skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones E-bost: rhodrijones1@gwynedd.llyw.cymru  01286 679256

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2022-2023

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Elin Hywel yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

Cofnod:

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2022-2023

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Kim Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

Cofnod:

Cynigwyd ac eiliwyd dau enw ar gyfer y rôl, sef y Cynghorydd Kim Jones a’r Cynghorydd Glyn Daniels.

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Kim Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Arwyn Herald Roberts a’r Cynghorydd Dyfrig

Siencyn (Arweinydd y Cyngor).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

6.

COFNODION pdf eicon PDF 236 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 10fed Mawrth 2022 fel rhai cywir. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2022 fel rhai cywir.

 

7.

MONITRO PERFFORMIAD pdf eicon PDF 180 KB

I ethol Aelodau ar gyfer mynychu Cyfarfodydd monitro perfformiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorwyr Rhys Tudur ac Linda Morgan i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad maes gwaith Amgylchedd.

 

Ethol y Cynghorwyr Stephen Churchman ac Arwyn Herald Roberts i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad maes gwaith Priffyrdd a Bwrdeistrefol.

 

Ethol y Cynghorwyr Rob Triggs a Llio Elenid Owen i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad maes gwaith Ymgynghoriaeth Gwynedd.

 

Cofnod:

Gwahoddwyd enwebiadau ar gyfer mynychu cyfarfodydd herio perfformiad. Eglurwyd bod tri maes gwaith penodol i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau - Amgylchedd, Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd. Tynnwyd sylw at ‘Ganllaw Herio Perfformiad i Aelodau Craffu’ a oedd wedi ei gynnwys yn y rhaglen.

 

PENDERFYNWYD:

 

-          Ethol y Cynghorwyr Rhys Tudur ac Linda Morgan i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad maes gwaith Amgylchedd.

 

-          Ethol y Cynghorwyr Stephen Churchman ac Arwyn Herald Roberts i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad maes gwaith Priffyrdd a Bwrdeistrefol.

 

-          Ethol y Cynghorwyr Rob Triggs a Llio Elenid Owen i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad maes gwaith Ymgynghoriaeth Gwynedd.

 

8.

BWRDD HINSAWDD A NATUR pdf eicon PDF 228 KB

I enwebu Aelod fel cynrychiolydd i gyfarfodydd Bwrdd Hinsawdd a Natur

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Beca Roberts i gynrychioli’r Pwyllgor ar y Bwrdd Hinsawdd a Natur.

 

Cofnod: