Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Robert Glyn Daniels, Elwyn Edwards a Kim Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion o frys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 328 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28.09.2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28 Medi 2022 fel rhai cywir.

 

5.

DATBLYGIADAU CENEDLAETHOL A LLEOL YNG NGHYSWLLT RHEOLI EFFAITH AIL GARTREFI A LLETY GWYLIAU AR ALLU POBL LEOL I GAEL MYNEDIAD I GARTREFI YN EU CYMUNED A'R CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG. pdf eicon PDF 315 KB

I godi ymwybyddiaeth y Pwyllgor am y newidiadau deddfwriaethol a pholisi cynllunio cenedlaethol sydd ar y gweill.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(i)      Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

(ii)    Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwylllgor yng nghyfarfod 9 Mawrth 2023, yn edrych ar yr opsiynau ardaloedd posib lle gellir tystiolaethu’r defnydd o Gyfarwyddyd Erthygl 4.

(iii)   Gofyn i’r Adran gynnwys gwybodaeth am yr ymgynghoriad a recriwtio yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd a Rheolwr Cynllunio (Polisi Cynllunio ar y Cyd). Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Eglurwyd bod trafferthion wedi bod yn y gorffennol wrth geisio rheoli niferoedd ail gartrefi yng Ngwynedd. Roedd hyn gan nad oedd rheoliadau mewn lle i atal pobl rhag diwygio defnydd eu tai, heb yr angen i ymgeisio am ganiatâd cynllunio.

 

-      Manylwyd bod dosbarth defnydd newydd wedi cael ei wneud ar gyfer trosi tai i dai myfyrwyr yn ninasoedd Cymru a bod hyn wedi gyrru ymchwiliad craffu i edrych ar y posibilrwydd o greu dosbarth defnydd newydd ar gyfer tai oedd yn cael ei drosi yn ail dau neu dai gwyliau.

 

-      Comisiynwyd ymchwiliad gan y Cabinet yn 2019 er mwyn edrych i mewn i’r maes hwn a mabwysiadwyd adroddiad yr arolwg ym mis Hydref 2020 a oedd yn cynnwys argymhellion ar seiliau cynllunio, trwyddedu a chyllid. Bu i Lywodraeth Cymru wneud ymchwiliad pellach gan wneud canfyddiadau tebyg iawn.

 

-      Cadarnhawyd bod tri dosbarth defnydd newydd bellach wedi dod i rym, sef:

 

o   C3 – Prif Gartref

o   C5 – Ail Gartref

o   C6 – Llety Gwyliau byr dymor

 

-      Nodwyd bod gan berchnogion yr hawl i newid rhwng y dosbarthiadau defnydd hyn heb ganiatâd cynllunio. Er mwyn gallu rheoli hyn, mae angen cyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4. Nodwyd byddai hyn yn rhoi grymoedd i’r Cyngor ei wneud yn ofynnol i berchnogion ymgeisio am ganiatâd cynllunio cyn newid dosbarth defnydd eu tai.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Tynnwyd sylw at ymgyrchoedd eraill a gyfranodd at y datblygiadau hyn megis adroddiad Simon Brooks a mudiad Hawl i Fyw Adra.

 

Holwyd sut byddai’r broses o gasglu tystiolaeth a data yn cael ei ariannu.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, cydnabodd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd  bod tair cam er mwyn sicrhau fod erthygl 4 yn dod yn weithredol. Ar hyn o bryd mae’r adran yn blaenoriaethu’r cam cyntaf, sef casglu tystiolaeth oedd yn cael ei wneud gan y Gwasanaeth Polisi ar y Cyd. Gan fod y gwaith hwn yn ddigynsail, rhagwelir angen i gael arweiniad gan Cwnsel ac angen felly am arian ychwanegol.

-      Cadarnhawyd bydd angen recriwtio swyddogion cynllunio ychwanegol pan ddaw erthygl 4 yn weithredol. Mae’n debygol y byddai hyn yn digwydd yn ystod 2023/24. Cyflwynwyd cais i Lywodraeth Cymru ers mis Medi 2022 yn gwneud cais am adnoddau ychwanegol er mwyn sicrhau bod y Cyngor mewn sefyllfa gref i weithredu yn effeithiol pan ddaw erthygl 4 i rym.

-      Eglurwyd bod recriwtio yn broblem ehangach o fewn yr adran yn dilyn pwysau cymhwyso a phwysau ieithyddol y swyddi. Cadarnhawyd fod gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod swyddi’r adran yn apelio i raddedigion. Mae’r adran yn rhannu’r cyfleoedd sydd ar gael gyda phrifysgolion er mwyn denu ymgeiswyr.

