Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Kim Jones, Robert Glyn Daniels, Stephen Churchman, Beca Roberts a Rob Triggs.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL.

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion o frys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 356 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27.10.2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022, fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD BLYNYDDOLGAN Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL (GWYNEDD A MÔN). pdf eicon PDF 515 KB

I roi trosolwg i Aelodau o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) Gwynedd a Môn, Ionawr 2023 am y cyfnod 2020-21, a'r datblygiadau ar gyfer 2022-23.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd Meddwl ac Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn manylu ar y cyfnod 2021-22.

-      Eglurwyd bod y bartneriaeth wedi cael ei sefydlu ar ddyletswydd statudol Awdurdodau Lleol i weithio mewn partneriaeth gyda’r heddlu, Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a'r Gwasanaeth Tan ac Achub yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a Deddfau Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a 2006.

-      Esboniwyd bod y bartneriaeth yn edrych ar drosedd ac anrhefn, camddefnyddio sylweddau a lleihau aildroseddu.

-      Adroddwyd mai blaenoriaethau’r bartneriaeth ar gyfer y flwyddyn 2023-24 oedd atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, mynd i’r afael â throseddau treisgar a chyfundrefnau difrifol a hefyd i ddiogelu ac adeiladu cymunedau gwydn a chynnal diogelwch y cyhoedd.

-      Datganwyd bod y bartneriaeth wedi wynebu heriau dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn benodol, y bartneriaeth wedi colli ei holl grantiau gan eu bod wedi dod i ben neu wedi symud i lefel rhanbarthol (Gogledd Cymru gyfan). Yn ogystal, golygai datblygiadau technolegol bod mathau newydd o droseddau bellach wedi cyrraedd ardal Gwynedd a Môn. Er bod y siroedd hyn yn rhai o’r llefydd mwyaf diogel i fyw, roedd achosion o Gangiau Trosedd Cyfundrefnol (Organized Crime Groups) a llinellau cyffuriau (county lines) yn yr ardal gyda’r bartneriaeth yn ymwybodol ohonynt.

-      Manylwyd bod siopladradau wedi cynyddu 53.8% yng Ngwynedd o’i gymharu â 2021/22. Credid bod hyn yn deillio o’r cynnydd cyffredinol mewn costau byw a disgwylid i’r math yma o droseddu gynyddu yn y misoedd i ddod.

-      Darparwyd crynodeb o waith y bartneriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf:

o   Cynhaliwyd sesiynau hyfforddiant gan Uned Troseddau Economaidd yr Heddlu ar gyfer staff Awdurdodau Lleol  sy’n gweithio gyda phobl fregus i dynnu sylw at sgamiau â defnyddwyr gan dwyllwyr

o   Cwblhawyd prosiect Strydoedd Mwy Diogel 2 ym Mangor gan osod 42 o gamerâu cylch cyfyng ychwanegol a mwy o oleuadau yn ardal Hirael/Deiniol o’r ddinas.

o   Cyflwynwyd Grŵp SOC (Troseddau Cyfundrefnol Difrifol) ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn.

o   Mynychwyd y grŵp rhanbarthol yn rheolaidd i ddatblygu Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol yn y ddau Gyngor.

o   Sefydlwyd grŵp VAWG (Trais yn erbyn Menywod a Merched) ym mis Mawrth. Roedd y bartneriaeth yn mynychu cyfarfodydd yn gyson er mwyn rhoi mewnbwn i’r gwaith o feithrin hyder rhwng menywod a’r heddlu.

o   Datblygwyd  Grŵp Cyflawni Atal Rhanbarthol.

o   Derbyniodd Cyngor Gwynedd Achrediad Rhuban Gwyn yn dilyn gwaith yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol.

o   Ymgynghorwyd gyda’r heddlu i archwilio’r posibilrwydd o ymestyn darpariaeth bresennol y Cynllun Mannau Diogel.

-      Cadarnhawyd bod y prosiectau hyn oll yn parhau i redeg dros y flwyddyn nesaf a’r bartneriaeth am barhau i gefnogi holl gyfarfodydd a phrosiectau rhanbarthol. Roedd y bartneriaeth yn ymwybodol o argyfwng costau byw sy’n effeithio trigolion Gwynedd a Môn ac edrych i weld sut gall y bartneriaeth leihau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CRAFFU Y CYNLLUN LLESIANT DRAFFT pdf eicon PDF 267 KB

Rhoi cyfle i aelodau’r Pwyllgor graffu cynnwys y Cynllun Llesiant Drafft Gwynedd a Môn a chyflwyno unrhyw sylwadau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(i)         Derbyn yr adroddiad.

(ii)        Gofyn i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn sicrhau gwarchodaeth i’r Iaith Gymraeg yn y Cynllun Llesiant.

