skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol cadeirydd am y flwyddyn 2016/17.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol T. Victor Jones yn Gadeirydd am y flwyddyn 2016/17.

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol is-gadeirydd am y flwyddyn 2016/17.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Angela Russell yn Is-gadeirydd am y flwyddyn 2016/17.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Gareth Roberts, Hedd Rhys (NFU Cymru), Laura Hughes (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd.

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 306 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2015, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2015, fel rhai cywir.

7.

TIRWEDDAU'R DYFODOL CYMRU pdf eicon PDF 468 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad o ran yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Adroddwyd mai’r cam nesaf fyddai i Gadeirydd rhaglen ddatblygu Tirweddau Dynodedig Cymru grynhoi’r holl gasgliadau ac argymhellion a’u cyflwyno i Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, am ystyriaeth bellach.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau, ymatebodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn i’r sylwadau fel a ganlyn:

·        Ei fod yn debygol y byddai ymgynghoriad pellach ar ôl i’r Ysgrifennydd Cabinet ystyried y wybodaeth;

·        Mai addasiadau yn hytrach na newidiadau mawr y byddai’n deillio o’r gwaith ac fe roddir trefn blaenoriaeth o ran gweithreduTymor Byr, Canolig a Hir;

·        Bod neges wedi ei gyfleu yn ystod y trafodaethau o ran yr angen am adnoddau cyllidol uwch na hyn a dderbynnir yn bresennol a sicrwydd ariannol ar gyfer y dyfodol;

·        Yr anfonir neges i Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas, Cadeirydd y rhaglen datblygu o ran yr angen i ystyried Tir y Goron;

·        Ei fod yn anhebygol y byddai rheolaeth y Parciau Cenedlaethol a’r AHNEau yn uno ond fe ystyrir rhoi un brand ymbarel ar draws y ddau ddynodiad;

·        Ni ragwelir newid deddfwriaeth yn y tymor byr/canolig;

·        Bod casgliadau’r rhaglen ddatblygu yn debyg i’r hyn a nodwyd yn adroddiad yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn yr adroddiad;

(ii)    bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn anfon neges i Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas, Cadeirydd y rhaglen datblygu o ran yr angen i ystyried Tir y Goron.

 

 

8.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD GWYNEDD A MÔN 2011-26 pdf eicon PDF 306 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad ar broses mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn 2011-26. Nododd y trafodwyd y polisïau perthnasol i’r Ardal o Harddwch o’r Cynllun Adnau Drafft yng nghyfarfod y Cyd-Bwyllgor ar 25 Mawrth 2015 ac fe anfonwyd ymateb y Cyd-Bwyllgor i’r ymgynghoriad i’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd.

 

Adroddwyd mai’r cam nesaf yn y broses byddai cynnal Archwiliad Annibynnol gyda 2 Arolygydd annibynnol yn ystyried yr holl wrthwynebiadau oedd heb eu datrys. Nodwyd yr ymdrinnir â’r sylwadau trwy drefn ysgrifenedig neu wrandawiad, yn ddibynnol ar ddymuniad y rhai a gyflwynodd sylwadau.

 

Nododd aelod y dylid cyflwyno sylwadau’r Cyd-Bwyllgor trwy drefn o wrandawiad gan y gellir rhoi’r achos drosodd yn gryfach.

 

Tywysodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yr aelodau drwy’r atodiad a oedd yn cynnwys manylion y sylwadau a wnaed gan y Cyd-Bwyllgor ag ymateb swyddogion yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd i’r sylwadau, ynghyd â dogfen ychwanegol a rannwyd yn ystod y cyfarfod yn nodi’r newidiadau a wnaed i rannau perthnasol o’r Cynllun yn dilyn yr ymgynghoriad.

 

Cafwyd trafodaeth ar y sylwadau ac os dylid mynd a’r sylwadau ymlaen i wrandawiad.

 

Nododd aelod siom bod cynifer o sylwadau ddim wedi eu derbyn gan swyddogion yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd.

 

Cyfeiriodd aelod at wybodaeth a gyflwynir gan Hanfod yng nghyswllt effaith ar yr Iaith Gymraeg. Nododd y dylid nodi cefnogaeth y Cyd-Bwyllgor i’r wybodaeth a gyflwynir gan Hanfod i’r archwiliad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y byddai’r gwrandawiadau yn gyhoeddus ac fe fyddai’n anfon manylion trefniadau’r gwrandawiadau i’r aelodau.

 

Nododd aelod fe ddylid ystyried rhannu’r baich o ran cyflwyno’r sylwadau yn hytrach na bod y cyfrifoldeb i gyd yn disgyn ar y Cadeirydd. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y byddai’n trafod y mater efo’r Cadeirydd pan ystyrir y wybodaeth i’w gyflwyno.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     bod y Cadeirydd yn cyflwyno’r achos mewn gwrandawiad yng nghyswllt y materion canlynol:

·           Polisi ADN1 – ‘Ynni Gwynt ar y Tir’;

·           Polisi ADN2 – ‘Technoleg Ynni Adnewyddadwy Arall’ – gan ymhelaethu ymhellach ar safbwynt y Cyd-Bwyllgor;

·           Polisi TWR5 – ‘Safleoedd Carafanau Teithiol, Gwersylla a Llety Gwersylla Amgen dros dro’;

·           Polisi Strategol PS16 – ‘Gwarchod a gwella'r Amgylchedd Naturiol’;

·           Polisi AMG3 – Gwarchod yr Arfordir’.

