŵp Tasg. Atgoffwyd y pwyllgor bod y Grŵp Tasg wedi ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2019 i ymgymryd ag adolygiad cynhwysfawr o’r strategaeth parcio weithredol ac ystyried ei addasrwydd a pherthnasedd i anghenion presennol y Cyngor a’i chymunedau. Eglurwyd bod adolygu'r trefniadau parcio ar draws y Sir yn anorfod yn nhermau cynaliadwyedd ariannol o ran cyllidebau'r awdurdod er sicrhau bod trefniadau rheoli ymarferol yn rhai effeithiol ac effeithlon. Ategwyd bod adroddiad cynhwysfawr wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Rhagfyr 2020 yn cynnig argymhellion arloesol a phriodol ar gyfer datrys rhai o’r materion yn ymwneud a pharcio. Cyflwynwyd adroddiad terfynol i’r Cabinet ym mis Chwefror 2021 ac fe gymeradwywyd yr isod:

 

·         Mabwysiadu Strwythur Ffioedd Parcio Newydd oedd yn sicrhau cysondeb ar draws y Sir

·         Adolygu cynnig parcio yn ystod cyfnod y Nadolig

·         Dim newidiadau i’r Cynllun Bathodyn Glas

·         Dim newidiadau i’r Cynllun Parcio i Breswylwyr

·         Cryfhau’r Tîm Gorfodaeth Parcio

 

Cadarnhawyd bod yr argymhellion hyn wedi’u gweithredu.

 

O ganlyniad i gyfyngiadau’r pandemig, cydnabuwyd fod llawer o faterion wedi cael cryn effaith ar gymunedau’r Sir yng nghyd-destun parcio. Rhoddwyd diweddariad pellach ar waith oedd yn cael ei wneud i ymateb i ddau faes penodol, sef rheolaeth cartrefi modur a phwerau ymdrin â modurwyr yn parcio’n anghyfreithlon.

 

Yng nghyd-destun cartrefi modur, eglurwyd, mewn ymateb i nifer o gwynion am gartrefi modur yn parcio mewn lleoliadau anaddas a bod diffyg rheolaeth arnynt o fewn y Sir, bod gwaith helaeth wedi ei wneud ar y cyd gyda’r Adran Economi i geisio adnabod goblygiadau’r cynnydd mewn defnydd cerbydau modur (oherwydd cyfyngiadau teithio dramor) a’r effaith o fewn y Sir. Ymgysylltwyd gyda gweithredwyr safleoedd carafanau yng Ngwynedd, y sector cartrefi modur yn ogystal â’r cyhoedd a chymunedau ar draws y Sir drwy holiadur ac adroddwyd bod yr ymateb wedi bod yn un cadarnhaol iawn ac yn amlygu’r angen am fesurau ar gyfer rheoli’r sector cartrefi modur yn y Sir yn well.

 

Yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet yn Nhachwedd 2021 mabwysiadwyd cynllun peilot i ddatblygu lleoliadau parcio ym meysydd parcio’r Cyngor ar gyfer cartrefi modur fyddai’n annog defnydd canol trefi a lleihau’r dwysedd o gartrefi modur sy’n defnyddio lleoliadau anaddas. Ategwyd bod Bwrdd Prosiect wedi ei sefydlu i symud y gwaith ymlaen ac y byddai angen cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer addasu’r meysydd parcio dan sylw.

 

Yng nghyd-destun mabwysiadu pwerau towio cerbydau i ffwrdd, eglurwyd bod y drefn wedi dod i rym o ganlyniad i broblemau parcio ar draws y Sir, yn enwedig ardal Llyn Ogwen a Phen y Pas. Ystyriwyd nad oedd diryw o £35 yn ataliad digonol, ac felly cyflwynwyd cynllun o symud y car os nad oedd cydymffurfiaeth gyda’r gofynion parcio. Er bod y cynllun wedi ei ddatblygu gyda chydweithrediad yr Heddlu, adroddwyd bod y Cyngor bellach gyda hawliau gweithredu ac yn cydweithio gyda chwmni Gwalia Garage, Caeathro. Nodwyd bod bwriad cyflwyno diweddariad ar y drefn wrth i’r cynllun aeddfedu.