(iii)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r amcan llesiant ‘Rydym am weithio gyda’n gilydd i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau’ gan ei fod yn holl bwysig.

(iv)      Bod angen sicrhau bod ein plant a phobl ifanc yn cael bob tegwch.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd y Cyngor a Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Esboniwyd byddai’r Cynllun Llesiant yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai, gyda’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal nes 6 Mawrth 2023.

-      Ymhelaethwyd bod y gwaith i wneud y Cynllun Llesiant drafft wedi cael ei ddatblygu dros yr 18 mis diwethaf. Cynhaliwyd gweithdai dros yr haf gydag aelodau’r bwrdd er mwyn dysgu gwersi o’r cynllun llesiant blaenorol a gosod meini prawf er mwyn cytuno ar amcanion newydd. Nodwyd bod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn awyddus i sicrhau eu bod yn ychwanegu gwerth drwy weithio gyda'i gilydd heb ddyblygu gwaith byddai’n cael ei gyflawni beth bynnag.

-      Cadarnhawyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi llunio tri Amcan Llesiant ar gyfer y cyfnod 2023-2028. Roedd y rhain yn feysydd lle’r oedd y Bwrdd yn credu fod modd i’w aelodau gydweithio’n well er mwyn sicrhau canlyniad gorau posib i bobl Gwynedd a Môn. Yr amcanion drafft oedd:

o   Rydym am weithio gyda'n gilydd i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau.

o   Rydym am weithio gyda'n gilydd i flaenoriaethu lles a llwyddiant ein plant a phobl ifanc.

o   Rydym am weithio gyda'n gilydd i gefnogi ein cymunedau i symud tuag at Sero Net Carbon.

-      Pwysleisiwyd bod yr Iaith Gymraeg yn llinyn euraidd a fyddai’n cael ei hyrwyddo ym mhob maes yng nghynllun y Bwrdd.

-      Eglurwyd bod y Bwrdd yn parhau i ymgynghori drwy rannu’r Cynllun Llesiant Drafft gyda chynghorau tref a chymuned, y trydydd sector, fforymau pobl hŷn, plant mewn gofal a myfyrwyr colegau a chweched dosbarth.

-      Cadarnhawyd byddai’r Bwrdd yn addasu’r cynllun llesiant ddrafft yn dilyn y cyfnod ymgynghori pe byddai angen cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn a’i gyhoeddi ym mis Mai.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Atgoffwyd yr aelodau bod y Pwyllgor yn ymgynghorai statudol. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Rhannwyd pryder am warchodaeth yr iaith Gymraeg yn y Cynllun, yn enwedig yn dilyn canlyniadau’r Cyfrifiad diweddar. Nodwyd er bod yr adroddiad yn nodi fod yr iaith yn llinyn euraidd, nid oedd wedi ei gynnwys fel amcan penodol yn y Cynllun newydd. Holwyd os byddai’r Bwrdd yn ystyried newid un o’r amcanion i gynnwys yr iaith Gymraeg neu ychwanegu amcan ychwanegol.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod:

-      sicrhaodd y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn bod yr iaith wedi ei wreiddio yn holl waith y Bwrdd. Nid oedd yr iaith wedi ei nodi fel amcan oherwydd bod holl aelodau’r Bwrdd yn gweithredu’n Gymraeg yn barod ac felly ddim yn darged newydd. Nodwyd y byddai’r Bwrdd yn ystyried diwygio’r cynllun er mwyn amlygu statws y Gymraeg o fewn y Cynllun.

-      nododd Arweinydd y Cyngor bod yr is-grŵp iaith hefyd yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio gan holl aelodau’r Bwrdd.

 

Ystyriwyd sut fyddai’r amcanion yn cael eu hariannu a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

TORRI GWAIR A CHYNNAL TIROEDD. pdf eicon PDF 243 KB

I adolygu trefniadau cynnal ymylon ffordd Sirol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(i)         Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

(ii)        Gofyn i’r Adran gyflwyno canlyniadau’r treialon a’r polisi torri gwair newydd i’r Pwyllgor pan yn amserol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd  a Phennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Eglurwyd bod yr adroddiad yn ddiweddariad ar drefniant torri gwair arfaethedig a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Ionawr 2022.

-      Adroddwyd bod treialon torri a chasglu gwair yn y broses o gael eu cynnal er mwyn hybu anghenion bywyd gwyllt a bioamrywiaeth. Ymhelaethwyd bod y gwaith o hadu’r ardaloedd yn y treialon wedi ei gwblhau ym mis Hydref a byddai modd gweld os byddent wedi bod yn llwyddiannus neu beidio o fis Ebrill 2023 ymlaen.

-      Datganwyd bod y treialon wedi eu hariannu drwy dderbyn grantiau. Roedd y Cyngor wedi llwyddo i brynu peiriannau torri a chasglu gwair gyda’r arian yma a gellir eu defnyddio yn y dyfodol.

