Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfa'r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AA

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2018/19.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Hefin Underwood yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd am 2018/19.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Peter Read yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

David Dewsbury (Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli), Stephen Tudor (Clwb Hwylio Pwllheli a Phlas Heli) a’r Cynghorydd Ioan Thomas (Aelod Cabinet – Datblygu’r Economi).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Nododd aelod ei fod wedi derbyn cwynion am blastig yn dod i’r wyneb ar draeth Glandon. Eglurodd ei fod wedi cysylltu efo Cyfoeth Naturiol Cymru a’u bod yn nodi mai mater i’r Cyngor ydoedd. Nododd ei fod wedi cysylltu efo’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig cryn amser yn ôl ond bod y plastig yn parhau i ddod i’r wyneb.

 

Mewn ymateb i’r uchod, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod deunydd wedi ei gladdu ar y traeth pan ddatblygwyd yr harbwr a bod y plastig yn dod i’r wyneb o ganlyniad i erydiad dros y blynyddoedd. Nododd ei werthfawrogiad o waith unigolion a oedd yn glanhau’r traeth. Eglurodd y bwriedir fel man cychwyn i roi deunydd ar ben y plastig er mwyn ei orchuddio, gan gymryd samplau.

 

Nododd yr aelod bod contractwr am glirio’r slip fel rhan o waith i wella mynediad i’r traeth ac fe allai gynorthwyo efo’r gwaith yma. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n gwerthfawrogi sgwrs efo’r aelod unwaith caiff amserlen y gwaith o wella mynediad i’r traeth ei gadarnhau.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 95 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2018, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Mawrth, 2018, fel rhai cywir.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan rhai aelodau, eglurodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y cyhoeddir cofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor ar wefan y Cyngor yn eithaf buan ar ôl y cyfarfod, ond fe anfonir copi caled o’r cofnodion drafft i’r Cynghorydd Hefin Underwood ynghyd â cynrychiolwyr Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch a Sefydliad y Bâd Achub.

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 78 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Harbwr Pwllheli.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ei fod wedi bod yn absennol o’r gwaith am gyfnod o 5 wythnos oherwydd anaf, a’i fod wedi dychwelyd i’r gwaith diwrnod cyn y cyfarfod. Eglurodd mai Rheolwr yr Hafan oedd wedi llunio’r adroddiad a’i fod yn ymddiheuro nad oedd yn gallu bod yn bresennol oherwydd ymrwymiad personol. Nododd bod Dirprwy Reolwr Hafan Pwllheli yn bresennol i ymateb i ymholiadau.

 

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Yn dilyn adolygiad blwyddyn ddiwethaf gan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau, byddai’r arolygwyr yn ail-ymweld â'r Cyngor yng ngwanwyn 2019. Cynigir adolygiad dilynol ar ddyddiad pan gynhelir cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog lle byddai pob aelod o Bwyllgorau Ymgynghorol Harbwr Gwynedd yn cael eu gwahodd i dderbyn cyflwyniad gan yr arolygwyr ar faterion yn ymwneud â'r Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd.

·         Bod yr archwilwyr wedi nodi sylw bod diffyg lled yn sianel fordwyo'r harbwr. Byddai gwelliannau yn cael eu gwneud o fewn yr adnoddau.

·         Yr angen i adolygu lleoliad y cymhorthion mordwyo oedd wrth y morglawdd er mwyn adnabod y lleoliad mwyaf addas.

·         O ran materion staffio, yn dilyn adolygiad o staff yn yr Hafan gwnaed newidiadau i oriau rhai swyddi i gyd-fynd â thelerau gwaith. O ganlyniad, nid oedd staff yn bresennol ar ddechrau’r diwrnod nac ychwaith diwedd y dydd. Ni dderbyniwyd cwynion hyd yn hyn.

·         Cyfeiriwyd at grynodeb bras o gyllidebau'r Harbwr a’r Hafan a'r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd yr ail chwarter. Roedd yr hyn a amcangyfrif fel sefyllfa derfynol cyllideb yr Hafan, o ystyried y targedau incwm, yn bositif ac roedd y swyddog yn ffyddiog y byddent yn unol â’r hyn a nodwyd.