 

Gofynnwyd a oes modd cael adroddiad ar ddatblygiadau’r broses recriwtio er mwyn gallu ystyried os bydd yr amserlen o allu gweithredu erthygl 4 ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYFLWYNO CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY pdf eicon PDF 238 KB

Cymeradwyo’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ar gyfer ei fabwysiadu gan Gabinet Y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Rheolwr Cefn Gwlad a Phennaeth Cynorthwyol Amgylchedd. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Eglurodd Aelod Cabinet Amgylchedd bod y cynllun drafft wedi bod gerbron y Pwyllgor hwn cyn mynd allan i ymgynghoriad ac fe’i datblygwyd yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd dros yr haf. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys 7 cwestiwn a oedd wedi eu selio ar y camau gweithredu

-      Cafwyd 294 o ymatebion i’r ymgynghoriad, gyda rhan helaeth o ymatebion yn dangos bodlonrwydd cyffredinol gyda’r cynllun gwella hawliau tramwy

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Holwyd os oedd yr adran wedi cysidro chwilio am wirfoddolwyr i’w cynorthwyo i wella hawliau tramwy. Credir fod pobl yn awyddus i wirfoddoli gan ei fod yn tynnu cymunedau at ei gilydd. Byddai hyn hefyd yn ffordd dda o gydweithio gyda chynghorau tref a chymuned.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd Rheolwr Cefn Gwlad ei fod yn her i swyddogion gyd-lynu gwirfoddolwyr. Gall ymateb i ddiddordeb fod yn heriol ar brydiau gan nad ydi’r adnoddau ar gael i gefnogi gwirfoddolwyr yn barhaus. Rhaid cofio hefyd bod angen cysidro materion iechyd a diogelwch gyda rhai agweddau o wirfoddoli. Er hyn, cydnabuwyd nad oes digon o fanteisio ar wirfoddoli wedi cael ei gynnwys yn y cynllun ac mae lle i wella yma.

-      Aeth y Rheolwr Cefn Gwlad ymlaen i gadarnhau fod perthynas cryf gyda chynghorau cymuned a thref yn enwedig gyda materion ariannu a grantiau. Mae gwaith parhaus yn cael ei wneud i gydweithio gyda chynghorau tref a chyrff cyhoeddus.

 

Nodwyd bod angen i wirfoddolwyr dderbyn hyfforddiant iechyd a diogelwch ac y gallent wneud y gwaith o arolygu llwybrau. Datganwyd clod i waith y gwasanaeth o ystyried y toriadau i’w gyllideb.

 

Gofynnwyd sut byddai’r cynllun yn caniatáu i geffylau fynd ar y llwybrau yn ddiogel wrth gysidro rhwystrau fel giatiau ac agosatrwydd at  draffig ar y ffyrdd.

           

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd Rheolwr Cefn Gwlad y derbynnir ceisiadau yn rheolaidd gan gymdeithas ceffylau i gael caniatâd i ddefnyddio mwy ar y llwybrau. Mae rhai llwybrai yn addas yn barod megis Lonydd Las Ogwen Mae’r llwy’r yma yn llydan a gwastad sydd yn addas ar gyfer ceffylau a beiciau.

-      Aeth y Rheolwr Cefn Gwlad ymlaen i ddweud fod anghysondeb yn y mathau o lwybrau sydd yn rhan o’r rhwydwaith felly nid ydi ceffylau a beiciau yn gallu mynd ar bob un. Mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn cael cysondeb dros y rhwydwaith Lonydd Glas cyfan ac i gael asesiad diogelwch er mwyn i bob defnyddiwr fod yn saff wrth ddefnyddio’r llwybrau.

 

Holiwyd os oes gwaith yn cael ei wneud er mwyn gwneud y llwybrau yn fwy hygyrch i bobl gydag anawsterau symudedd neu i bobl gyda nam golwg. Tybir fod rhai pobl yn cael trafferthion defnyddio’r llwybrau oherwydd pellter arwyddion oddi wrth ei gilydd, yn enwedig os nad ydynt yn gweld yn dda iawn.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

STRATEGAETH LLIFOGYDD LEOL pdf eicon PDF 114 KB

Diweddariad ar y Strategaeth Llifogydd Lleol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a Phennaeth Cynorthwyol Ymgynghoriaeth Gwynedd . Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Esboniodd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol fod y ddogfen yn manylu ar risgiau llifogydd mewndirol ac arfordirol ond bod y rhain yn cael eu cysidro ar wahân.

-      Trafodwyd risgiau llifogydd mewndirol gan egluro fod pob ardal yn cael eu cysidro yn annibynnol er mwyn datgan y risgiau sy’n effeithio gwahanol rannau o’r sir. Ystyriwyd bod ystyriaeth rhy leol wedi cael ei wneud yn y gorffennol ac felly mae’r adran yn awyddus i edrych ar ardaloedd fesul dalgylch er mwyn canfod risgiau mwy real.

-      Trafodwyd risgiau arfordirol. Pwysleisiwyd bod yr adran eisiau canfod yr ardaloedd mwyaf bregus er mwyn ymgeisio am grantiau i gael deunyddiau i’w gwarchod.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Holwyd tua faint mae lefelau’r môr yn mynd i godi yn sgil effaith newid hinsawdd, beth ellir ei wneud er mwyn ei atal a’r sefyllfa yn ardal Friog.

