Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2020/21

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Hefin Underwood fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar gyfer y flwyddyn 2021/22.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Hefin Underwood yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/22.

 

2.

IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2020/21

Penderfyniad:

Etholwyd Y Cynghorydd Peter Read fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar gyfer y flwyddyn 2021/22.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Peter Read yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/22.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd  Mici Plwm (Cynrychioli Cyngor Tref Pwllheli)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 229 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Hydref, 2019 fel rhai cywir

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Hydref, 2019 fel rhai cywir.  Yn y cyfarfod blaenorol, cynigiwyd cysylltu gyda’r Aelod Cynulliad Dafydd Elis Thomas, i dynnu sylw at reolau caeth Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd a rhwystrau mewn deddfau a pholisïau amgylcheddol ar gyfer adeiladu grwyn effeithiol.  Cadarnhawyd bod cyswllt wedi ei wneud gyda Chyfoeth Naturiol Cymru oedd yn cyfeirio yn ôl at y Ddeddf a’r orfodaeth i gydymffurfio a’r Ddeddf.

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLI'R HARBWR pdf eicon PDF 289 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr yr Harbwr

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn cynnwys yr adroddiad gan nodi’r sylwadau sydd wedi eu manylu yn y cofnodion.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Morwrol a’r Rheolwr Harbwr am y cyfnod Hydref 2019 i Fawrth 2021, a nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

 

·       Llithrfa Harbwr Allanol

Nodwyd bod angen datrys y mater defnydd o’r llithrfa a’r brydles rheoli tir, ar fyrder.  Cadarnhawyd bod cyfeiriad yn y brydles at y trefniadau a bod trafodaethau ar y gweill gyda’r Aelod Lleol, y Cadeirydd a’r Gwasanaeth a chytunwyd i adrodd yn ôl i Ifor Hughes er mwyn ei gadw yn y darlun.

·       Rheolau Cyfansoddiad y Pwyllgor

Atgoffwyd y cynrychiolwyr bod gofyn iddynt gyflwyno cofnodion eu pwyllgorau i’r Pwyllgor hwn, ynghyd a chopi o’r cyfansoddiad. Mae derbyn y wybodaeth yn hanfodol er mwyn sicrhau parhad y Mudiad ar y Pwyllgor.

·       Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

Mae dau archwiliad wedi ei gynnal gan Wylwyr y Glannau a bu iddynt gadarnhau bod popeth mewn trefn a bod y Cyngor yn cydymffurfio gyda gofynion y Cod Diogelwch.  Cadarnhawyd hefyd bod gwaith archwilio rhithiol wedi ei wneud gan Harbwr Feistr Conwy a’i fod yntau fel y Person Dynodedig yn fodlon gyda safon y Cod yng Ngwynedd.  Nodwyd y bydd hyn yn cael ei adrodd i’r Cabinet maes o law.  Atgoffwyd pawb am yr angen i adrodd, yn y Pwyllgor hwn, am unrhyw bryder diogelwch.

·       Carthu

Nodwyd rhwystredigaeth am y sefyllfa carthu yn sgil materion Covid. Adroddwyd mai cwmni Royal Smalls bydd yn gwneud y gwaith ym Mhwllheli, gan ddilyn yr un cytundeb gwaith a’r cytundeb yn  Doc Victoria.  Cadarnhawyd bod yr amserlen wedi llithro, yn bennaf oherwydd nad oedd Royal Smalls yn gallu caniatáu i’w staff deithio yn sgil y cyfyngiadau Covid.  Nodwyd y gobaith y bydd y gwaith yn cychwyn Medi 2021, tra bydd y gwaith carthu ceg yr harbwr yn cychwyn Ebrill 2021 drwy y cytundeb sydd yn rhedeg o bosib am dair blynedd.

·       Arolwg Hydrograffeg

Adroddwyd bod dyfnder dwr basn y marina yn weddol dda er ei fod yn llai dwfn ar geg yr harbwr.  Nodwyd y bydd y gwaith ar garthu ceg yr harbwr wedi darfod cyn y gwaith yn y sianel fordwyo.  Cadarnhawyd bod yr £270,000 ar gyfer y gwaith wedi ei rannu i 2/3 i Bwllheli ac 1/3 i Doc Victoria, gyda rhan helaeth o’r budd ym Mhwllheli.   Nodwyd siom nad oedd y gwaith yn mynd yn ei flaen a’r pryder ynglŷn â’r siawns o golli dyfnder yn y sianel a chwestiynwyd tybed a oes cynllun arall megis lefelu gwely’r môr ar gyfer y tymor?  Cadarnhawyd y bydd carthu ceg yr harbwr yn mynd yn ei flaen ac fe fydd hefyd gwaith lefelu y sianel fordwyo yn cychwyn yn fuan.  Yn ychwanegol nodwyd yr  angen i ystyried a phwyso a mesur lefel gwely’r môr gan gymharu lefel gwely’r môr gyda lefel yn y sianel fordwyo. Er bod dymuniad i ail-edrych a gweld beth ellir ei wneud, cadarnhawyd bo problemau gydag argaeledd cytundebwyr, ond eto cytunwyd y byddai y swyddog priodol yn ail-ymweld i weld beth sydd yn bosib.

·       Mordwyo

Cytunwyd i ystyried beth ellir  ei wneud o ran  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar 12 Hydref, 2021

Cofnod:

Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 12 Hydref, 2021 6.00 pm