skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Peter Read (Cyngor Gwynedd).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 220 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2016, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor Ymgynghorol a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2016 fel rhai cywir.

5.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 145 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·      Gofynnir i aelodau dynnu sylw’r Gwasanaeth i faterion yng nghyswllt y Côd Diogelwch Morwrol.

·         Roedd y Gwasanaeth yn disgwyl derbyn adolygiad o’r côd gan arbenigwr allanol Asiantaeth Gwylwyr y Glannau ym mis Ionawr. Yn anffodus, oherwydd diffyg capasiti nid oedd yr archwiliad wedi ei gynnal ac roedd y Gwasanaeth yn disgwyl i ail drefnu’r adolygiad. Rhagwelwyd y cynhelir yr adolygiad ym mis Medi 2017.

·      Yn dilyn sylw a wnaed yn y cyfarfod blaenorol roedd golau’r Bwi Tramwyo wedi ei newid fel bod y golau i’w weld ymhellach o’r môr. Cyfeiriwyd at gryfder golau diogelwch cwmni Blue Water Marine, nododd Cynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol y byddai’n codi’r mater efo’r cwmni.

·         Bod y Gwasanaeth, ar y cyd gyda Sefydliad y Bad Achub, wedi cychwyn ar waith cynnal adolygiad o arwyddion diogelwch ardal yr Harbwr a thraethau Pwllheli. Fe fyddai’r Gwasanaeth yn ymateb i ganlyniad yr archwiliad a gobeithir y byddai unrhyw arwydd newydd yn cyfrannu at ddiogelwch ar y rhan yma o arfordir Gwynedd.

·      Manylwyd ar sefyllfa gyllidebol bresennol yr Harbwr a’r Hafan gan nodi fod y Gwasanaeth yn ffyddiog y byddai’r gyllideb yn unol â’r targed heblaw am ddiffyg yn incwm yr Hafan.

·      Yr ail-edrychir ar sut cyflwynir gwybodaeth gyllidebol i’r Pwyllgor Ymgynghorol.

·       Bod y Cyngor wedi cefnogi cais y Gwasanaeth i unioni trefn codi ffi yn yr Hafan. O’r 1af o Ebrill ymlaen fe fyddai’r drefn codi ffi am angorfa pontŵn yn dychwelyd at drefniant Uchafswm Hyd Cwch (LOA) yn Hafan Pwllheli. Rhagwelwyd y byddai hyn yn lleihau cost angorfa flynyddol i 95% o’r cwsmeriaid oedd ar drefniant codi ffi ‘banding’ a gobeithir byddai hyn yn denu cwsmeriaid newydd i’r Hafan dros y tair blynedd nesaf.

·         Bod rhaid i’r Cyngor ychwanegu ffi am bob angorfa ym mhob Harbwr o dan reolaeth y Cyngor yn 2017. Eglurwyd bod y ffi wedi ei ychwanegu gan Ystad y Goron a fyddai’n hawlio £25.00 am bob angorfa yn yr Harbwr Allanol. Nodwyd bod gofyn ar y Cyngor, fel yr Awdurdod Harbwr, i godi a chasglu’r ffi ar ran Ystad y Goron. Ychwanegwyd bod y ffi ychwanegol hefyd yn daladwy am angorfeydd ymwelwyr ac fe fydd gofyniad i’r taliad hwn gael ei ariannu drwy gyllideb yr Harbwr.

 

Rhoddwyd diweddariad ar y gwaith a fwriedir ei gwblhau yn unol â’r Strategaeth Carthu, nodwyd y cynhelir archwiliad o’r sianel yn ystod y llanw isel mwyaf ffafriol nesaf gan gynnal arolwg hydrograffeg er mwyn adnabod os byddai angen comisiynu gwaith ‘bed levelling’ yn y sianel. Nodwyd y gwneir gwaith carthu ceg yr harbwr yn ystod mis Ebrill cyn gwneud gwaith ‘bed levelling’ cyn y Sulgwyn os oes angen. Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n anfon copi o’r Strategaeth Garthu i’r aelodau nad oedd wedi derbyn copi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o ran cynyddu maint y forddwyd, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y bwriedir dychwelyd y forddwyd i’w ffurf flaenorol. Nodwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar 17 Hydref 2017.

Cofnod:

Adroddwyd y byddai’r Swyddog Cefnogi Aelodau yn anfon at y sefydliadau/mudiadau ym mis Mai i wneud cais am gyfansoddiadau / cofnodion cyfarfodydd blynyddol ynghyd â chadarnhad o’u cynrychiolydd.

 

Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 17 Hydref, 2017.