·         O safbwynt ffioedd a thaliadau arfaethedig yr Harbwr a’r Hafan yn 2019/20, bwriad y gwasanaeth oedd addasu'r ffioedd yn unol â'r gyfradd chwyddiant. Disgwylir am gadarnhad o’r cyfraddau oedd i’w defnyddio. Nodwyd y cynhelir adolygiad manylach o’r ffioedd yn ystod 2019 gan ystyried cynnig cyfnodau llai na blwyddyn megis 3, 6 neu 9 mis. Bydd unrhyw newid yn y drefn gyfredol yn unol ac asesiad risg ariannol.

·         Ei fod yn siomedig bod niferoedd deiliaid angorfeydd yn lleihau yn yr Harbwr a’r Hafan ond ei fod yn unol â’r tuedd yn yr holl harbyrau. Nododd ei fod yn ffyddiog y byddai’r niferoedd yn cynyddu o ganlyniad i’r buddsoddiad a wneir yn y gwaith carthu.

·         Bod nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol wedi eu denu a’u cynnal ym Mhwllheli gan Plas Heli Cyf. Llongyfarchodd Plas Heli Cyf gan nodi bod staff y gwasanaeth yn cydweithio efo’r cwmni er budd y gymuned.

 

Tynnodd cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch sylw nad oedd llawer o wahaniaeth yng nghyfanswm y tanwydd a werthwyd yn yr Hafan yn y flwyddyn ariannol gyfredol o ystyried y tywydd. Ymhelaethodd mai dim ond drwy gerdyn y gellir talu am danwydd yn yr Hafan a ddim efo arian parod, dylid edrych i mewn i’r posibilrwydd o gyflwyno peiriannau hunanwasanaeth.

 

Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DIOGELWCH HARBWR

I ystyried unrhyw fater diogelwch harbwr.

Cofnod:

Rhoddwyd cyfle i aelodau nodi unrhyw fater o ran diogelwch harbwr.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch at ddigwyddiad lle aeth 3 cwch i drafferth hanner ffordd i fyny’r sianel. Nododd ei fod wedi eu cynorthwyo a’i fod wedi cymryd hanner awr i’w symud. Eglurodd bod ganddo luniau o’r digwyddiad a allai rannu efo’r gwasanaeth. Awgrymodd y byddai’n synhwyrol hysbysu morwyr ni ddylid dod i mewn i’r sianel awr neu dwy awr cyn i’r llanw droi nes gwneir y gwaith carthu.

 

Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ei ddiolchiadau i’r cynrychiolydd am gynorthwyo’r morwyr. Atgoffodd yr aelodau y sefydlwyd trefn yn y cyfarfod diwethaf o ran cofnodi digwyddiadau o gychod yn taro’r gwaelod drwy lenwi ffurflen oedd ar gael yn swyddfa’r Hafan. Nododd ei fod yn annog unigolion i wybyddu swyddfa’r Hafan o unrhyw ddigwyddiad o’r fath.

 

Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli bod yr almanac yn nodi bod mynediad 24 awr i’r sianel. Ychwanegodd bod digwyddiadau o’r fath yn rhoi enw gwael i Bwllheli.

 

Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig fe gysylltir â Reeds ac McMillans o ran nodi yn yr almanac y dylai ymwelwyr gysylltu efo swyddfa’r Hafan ond efallai bod yr almanac ar gyfer 2019 wedi ei gyhoeddi eisoes. Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod radio VHF yr Hafan ar agor 24/7 er bod adegau nad oedd aelod o staff yn bresennol yn y swyddfa.

 

Awgrymodd cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch y dylai staff fod yn bresennol yn y swyddfa am y 2 awr lle'r oedd y marc dŵr isel a gorllanw.

