skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Rhithiol

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2022/23.

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Hefin Underwood fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Hefin Underwood yn Gadeirydd y cyfarfod hwn am y cyfnod 2022/23

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2022/23.

Penderfyniad:

Etholwyd Y Cynghorydd Elin Hywel fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Elin Hywel yn Is-Gadeirydd y cyfarfod hwn am y cyfnod 2022/23

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Richard G Roberts a’r Cynghorydd Nia Jeffreys

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Penderfyniad:

Yn sgil pryderon am faterion yn ymwneud a Safle Ambiwlans Awyr Dinas Dinlle, y dylid anfon llythyr o bryder yn enw’r Pwyllgor.

 

Cofnod:

Daeth Y Cynghorydd Elin Hywel a mater brys i sylw y Pwyllgor, gyda chaniatâd y Cadeirydd, ynglŷn â dyfodol safle Ambiwlans Awyr Dinas Dinlle.   Nododd pwysigrwydd ymateb i’r gyfundrefn ymgynghorol fel Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli.

 

PENDERFYNIAD

 

Yn sgil pryderon am faterion yn ymwneud a Safle Ambiwlans Awyr Dinas Dinlle, y dylid anfon llythyr o bryder yn enw’r Pwyllgor.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 227 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Mawrth, 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022, fel rhai cywir.  Gofynnodd Jenny Moss i’r rhaglen adlewyrchu yn glir ei bod yn Cynrychioli Cymdeithas Deiliaid Angorfeydd Marina Pwllheli ar y Pwyllgor.

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 496 KB

Cyflwyno Adroddiad Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli

 

Diweddariad ar Faterion Rheolaethol yr Harbwr

Ystadegan Hafan a Harbwr Pwllheli

Adroddiad Cyllidol 2022 – 2023

Herio Perfformiad Hafan a Harbwr Pwllheli 2022

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli ei hun yn ffurfiol i’r Pwyllgor gan gyfeirio at y papur oedd yn rhoi diweddariad ar Faterion Rheolaethol a Gweithredol yr Harbwr a Hafan.  Ehangodd ar rai materion fel a ganlyn

 

1.1  Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

 

Cadarnhawyd bod y Swyddog Harbyrau yn edrych mewn manylder ar y Cod Diogelwch.  O ran y Deilydd Dyletswydd, cadarnhawyd ei fod nawr wedi ei drosglwyddo i’r Cynghorydd Nia Jeffreys fel y deilydd portffolio Economi a Chymuned a’i bod eisoes wedi ymweld.

Cadarnhawyd bod cwynion ynglŷn â diogelwch wedi dod i law, yn cynnwys

·       Dim Harbwr Feistr ym Mhwllheli

·       Dim rheolaeth o fadau personol, a’r pryder y bydd rhywun yn cael niwed

 

Mewn ymateb, nodwyd bod newidiadau staffio wedi eu gwneud gan gynnwys apwyntio Harbwr Feistr Cynorthwyol, a bod y tîm yn gyflawn ar hyn o bryd. Hefyd cadarnhawyd fod Is-Reolwr Harbwr, Will Williams, yn Harbwr Feistr Pwllheli

 

Cadarnhawyd bod y Meistr Hafan ac Angori wedi bod allan i geisio arafu y badau personol a bod gwaith i roi uwch-seinydd ar adeilad yr harbwr feistr, a fydd yn barod erbyn tymor yr haf blwyddyn nesaf.  Cyfeiriwyd at y gwaith o hyrwyddo a hysbysu y cyflymder a chadarnhawyd bod cwch yr Heddlu wedi bod ar y dŵr am bythefnos.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r bwriad i roi rhifau adnabod ar fadau personol, cadarnhawyd eu bod i fod i gael rhifau erbyn hyn, ac er tegwch bod y niferoedd helaethaf gyda.  Cadarnhawyd bod y Masnachwyr Morwrol yn rhannu y neges ddiogelwch ond bod rheoli mynediad yn gallu bod yn broblemus.

 

Cadarnhawyd bod camerâu cylch cyfyng wedi eu gosod ar y llithrfa a bod gwaith monitro y Cwmnïau Parcio a Lansio yn digwydd er mwyn ceisio sicrhau diogelwch i bawb.  Nodwyd bod y camera yn pigo i fyny rhifau, yn enwedig wrth y cei tanwydd, ac yn ychwanegol bod pobl yn rhannu fideos a lluniau personol gyda y Cyngor.  Cadarnhawyd bod y camerâu wedi eu gosod o geg y Marina er mwyn ceisio cael llygaid ym mhobman.

 

Cwestiynwyd a oes erlyniad wedi bod yn dilyn rhai o’r pethau gwirion mae pobl yn ei wneud, ond nodwyd er bod damweiniau wedi bod nad oedd erlyniadau wedi dod o hyn, yn bennaf gan nad oedd badau personol yn cael eu cynnwys fel llongau.  Nodwyd nad oes modd rheoli yr arfordir i gyd yn anffodus.

     

1.2  Carthu’r Sianel

 

Cadarnhawyd bod y gwaith hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn ym mis Mai, ac y bydd yr un ymdrech yn cael ei roi ar ddechrau 2023, yr amseriad penodol yn ddibynnol ar amseru y dŵr isel.  Cadarnhawyd bod trafodaeth wedi digwydd gyda Dŵr Cymru ynglŷn â phrynu neu brydles ar y tir.  Her arall yw gwagio basn y marina, ond adroddwyd bod gwaith ar y cyd gyda Ymgynghoriaeth Gwynedd ar y gweill i weithio ar raglen tymor hir, er y nifer heriau.

 

Holiwyd am dystiolaeth bod y grwyn newydd yn gwneud ei waith a chadarnhawyd bod yr arolwg  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ETHOL SYLWEDYDDION

I ethol sylwedyddion i wasanaethu ar y canlynol –

 

a)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi

b)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw

c)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog

 

Penderfyniad:

Etholwyd Stephen Tudor yn Sylwedydd ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbyrau Aberdyfi, Abermaw a Porthmadog. 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD :

 

Etholwyd Stephen Tudor yn Sylwedydd ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbyrau Aberdyfi, Abermaw a Porthmadog. 

 

9.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar Ddydd Mawrth 14eg o Fawrth, 2023.

Cofnod:

Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 14eg Mawrth, 2023 am 6pm.  Nododd y Pwyllgor ei ddymuniad i gyfarfod wyneb yn wyneb pan fydd y Cyngor yn agor hyn allan i ragor o bwyllgorau.

 

Dechreuodd y cyfarfod am 6.00 pm a daeth i ben am 7.25 pm.

 

 

 

 

 

CADEIRYDD