(ii)    bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn anfon manylion trefniadau’r gwrandawiadau i’r aelodau.

 

9.

DATBLYGIADAU SOLAR pdf eicon PDF 383 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Swyddog Prosiect AHNE adroddiad oedd yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am ddatblygiadau solar, gwybodaeth am geisiadau cynllunio yn ardal Llŷn a’r diweddaraf am y taliadau am gynhyrchu trydan trwy ddull adnewyddol solar yn dilyn cais gan y Cyd-Bwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf ar 18 Tachwedd 2015.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan aelodau fod rhai datblygiadau solar bychan heb eu cynnwys, nodwyd bod yr Uned wedi ceisio llunio rhestr o geisiadau datblygiadau solar cynhwysfawr ar gyfer y cyfnod 2000-16 ond nad oedd bob un cais wedi ei restru.

 

Tynnwyd sylw mai un fferm paneli solar a leolwyd yn yr Ardal o Harddwch sef yn Nwyryd, Rhoshirwaun. Nodwyd ei fod wedi ei leoli ar dir yn gogwyddo ar ochr a ddim ond yn weladwy o dir uchel gan ei fod wedi ei sgrinio.

 

Nododd aelod ei fod yn annhebygol y byddai llawer o geisiadau newydd ar gyfer y math yma o ddatblygiad gan fod y feed-in tariff yn dod i ben. Ychwanegodd yr angen i lunio Canllaw Cynllunio Atodol i’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar gyfer rheoli datblygiadau solar yng Ngwynedd a Môn.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed datblygiadau solar o faint penodol, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y trafodir ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau o’r math yma gyda’r Cadeirydd, ac yn unol â phenderfyniad y Cyd-Bwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf, gall y Cadeirydd alw cyfarfod arbennig o’r Cyd-Bwyllgor i roi sylw penodol ar geisiadau cynllunio unigol a fyddai’n niweidio’r AHNE.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

10.

CYNLLUN RHEOLI’R AHNE pdf eicon PDF 369 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad ar y gwaith o ddiweddaru ac adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE. Tywyswyd yr aelodau trwy 2 bennod drafft o Ran 2 o’r cynllun rheoli sefTirlun ac Arfordir’ a ‘Mynediad, Mwynhau a Chyfrannua oedd yn atodiad i’r adroddiad. Nodwyd yr anelir i ddod a gweddill penodau Rhan 2 o’r cynllun diwygiedig gerbron cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor yn yr Hydref.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau, ymatebodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn i’r sylwadau fel a ganlyn:

·        Bod cyfeiriad at waith plwm a manganîs wedi ei gynnwys mewn rhan arall o’r cynllun ond fe ychwanegir cyfeiriad at y gwaith o dan y pennawdNodweddion Arbennigym mhennodTirlun ac Arfordir’;

·        Yr ymhelaethir ymhellach o dan materion ffyrdd yr angen i wneud man welliannau’r i’r A4417 rhwng Nefyn a Llanaelhaearn a fyddai’n sympathetig i’r tirlun o dan y pennawdMaterion Llosgym mhennodTirlun ac Arfordir’;

·        Yr ychwanegir Tre’r Ceiri o dan y rhestr o’r bryngaerau o dan y pennawdCymeriad y Tirlunym mhennodTirlun ac Arfordir’;

·        Bod cysylltiad rhwng y Cynllun Rheoli a’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd bellach yn derbyn yr angen am gyfeiriad at Gynllun Rheoli’r AHNE yn y cynllun ar y cyd. Fe ychwanegir cyfeiriadau at y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn y cynllun rheoli er mwyn ei wneud yn gryfach;

·        Bod y wybodaeth a gynhwysir o ran tyrbinau gwynt o dan bolisi TP8 yn fwriadol benagored er mwyn gallu ymdrin â cheisiadau cynllunio yn unigol. Nodwyd gan mai Cyngor Gwynedd a fyddai’n mabwysiadu’r Cynllun Rheoli y byddai’n rhaid iddo gyd-fynd efo’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond fe addasir y cynnwys i adlewyrchu'r sylwadau a wnaed yng nghyswllt y cynllun ar y cyd gan gyfeirio at ddatganiad y Cyd-Bwyllgor yng nghyswllt ceisiadau cynllunio am dyrbinau gwynt;

·        Yr edrychir ar yr opsiwn o ddiwygio ffurf y cynllun o ran nodi’r wybodaeth gefndirol efo’i gilydd gan fod mwy cynnil o dan y polisïau;

·        Fe gysonir y fersiynau Cymraeg a Saesneg o ran defnydd iaith a defnyddio’r gair ‘oppose’ yn y Saesneg pan ddefnyddir gwrthsefyll yn y Gymraeg;

·        O ran polisi TP3 fe ddiwygir y geiriad i nodi y gwrthsefyllir datblygiadau newydd arwyddocaol a fyddai’n cael effaith niweidiol ar yr AHNE;

·        Fe gyfeirir at yr angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar yr hawliau crwydro awtomatig a gynhwysir yn Neddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 neu greu deddf newydd o ran hawliau mynediad o dan y pennawdMaterion Llosgym mhennodMynediad, Mwynhau a Chyfrannulle ymhelaethir ar effaith erydiad arfordirol ar Lwybr yr Arfordir;

·        Fe ychwanegir cyfeiriad at y potensial o wirfoddolwyr yn gwneud gwaith ar lwybrau o dan y pennawdMaterion Llosgym mhennodMynediad, Mwynhau a Chyfrannu’;

·        Nodir cyfeiriad penodol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.