-      Cadarnhawyd byddai’r treialon yn cael eu hyrwyddo o fewn stondin y Cyngor yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 ym Moduan. Rhannwyd bod ymwelwyr yr eisteddfod yn debygol o basio ardaloedd y treialon a gobeithid byddai’r blodau gwyllt wedi tyfu erbyn hynny er mwyn iddynt sylweddoli ar y gwahaniaeth. Gobeithir rhannu neges bositif a chadarnhaol am y treialon i’r cyhoedd a bod y system newydd am arbed arian.

-      Pwysleisiwyd fod iechyd a diogelwch yn ystyriaeth bwysig iawn o fewn y treialon a ni fyddai ystyriaeth i ychwanegu unrhyw ardal i’r treialon os byddai’n amharu’n negyddol ar iechyd a diogelwch.

-      Diolchwyd i’r Adran Amgylchedd am gydweithio mor agos gyda’r Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol ar y treialon hyn.

-      Mynegwyd bod cytundeb newydd gyda’r gwasanaeth torri gwair yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ar gyfer y tymor tyfu nesaf. Cadarnhawyd fod modd i’w ddiwygio yn dilyn canlyniad y treialon pan fyddai’r polisi newydd wedi cael ei ddatblygu.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Gofynnwyd a oedd problemau yn debygol o godi yn deillio o’r ffaith ni fyddai’r  polisi yn barod cyn i’r cytundeb fod yn ei le.

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol na fyddai hyn yn broblem gan fod darpariaeth yn cael ei rhoi o fewn y cytundebau er mwyn caniatáu newidiadau o’r fath.

 

Nodwyd bod y Pwyllgor wedi ystyried adroddiad ar y mater yma yng nghyfarfod 13 Ionawr 2022. Holwyd am yr amserlen o ran mabwysiadu polisi newydd. Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol nad oedd y polisi wedi ei ddatblygu hyd yma oherwydd y tymhorau llawn oedd eu hangen ar gyfer y treialon. Eglurodd bod paratoadau ar gyfer y treialon wedi cael eu gwneud ar ddiwedd y cyfnod tyfu diwethaf. Cadarnhaodd ei fod yn bwysig i’r adran asesu sut roedd y treialon yn mynd yn eu blaen cyn creu polisi. Nododd o ganlyniad byddai modd datblygu’r polisi erbyn Medi/Hydref 2023.

 

 

Yn dilyn yr ymateb, ystyriwyd gwahodd yr Adran yn ôl i gyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau tua mis Rhagfyr 2023.

 

Holwyd os byddai trafferthion i’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

AMLINELLIAD O RAGLEN WAITH ADOLYGU GWASANAETHAU GWASTRAFF AC AILGYLCHU pdf eicon PDF 305 KB

1.     I amlinellu’r materion sydd angen sylw yn y meysydd Gwastraff ac Ailgylchu.

2.     I gyflwyno rhaglen waith i adolygu materion sydd angen sylw ym meysydd Gwastraff ac Ailgylchu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd a Phennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

-      Cadarnhawyd bod y gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu wedi ei drosglwyddo i’r Adran Amgylchedd ers Hydref 2022. Roedd y Pennaeth Adran wedi bod yn dysgu mwy am y gwasanaeth ac yn ymgyfarwyddo gyda’r gwaith drwy fynd ar gylchdeithiau gyda rhai o’r gweithlu.

-      Eglurwyd bod gweithlu’r gwasanaeth yn ymroddgar iawn gan eu bod yn darparu gwasanaeth wythnosol i tua 63,400 o anheddau ar draws y sir.

-      Datganwyd bod canrannau ailgylchu Cymru yn dda iawn o’i gymharu â gwledydd eraill. Eglurwyd bod targed wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru i ailgylchu 70% o holl wastraff domestig erbyn 2025. Roedd yn her i bob awdurdod lleol.

-      Diolchwyd i’r adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol am ddatblygu systemau i sicrhau fod canran ailgylchu domestig Gwynedd yn sefydlog o gwmpas 64%. Er hyn, cydnabuwyd yr angen i wneud rhywbeth mawr er mwyn cyrraedd y targed o 70% erbyn 2025. Nododd ni fyddai’n bosibl ei gyrraedd drwy wneud man newidiadau i weithdrefnau presennol.

-      Eglurwyd bod trefniadau gweithio’r gwasanaeth wedi newid o shifftiau 12 awr (tri diwrnod ymlaen, tri diwrnod i ffwrdd) i fod yn gweithio'r un oriau dros 5 niwrnod yr wythnos. Roedd hyn yn heriol dros gyfnod Covid-19 ond bellach roedd y gweithlu wedi addasu iddo ac yn gweithio ar sylfaen Tasg a Gorffen. Gobeithiwyd bod hyn yn mynd i arwain at arbedion o fewn y gwasanaeth ond yn anffodus roedd y costau yn fwy na  ragwelwyd. Byddai’r adran yn ail edrych ar y trefniant hwn er mwyn asesu os oedd yn optimeiddio’r gwasanaeth i’w llawn botensial.

