Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Elin Hywel (Aelod Lleol), Y Cynghorydd Gwilym Jones (Sylwedydd, Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog), Jenny Moss (Cymdeithas Deiliaid Angorfeydd Marina Pwllheli), Y Cynghorydd Richard G Roberts (Aelod Lleol) a Stephen Tudor (Cynrychioli Clwb Hwylio Pwllheli)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

I ystyried unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. 

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 223 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2022 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2022 fel rhai cywir.  Yn y cyfarfod blaenorol, codwyd mater brys ynglŷn â safle Ambiwlans Awyr Dinas Dinlle, a chytunwyd i ddanfon llythyr o bryder yn enw y Pwyllgor. Derbyniwyd ymateb yn  cadarnhau bod trafodaethau mewn lle, ond erbyn hyn wedi derbyn cadarnhad fod ymestyniad o dair blynedd wedi ei ganiatáu.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor ysgrifennu pan ddaw ymgynghoriad eto yn erfu arnynt i gadw y trefniant presennol, gan y byddai unrhyw drefniant gwahanol yn niweidiol i’r Ardal.  Cytunwyd i gadw y Pwyllgor yn y darlun gydag unrhyw ddatblygiadau neu gyfathrebu pellach.

 

5.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL A GWEITHREDOL YR HARBWR pdf eicon PDF 326 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad a chytuno i’r Aelod Cabinet godi mater y Ddeddfwriaeth Newydd o Amgylch Badau Dwr Personol gyda y Gymdeithas Llywodraeth Leol.

 

Cofnod:

Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd wedi ei chreu gan Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli gan adrodd fel a ganlyn :

 

1.1           Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

 

Atgoffwyd y Pwyllgor bod Barry Davies (Rheolwr Gwasanaeth Morwrol) yn ymddeol 31/3/23 a’i fod wedi bod yn greiddiol yn y gwaith morwrol a’r Hafan am dros 27mlynedd. Nododd y Pwyllgor ei ddymuniad i ysgrifennu ato i ddiolch am ei holl waith ar achlysur ei ymddeoliad.

 

1.2           Carthu’r Sianel

 

Cadarnhawyd bod y gwaith yn mynd rhagddo i gael gwared a hanner y carthion, ac nad oes effaith andwyol ar y Parc Gwyliau o wneud hyn.  Cadarnhawyd y bydd y gwaith yn parhau hyd ddiwedd y mis a bod arolwg hydrograffeg wedi ei gynnal.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a yw y grwyn yn gweithio, cadarnhawyd ei bod yn parhau i fod yn sefyllfa heriol iawn, ond bod ymgais i dynnu 20,000 o dunelli erbyn diwedd y mis, ac y byddai hyn yn rhywbeth i’w wneud yn flynyddol.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor o’r trefniant blaenorol i fynd a’r tywod ar draethau megis Grugan, a holiwyd a yw y drefn hon wedi dod i ben?  Cadarnhawyd mai Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sydd â chyfrifoldeb am draeth Glandon.  Mae hanner wedi ei werth a hanner wrth gefn, ac mae YGC wedi rhoi cais i symud y tywod i Grugan yn yr Hydref.  Dŵr Cymru sydd yn berchen ar y tir, ac mae yr her i gadw y tywod i lawr yng ngheg yr Harbwr yn parhau.  Cadarnhawyd bod y Gwasanaeth mewn lle cryf i werthu y tywod nawr, a'r gobaith fyddai ei werthu.

 

Mae carthu basn y marina yn sialens, yn enwedig gan fod y lagwnau yn llawn, a chyfeiriwyd at y Rhaglen Waith ble mae trafodaethau ar y gweill gyda CNC i edrych ar roi y llaid yn y môr, ond bod angen gwneud y gwaith carthu yn Hydref 2023.

 

Cadarnhawyd bod gwerthu y tywod ar £5.17 y dunnell, yn cyfrannu tua £130,000 ond bod £50,000 ohono yn mynd i Stad y Goron a chytunwyd bod angen llythyru Stad y Goron.  Nodwyd bod ymgais i’w gael yn gost niwtral, gan gofio bod carthu ceg yr Harbwr yn £100,000 ar ei ben ei hun, ac yn her enfawr.  Mae angen datrysiad ynglŷn â beth i’w wneud gyda y carthu, gan fod angen carthu yn rheolaidd heb amharu ar ddefnydd o’r Harbwr.

 

Cwestiynwyd yr hyn sydd yn y lagŵn, a’r pryder nad oes modd iddo fynd i’r chwarel?  Cadarnhawyd bod y rheolau/safonau wedi newid, a’i fod yn cael ei brofi yn aml, a bod Jones Brothers yn edrych ar ei gywasgu, ond bod gwaith ar ddatrysiad yn parhau.  Yn sgil hyn, cadarnhawyd bod y tywod 2% rhy uchel i’w roi ar Draeth Berch.  Nodwyd pryder am y sefyllfa a nodwyd bod lle ar Domen Tŷ Towyn.  Holiwyd oni fyddai modd trafod gyda CNC a chadarnhawyd bod sgwrs fuddiol wedi bod rhwng YGC a CNC.  Yn ychwanegol nodwyd bod Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli wedi amlinellu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

TREFNIADAU Y DYFODOL

I drafod Trefniadau y Pwyllgor i’r Dyfodol

Penderfyniad:

Derbyn safbwynt y Cyngor Llawn (yn ei gyfarfod 2/12/21) ynglŷn â threfniadau y dyfodol ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau ffurfiol.

 

Cofnod:

Trafodwyd trefniadau y dyfodol, gan nodi dymuniad rhai i gyfarfod wyneb yn wyneb.  Cyfeiriwyd at safbwynt y Cyngor Llawn (yn ei gyfarfod 2/12/21) ynglŷn â threfniadau y dyfodol ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau ffurfiol a derbyniwyd y safbwynt.

Atgoffwyd pawb gan Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli petaent angen sgwrs bod ei ddrws wastad yn agored neu fod modd cysylltu ag o ar y ffon neu drwy e-bost.

 

 

7.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar 10 Hydref 2023 (yn ddarostynedig ar gymeradwyaeth y Cyngor Llawn).

Cofnod:

Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 10 Hydref, 2023 am 6.00 pm

 

Dechreuodd y cyfarfod am 6.00 pm a daeth i ben am 7.15 pm.

 

 

CADEIRYDD