 

Tynnodd cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch sylw bod unigolion yn parhau i oryrru cychod a beiciau dŵr yn yr ardal ger y cyn swyddfa ac yn enwedig rhwng 5pm a 6pm. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ei ddymuniad i unrhyw un a oedd yn dyst i unigolion yn goryrru i wneud nodyn o rif cofrestru’r bad a’i gyflwyno i’r swyddfa yn fuan ar ôl y digwyddiad. Ychwanegodd bod y ddarpariaeth camerâu Teledu Cylch Cyfyng wedi ei wella a gyda holl ddefnyddwyr yn cofrestru ac yn arwyddo datganiad fe ellir cymryd camau erlyn yn erbyn unigolion a oedd yn torri’r rheolau cyflymder.

 

Mewn ymateb i sylw pellach gan gynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig o ganlyniad i’r tywydd anhygoel yn yr Haf bod niferoedd sylweddol wedi defnyddio’r harbyrau gan olygu mwy o bwysau gwaith ar swyddogion o ran rheolaeth cychod a hel sbwriel.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

9.

RHAGLEN CARTHU’R HARBWR pdf eicon PDF 629 KB

Cyflwyno diweddariad gan y Peiriannydd.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned a oedd yn rhoi diweddariad ar raglen carthu’r harbwr. Eglurodd y disgwylwyd presenoldeb swyddog o Ymgynghoriaeth Gwynedd yn y cyfarfod i fanylu ar y rhaglen, ond yn anffodus nid oedd yn bresennol. Rhannodd daflen a oedd yn manylu ar y gwaith ac yn nodi’r amserlen.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed rhoi’r deunydd a dynnir o fasn yr harbwr yn syth i draeth Abererch, eglurodd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod gormod o laid yn y deunydd a dynnir o’r basn. Ychwanegodd, yn unol â’r awgrym a wnaed yn y cyfarfod diwethaf, y bwriedir pwmpio’r tywod o’r sianel dros y morglawdd. Nododd y byddai gwneud hyn yn lleihau’r broblem o ran gwaddod i’w waredu ac yn debygol o leihau costau. Nododd pe byddai’r gwaith pwmpio yn llwyddiannus gellir rhoi ystyriaeth i opsiynau o ran lledu a dyfnhau’r sianel.

 

Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch bryder o ran risg iechyd a diogelwch yn deillio o bwmpio’r tywod i draeth Abererch. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned i leihau’r risg y bwriedir cwblhau’r gwaith pwmpio yn ystod y gaeaf gan osod bwiau yn yr ardal.

 

Nododd cynrychiolydd Plas Heli bod yr erydiad i’r arfordir yn ardal Carreg y Defaid yn cychwyn lle'r oedd y morglawdd yn gorffen ac fe fyddai ychwanegu ato yn lleihau’r gwaith carthu yng ngheg yr Harbwr. Awgrymodd y dylid trafod y mater efo Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymgynghoriaeth Gwynedd. Nododd mai’r unig opsiwn oedd atgyfnerthu ac ymestyn Grwyn y Crud.

 

Eglurodd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod angen bod yn bragmatig a chwblhau’r gwaith brys gan y byddai datblygiadau pellach yn golygu gwaith amgylcheddol a fyddai’n ymestyn yr amserlen.

 

Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol ei fod yn croesawu bod y gwaith yn cael ei gwblhau ac fe ddylid ystyried anfon y rhaglen waith at gyn defnyddwyr Harbwr Caergybi.

 

Nododd aelod bod y rhaglen waith yr hysbyseb gorau i ddenu mwy o ddefnyddwyr i Bwllheli.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.

10.

CYNLLUNIAU ARFAETHEDIG AR GYFER GORSAF BAD ACHUB NEWYDD

I dderbyn diweddariad gan gynrychiolydd o Sefydliad y Bad Achub.

Cofnod:

Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r cyflwyniad gan gynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub. Nododd y byddai’r adeilad newydd yn galluogi i’r Bâd Achub gael ei lansio yn syth i’r dŵr. Hysbysodd y Pwyllgor bod cais cynllunio wedi ei gyflwyno ar gyfer yr orsaf newydd.