           

-      Mewn ymateb i’r ymholiad hwn, nododd Pennaeth Cynorthwyol Ymgynghoriaeth Gwynedd bod rhagdybiaeth y bydd lefel y môr yn cynyddu tua metr yn y dyfodol oherwydd newid hinsawdd. Eglurodd bod cynllun penodol ar gyfer ardal Friog yng nghyswllt lliniaru effaith a’r effaith gymunedol. Nododd y gwneir asesiad effaith ar y gymuned.

 

Cyfeiriwyd at fwriad yr adran i edrych ar y dalgylchoedd yn rheolaidd i adolygu eu risgiau llifogydd. Gofynnwyd sut mae’r adran am fynd o gwmpas i wneud hyn.

 

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Ymgynghoriaeth Gwynedd bod nifer o brosiectau bychan ar waith o fewn y dalgylchoedd er mwyn cael gwybodaeth eglur ym mhob ardal. Mae’r prosiectau yma yn cael eu hunioni cyn cyflwyno gwybodaeth i Gyfoeth Naturiol Cymru sydd yn bwydo’r wybodaeth i’w bas data.

-      Ymhelaethwyd bod modd defnyddio map Cyfoeth Naturiol Cymru i weld faint o dai bydd mewn ardal risg uchel yn y dalgylch. Gan fod gwybodaeth yn cael ei fwydo i mewn yn rheolaidd i mewn i’r bas data, mae’r wybodaeth yma yn debygol o newid yn gyson. Wrth i’r adran weithio ar ardaloedd o risg uchel a datrys problemau, bydd y wybodaeth yn cael ei fwydo yn ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn iddynt ddiweddaru eu gwybodaeth.

-      Pwysleisiwyd er bod y broses yma yn cymryd amser, bydd y blaenoriaethau bydd angen eu dilyn yn newid gydag amser er mwyn sicrhau bod cymorth atal llifogydd yn mynd i’r ardaloedd sydd eu hangen fwyaf. Mae’r wybodaeth yn cael ei symud o’r adran i Gyfoeth Naturiol Cymru dwywaith y flwyddyn. Mae hyn yn ddigonol i’r adran.

 

Nodwyd ei fod yn allweddol i gysidro pa sgil-effeithiau ar ardaloedd cyfagos gaiff prosiectau i warchod yr arfordir mewn un dalgylch. Mae’n bosib fod datrys risgiau llifogydd arfordirol mewn un gymuned yn cael effaith negyddol ar ardal arall. Mae’n bwysig cymryd y risgiau yma i ystyriaeth wrth geisio llunio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2022/23 pdf eicon PDF 400 KB

I’r Pwyllgor flaenoriaethu eitemau ar gyfer y cyfarfodydd sydd i ddod a mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(i)      Blaenoriaethu’r eitem ‘Cynllun Llesiant’ ar gyfer cyfarfod 19 Ionawr 2023 gan dynnu’r eitem ‘Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig’.

(ii)    Mabwysiadu’r rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2022/23.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu a thynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Cadarnhawyd bod y pwyllgor wedi mabwysiadu’r rhaglen waith yn y cyfarfod diwethaf ar 28.09.2022. Ers hyn mae un adroddiad wedi llithro yn ôl yn yr amserlen, sef yr eitem ‘Cynllun llesiant’. Derbyniwyd cais gan swyddogion i gyflwyno’r adroddiad hwn i’r pwyllgor ym mis Ionawr. Mae pedair eitem wedi eu rhaglennu ar gyfer mis Ionawr yn barod felly roedd angen blaenoriaethu.

 

-      Eglurwyd bod yr eitem ‘Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig’ wedi ei amserlennu ar gyfer mis Ionawr. Cadarnhawyd bod sesiwn gwybodaeth wedi bod yn ddiweddar ar gyfer yr aelodau. Cynigir ei dynnu oddi ar amserlen mis Ionawr gan flaenoriaethu adroddiad ‘Cynllun Llesiant’ yn ei le. Bydd angen craffu’r cynllun llesiant gan y byddai’n llywio blaenoriaethau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn y cyfnod nesaf.

 

Mewn ymateb i ymholiad am gynnwys yr eitem ‘Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig’, cadarnhawyd mai amserlen/proses y cynllun y bwriadwyd ei graffu yn unig, nid cynnwys y cynllun ei hun. Mae’r wybodaeth yma eisoes wedi cael ei rannu yn y sesiwn gwybodaeth i aelodau.

 

PENDERFYNWYD

(i)     Blaenoriaethu’r eitem ‘Cynllun Llesiant’ ar gyfer cyfarfod 19 Ionawr 2023 gan dynnu’r eitem ‘Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig’.

(ii)    Mabwysiadu’r rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2022/23.