skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfa'r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AA. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2017/18.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Hefin Underwood yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd am 2017/18.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Peter Read yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

David Dewsbury (Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli), W. A. Partington (Cymdeithas Masnachwyr Morwrol) a’r Cynghorydd Ioan Thomas (Aelod Cabinet – Datblygu’r Economi).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

 

Cofnod:

Cyfeiriodd aelod at yr angen i gynnal cyfarfod i drafod cyflwr safle’r hen Glwb Hwylio. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod angen edrych ar Benrhyn Glandon yn ei gyfanrwydd ond roedd angen rhoi ystyriaeth os oedd Penrhyn Glandon o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor hwn. Nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned y byddai’r gwasanaeth yn hapus i gynnal cyfarfod i drafod y mater.

 

Nododd Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a Phlas Heli nad oedd cwynion wedi eu cyfeirio at Plas Heli o ran cyflwr safle’r hen Glwb Hwylio. Nododd pryder am gyflwr maes parcio traeth Glandon a bod Plas Heli yn barod i fod yn rhan o drafodaethau o ran gwella’r safle.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 220 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2017, fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Mawrth, 2017, fel rhai cywir.

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 239 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned at y Strategaeth Garthu gan nodi y comisiynwyd Alan Williams (Coastal Engineering UK Ltd) ar y cyd efo Ymgynghoriaeth Gwynedd i edrych ar yr opsiynau o ran cryfhau’r Crib Groyne a lleihau’r gwaddod yno.

 

Derbyniwyd cyflwyniad gan Alan Williams yn manylu ar ei waith yn asesu ac adolygu’r Crib Groyne. Tynnodd sylw at 4 opsiwn posibl ac amcangyfrif o’r gost ynghlwm sef:

 

1.    Y lefel isaf o gynnal a chadw'r strwythur presennol (£10-15,000);

2.    Cynnal a chadw lefel uwch ac adfer y strwythur presennol (£35-40,000);

3.    Estyniad fertigol / amgylchynu’r strwythur presennol gan ddefnyddio cyfuniad o (a) gwaith dur crib neu (b) stanciau dalennau ac arfwisg carreg (£125-135,000 (a) neu £225-240,000 (b)); neu

4.    Amgylchynu'r strwythur presennol mewn arfwisg carreg (£140-150,000).

 

Amlygodd yr ystyriaethau canlynol o ran yr opsiynau:

 

·         Nid oes angen llawer o ymyrraeth i wireddu opsiynau 1 a 2 ond byddent ond yn cynnig ychydig o welliant mewn perfformiad o gymharu ag amodau presennol;

·         Bydd opsiynau 3 a 4, oherwydd codiad yn y lefel a gwell chadarnder ac uniondeb, yn lleihau trosglwyddo a symud dros y strwythur; fodd bynnag

·         Dros gyfnod o ddeng mlynedd, byddai’n debygol y byddai gwerth presennol costau'r opsiynau hyn yn uwch na'r drefn barhaus o garthu a chael gwared arno; ac

·         Opsiynau 1, 2 a 4 oedd y mwyaf hyblyg o ran y gallu i addasu i drefniadau'r dyfodol.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau a gofyn cwestiynau i’r ymgynghorydd, ymatebodd iddynt fel a ganlyn:

·         O ran cynyddu hyd y Crib Groyne, nad oedd cynyddu hyd y Crib Groyne yn rhan o’i ffriff a byddai’n rhaid gwneud gwaith manylach o ran modelu, asesu’r effaith ac ystyriaethau amgylcheddol. Nododd bod angen gwneud gwaith yn y tymor byr;

·         Yn bosib rhoi ystyriaeth i symud y ‘trailing arm’ mwy i’r chwith pan asesir opsiynau tymor hir;

·         Bod defnyddio arfwisg carreg trwm neu strwythurau concrid pre-fab i atgyfnerthu yn hytrach na strwythur dur ynghyd a symud y ‘trailing arm’ fel ei fod yn mynd i mewn i ddŵr dyfn, yn rhywbeth oedd i’w ystyried wrth edrych ar opsiynau tymor hir;

·         Cytuno mai dim ond atal y sefyllfa rhag dirywio am gyfnod byddai opsiwn 3 ond yn ei gyflwyno gan nid oedd eisiau ei ddiystyru fel opsiwn posib;

·         Bod byrdwn ariannol cynnal a chadw blynyddol felly bod angen astudiaeth o’r opsiynau tymor hir o ran y Crib Groyne gan ystyried efallai symud cyfeiriad y fraich arall.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod y gwasanaeth yn awyddus i weithredu ar ddatrysiad tymor byr yn y misoedd nesaf. Ychwanegodd y byddai datrysiad tymor hir yn broses 2-3 blynedd felly roedd yn rhaid gweithredu ar ddatrysiad tymor byr na fyddai’n cyfyngu ar yr opsiynau posib ar gyfer y tymor hir.

 

Nododd Cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli y dylid ystyried efallai cynyddu hyd y Crib Groyne yn raddol er mwyn gweld faint o hyd y gellir ei ennill heb gymhlethu’r broses gan asesu os oedd yn effeithiol.

 

Nododd y Cadeirydd bod angen gwneud  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ETHOL SYLWEDYDDION

I ethol sylwedyddion i wasanaethu ar y canlynol –

 

a)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi

b)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw

c)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog

 

 

Cofnod:

Adroddwyd bod angen ethol sylwedydd/ion i wasanaethu ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi, Abermaw a Porthmadog.       

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Peter Read i wasanaethu fel sylwedydd ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi, Abermaw a Porthmadog.

9.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar 20 Mawrth 2018.

 

Cofnod:

Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 20 Mawrth, 2018.