 

Croesawyd Clive Moore (Sefydliad y Bâd Achub) i’r cyfarfod. Rhoddodd gyflwyniad i’r aelodau gan ddangos y cynlluniau. Eglurodd bod Pwllheli wedi ei ddethol gan Sefydliad y Bâd Achub i gael cwch newydd, oherwydd maint y cwch roedd yn angenrheidiol i gael adeilad newydd. Nododd nad oedd yn bosib cael adeilad a oedd yn cyd-fynd â’r gofynion ar y safle presennol. Eglurodd bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda’r Cyngor o ran lleoli’r adeilad newydd ar dir wrth ymyl Plas Heli, a bod y trafodaethau yn symud yn eu blaen.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau, ymatebodd i’r cwestiynau gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

·         Bod yr adeilad presennol ar les i Sefydliad y Bâd Achub gan y Cyngor ac fe fyddai’r adeilad yn trosglwyddo yn ôl i’r Cyngor. Nid oedd yr adeilad yn adeilad cofrestredig.

·         O ran uchder yr adeilad newydd, mi fyddai ychydig yn is nag adeilad Plas Heli.

·         Byddai strip concrid tuag at lle'r oedd y dwnan yn lefelu.

·         Byddai’r adeilad yn bwrpasol ar gyfer y defnydd gyda chyfleusterau hyfforddi yn rhan o’r adeilad.

·         O ran amserlen, bwriedir cychwyn y gwaith yn Mai 2019 ac fe fyddai’n cymryd cyfnod o flwyddyn i’w adeiladu. Estynnir gwahoddiad i aelodau’r Pwyllgor i ymweld â’r adeilad newydd.

 

Nododd aelodau eu cefnogaeth i’r bwriad gan groesawu’r buddsoddiad a fyddai’n dod a budd i Plas Heli a’r Hafan.

 

Nodwyd diolch am y cyflwyniad.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

11.

ADOLYGIAD HAFAN A HARBWR PWLLHELI

Derbyn cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned.

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned yn rhoi diweddariad ar adolygiad model rheoli ar gyfer yr Harbwr a’r Hafan. Atgoffwyd yr aelodau y rhoddwyd cyflwyniad yn y cyfarfod blaenorol, ar 20 Mawrth 2018, ar gam cyntaf yr adolygiad. Rhoddwyd diweddariad o ran cam un, y rhestr fer o fodelau rheoli posib ynghyd â’r camau nesaf. Nodwyd y bwriedir gorffen cam dau, lle gwneir gwaith manwl i asesu yr opsiynau a nodwyd yn y rhestr fer a datblygu achos busnes amlinellol, erbyn diwedd mis Mawrth 2019. Eglurwyd bod rhaglen mewn lle i ymateb i’r adborth a dderbyniwyd yn ystod y trafodaethau efo budd-ddeiliaid. Nodwyd y bwriedir llythyru efo pawb a gymerodd rhan yn y trafodaethau i roi diweddariad, erbyn diwedd y mis.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan gynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub yng nghyswllt Ardal Glandon, nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod cyn adeilad y Clwb Hwylio ar brydles i Plas Heli Cyf a gwnaethpwyd cais i Croeso Cymru o ran gwella arwyneb y maes parcio.

 

Nododd cynrychiolydd Plas Heli bod Plas Heli Cyf yn edrych ar yr opsiynau o ran datblygu byncws yng nghyn adeilad y Clwb Hwylio ond fe fyddai’r datblygiad yn ddibynnol ar grantiau sylweddol. Mewn ymateb i gwestiwn, nododd y byddai’r bwriad yn hyfyw gyda grantiau ac nid oedd digon o lety ar gael yn yr ardal.

 

Mewn ymateb i ymholiad, nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod datblygwr wedi ei benodi o ran datblygiad gwesty ar Cae Ceffyl a’u bod mewn trafodaethau efo cwmni cenedlaethol. Ymhelaethodd bod Cae Ceffyl wedi ei gynnig fel safle o ran ymgyrch gwestai Croeso Cymru.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

12.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 19 Mawrth 2019.

Cofnod:

Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 19 Mawrth, 2019.