-      Adroddwyd bod casglu gwastraff yn costio £232 yr annedd. Eglurwyd mai hwn oedd yr ail swm uchaf yng Nghymru. Cysidrwyd bod hyn gan fod Gwynedd yn sir eang iawn. Er hyn, roedd perfformiad y gwasanaeth yn dda iawn o ran canran ailgylchu.

-      Cadarnhawyd bod gorwariant sylweddol yn y maes casglu a thrin gwastraff. Oherwydd natur gorfforol y gwaith, roedd lefelau salwch staff yn uchel. Cydnabuwyd bod y lefel hwn yn uwch na rhai o awdurdodau eraill Cymru. Golygai bod rhai aelodau o’r gweithlu yn gorfod gweithio oriau ychwanegol. Tybir i’r ffigyrau gorwariant fod o gwmpas £1.4 miliwn eleni ar gyllideb o oddeutu £5 miliwn.

-      Pwysleisiwyd bod iechyd a diogelwch y gweithlu yn ganolog i’r gwasanaeth. Nid oedd strategaeth gwastraff ac ailgylchu amlwg gan y Cyngor. Roedd yr adran yn gobeithio datblygu hyn yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod iechyd a diogelwch staff yn cael ei warchod.

-      Dywedwyd bod yr adran yn derbyn cwynion cyson bod bocsys a biniau ailgylchu wedi torri a bod gwastraff yn chwythu ar hyd y ffordd gan nad oedd wedi cael ei gasglu. Tybir fod hyn hefyd yn effaith o salwch staff ac roedd yr adran yn ail asesu sut i ddarparu’r gwasanaeth yn y dull mwyaf effeithiol. Roedd y Llywodraeth yn obeithiol byddai awdurdodau lleol yn gallu didoli gwastraff ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2022/23 pdf eicon PDF 397 KB

I fabwysiadu rhaglen waith diwygiedig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2022/23.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu a thynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

-      Adroddwyd bod y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd yn mynychu cyfarfodydd rheolaidd gydag Aelodau Cabinet a Phenaethiaid Adran perthnasol. Mewn cyfarfod diweddar gydag Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, cyfeiriwyd at yr eitem ‘Strategaeth Llifogydd Lleol’ a graffwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 27 Hydref 2022. Roedd y Pennaeth Adran a’r Aelod Cabinet yn awyddus iawn i’r pwyllgor graffu ‘Asesiad Risg Llifogydd’ yng nghyfarfod y pwyllgor craffu ym mis Mawrth gan ei fod yn amserol wrth ddatblygu Strategaeth Llifogydd Lleol.

-      Gofynnwyd i’r aelodau gymeradwyo’r addasiad yma i’r rhaglen waith.

 

PENDERFYNWYD

Mabwysiadu’r rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2022/23.

 

10.

CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD. pdf eicon PDF 184 KB

I enwebu cynrychiolwyr i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu a thynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

-      Adroddwyd mai un cyfarfod herio perfformiad a gynhelir ar gyfer meysydd gwaith Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd (YGC) yn dilyn trosglwyddiad YGC i’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol.

-      Atgoffwyd bod sedd wag i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yng nghyfarfod herio perfformiad Amgylchedd.

-      Cadarnhawyd yn dilyn cyfarfod anffurfiol y Pwyllgor a gynhaliwyd 27 Hydref, 2022, rhoddwyd y cyfle i’r pedwar cynrychiolydd presennol i ddatgan diddordeb. Yn dilyn derbyn ymatebion, argymhellwyd:

o   Bod y Cynghorydd Llio Elenid Owen yn llenwi’r sedd wag ar gyfarfod Herio Perfformiad Amgylchedd.

o   Y Cynghorwyr Stephen Churchman a Rob Triggs i gynrychioli’r pwyllgor yng nghyfarfodydd herio perfformiad Priffyrdd a Ymgynghoriaeth Gwynedd, gyda’r Cynghorydd Arwyn Herald Roberts yn aelod wrth gefn.

 

PENDERFYNWYD

Ethol y Cynghorwyr Rhys Tudur a Llio Elenid Owen i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad maes gwaith Amgylchedd.

 

Ethol y Cynghorwyr Stephen Churchman a Rob Triggs i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad maes gwaith Priffyrdd, Bwrdeistrefol a Ymgynghoriaeth Gwynedd, gyda’r Cynghorydd Arwyn Herald Roberts yn aelod wrth gefn.