 

Diolchwyd am yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR pdf eicon PDF 234 KB

YR AELOD CABINET – CYNGHORYDD DYFRIG SIENCYN

 

Diweddariad ar yr hyn mae’r Cyngor yn ei wneud ar hyn o bryd i ymateb i’r heriau newid hinsawdd a natur a chamau eraill sydd yn ymarferol i’r Cyngor weithredu arnynt i’r dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

Cofnod:

Cyflwynwyd diweddariad gan Arweinydd y Cyngor yn adrodd ar yr hyn roedd y Cyngor yn ei wneud i ymateb i’r heriau newid hinsawdd a natur a chamau eraill sydd yn ymarferol i’r Cyngor weithredu arnynt i’r dyfodol.

 

Adroddwyd bod y Cabinet wedi mabwysiadu Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur (a luniwyd gan dasglu a sefydlwyd gan y Cabinet – Bwrdd Newid Hinsawdd) ar 8 Mawrth 2022. Nodwyd bod y Bwrdd Newid Hinsawdd yn cynnwys Aelodau Cabinet a Phrif Swyddogion ac yn fwy diweddar gwahoddwyd Pencampwr Bioamrywiaeth a chynrychiolydd o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn aelodau sefydlog o’r Bwrdd.

 

Eglurwyd bod y Cynllun Argyfwng yn cael ei arwain gan Pennaeth yr Amgylchedd ond bod cyfrifoldeb ar bob adran yn y Cyngor i weithredu’r cynllun ynghyd a chyfraniadau gan gymunedau’r Sir. Amlygwyd bod sylw wedi ei wneud nad oedd cyfeiriad at fuddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn yn y cynllun, a derbyniwyd ymateb gan y Pennaeth Cyllid yn nodi bod camau sylweddol wedi eu gwneud yn y maes buddsoddi er nad oes rheolaeth uniongyrchol gan y Gronfa ar y buddsoddi.

 

Nodwyd mai’r her oedd cyrraedd targed net sero erbyn 2030. Derbyniwyd bod camau heriol i’w cyflawni ond bod y Cyngor yn benderfynol o gyrraedd y targed a osodwyd gan Llywodraeth Cymru. Amlygodd Pennaeth yr Amgylchedd bod y cynllun yn ddogfen fydd yn cael ei datblygu a’i haddasu’n rheolaidd gan nodi dau gam i’r cynllun: Cam 1 yw’r cynllun presennol sydd yn cynnwys sefydlu trefn briodol a chamau mae’r Cyngor yn bwriadu eu cymryd er mwyn newid y gwasanaethau maent yn eu darparu’n uniongyrchol. Byddai cam 2 yn cael ei gyflwyno ar ôl proses ymgynghori ac yn cynnwys rhagor o wybodaeth am fwriad y Cyngor i gynghori a chefnogi gweithgareddau yn y gymuned ar faterion e.e., ynni mewn adeiladau, rheoli a defnydd tiroedd, ailgylchu, parthau llifogydd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a diolchwyd i’r Bwrdd am ymestyn yr aelodaeth. Cynigiwyd y dylid ystyried gwahodd cynrychiolwyr Arfon a Dwyfor-Meirionnydd yn Senedd Ieuenctid Cymru i fod yn aelodau o’r Bwrdd Newid Hinsawdd.. Nododd yr Arweinydd y byddai’n cyflwyno’r cynnig i’r Bwrdd.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

·         Bod cyfle i Cyngor Gwynedd arwain y ffordd drwy ddylanwadu a chyflwyno’r cynllun yn effeithiol

·         Bod angen annog y 3ydd sector a’r sector breifat i ystyried addasiadau cyffelyb

·         Byddai’n fuddiol cael dadansoddiad costau a budd er mwyn dangos faint o arian gellir ei arbed ynghyd â’r lleihad mewn allyriadau carbon. Drwy nodi canran agos o ran effaith gellir annog y 3ydd sector ac unigolion preifat.

 

·         Bod modd adnabod adeiladau y gellid cyflwyno system gwresogi ddaearol

·         A roddir ystyriaeth i fuddsoddi mewn systemau dŵr poeth solar ynghyd â buddsoddi mewn systemau PV (Photovoltaic) i leihau ôl-troed carbon?

·         Bod angen cynnal archwiliad yn seiliedig ar garbon o adeiladau a cherbydau

·         Bod angen ystyried technoleg amgen e.e., niwclear, hydrogen. Yr Almaen yn buddsoddi mewn prosiectau hydrogen adnewyddadwy, a gynhyrchir drwy ddefnyddio dŵr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â thrydan ac o ble daw’r cyflenwad trydan o ystyried  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.