Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Noel Davey (Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig), Arfon Hughes (Cyngor Tref Nefyn), Laura Hughes (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) a Alun Price (Cyfoeth Naturiol Cymru). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn
teilyngu sylw brys ym marn
y Cadeirydd. Cofnod: Cyfeiriodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn at y materion isod: Tirweddau’r Dyfodol Cymru Nodwyd bod cyrff cadwraethol wedi datgan pryderon yn ddiweddar yn y wasg o
ran cynnwys adroddiad drafft yr adolygiad. Pwysleisiwyd bod y partneriaid
ynghlwm â’r adolygiad yn weddol gytûn o ran cynnwys yr adroddiad drafft.
Adroddwyd o ran amserlen, y byddai adroddiad diwygiedig yn cael ei rannu gyda’r
partneriaid cyn y cynhelir digwyddiad i gyflwyno adroddiad terfynol yr
adolygiad yn ystod yr Haf. Eglurwyd bod yr adroddiad yn nodi cynigion o ran
annog cydweithio, arbed arian, denu cyllid (ond ddim yn nodi y ceir fwy o arian
gan Lywodraeth Cymru) ac yn gefnogol i barhad y Gronfa Datblygu Gynaliadwy. Nododd aelod bod trafodaethau cynnar yng nghyswllt yr adolygiad wedi
cyfeirio at Lywodraeth Cymru’n cyfrannu’n ariannol tuag at yr AHNE a swyddogion
i uchafu elfen gwarchod y dynodiad. Nododd aelod bod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant uwch na’r cyfartaledd
gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 gyda swyddogion Gwynedd wedi bod yn
flaenllaw yn darparu’r dystiolaeth i gyfiawnhau newid y fformiwla dyrannu i
adlewyrchu gwir gost gofal yng nghefn gwlad. Ychwanegodd y dylid ystyried
gwneud rhywbeth tebyg o ran yr AHNE. Gofynnodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE
Llŷn i’r aelod gadarnhau enw swyddog y gallai gysylltu yng nghyswllt hyn. Cais Nova Innovation Cyfeiriwyd at gais gan Nova Innovation, ar ran Ynni Llŷn, i Ystad y
Goron am hawl i ddatblygu cynllun ynni llanw posibl ger Ynys Enlli. Nodwyd bod
Cynrychiolydd Cyngor Cymuned Tudweiliog wedi dod ar draws taflen ymgynghori nad
oedd yn cyfeirio at y Cyd-Bwyllgor. Ymhelaethodd y cynrychiolydd bod y daflen
yn cyfeirio at yr AHNE ond nid oedd cyfeiriad at ymgynghori efo’r Cyd-Bwyllgor.
Awgrymodd y dylid cysylltu efo Ynni Llŷn i ofyn am fwy o wybodaeth am y
prosiect ac i nodi wrth Ystad y Goron y dylid ymgynghori â’r Cyd-Bwyllgor ar y
cynllun. Nododd aelod ei fod ar ddallt mai ymgynghoriad cychwynnol yn unig ydoedd o
ran y posibilrwydd o ran sefydlu cynllun o’r fath. Nododd Cynrychiolydd Cyngor Cymuned Tudweiliog bod y ddogfen yn nodi mai’r
cam nesaf fyddai gwneud cais i Ystad y Goron am drwydded, felly dyma’r amser i
roi mewnbwn y Cyd-Bwyllgor i’r ymgynghoriad. PENDERFYNWYD y dylid cysylltu efo Ynni Llŷn i
ofyn am fwy o wybodaeth am y prosiect ac i nodi wrth Ystad y Goron y dylid
ymgynghori â’r Cyd-Bwyllgor ar y cynllun. Llythyr Cyngor Cymuned Llanaelhaearn Adroddwyd bod y Cadeirydd wedi derbyn llythyr gan Gyngor Cymuned
Llanaelhaearn yn gofyn am gefnogaeth y Cyd-Bwyllgor i’w cais i Gyngor Gwynedd
am olau stryd ar gyffordd Trefor ar sail diogelwch ffyrdd. Nodwyd bod Cynllun
Rheoli’r AHNE yn nodi y dylid ceisio cyfyngu nifer o arwyddion ffordd a golau
stryd o ran llonyddwch felly roedd yn sefyllfa anodd. Nodwyd y cynhaliwyd
trafodaethau rhwng y Pennaeth Rheoleiddio, Aelod Cabinet - Cynllunio a
Rheoleiddio, Aelodau Lleol ynghyd â’r Cyngor Cymuned. Adroddwyd bod y Pennaeth
Rheoleiddio o’r farn bod y gyffordd yn ddiogel a ni fyddai Cyngor Gwynedd yn
gwneud newidiadau. Yn ystod y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd, 2016, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2016, fel rhai cywir
yn ddarostyngedig i’r newidiadau isod: ·
Newid y frawddeg ‘Nodwyd y cynhelir cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor pan fu’r adeilad yn
cau mwyaf tebygol ym Mhwllheli.’
yn y paragraff cyntaf ar dudalen
5 i ddarllen ‘Nodwyd pan fudd yr adeilad yn
cau, mwyaf tebygol mai ym
Mhwllheli y cynhelir cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor.’ ·
Newid rhan o’r paragraff olaf
ar dudalen 6 i ddarllen ‘…Tynnodd
sylw at y ffaith fod rhagor o astudiaethau
cyfoes wedi eu cwblhau parthed
tyrbinau gwynt a ffermydd solar, gan nodi bod safleoedd y clystyrau o dyrbinau gwynt a gynigiwyd ar sail technegol gan ARUP Associates yn 2012 wedi eu diystyrru
gan astudiaethau diweddarach a roddodd ystyriaeth i sensitifrwydd
y dirwedd. Roedd y CDLl ar y cyd
drafft hefyd yn dynodi tir
o amgylch Rhoslan fel yr ardal
chwilio flaenoriaethol yn Nwyfor ar
gyfer ffermydd solar mawrion oherwydd materion tirweddol yn ogystal â chapasiti’r
grid cenedlaethol.’ |
|
PROSIECTAU DIWEDDAR GWASANAETH AHNE LLŶN PDF 220 KB Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynodd Swyddog Prosiectau
AHNE Llŷn adroddiad ar waith
y Gwasanaeth AHNE. Rhoddwyd diweddariad
ar y prosiectau canlynol: ·
Gwaredu Arwyddion Ffordd Blêr; ·
Cylchdeithiau Beics Llŷn; ·
Dehongli Tre’r Ceiri; ·
Prosiect Ffynnon Aelrhiw. Nododd aelod ei fod
yn ymwybodol bod y bardd Joseph Sherman wedi cyfansoddi barddoniaeth yng nghyswllt Tre’r
Ceiri ac fe
fyddai’n eu hanfon ymlaen i’r
Gwasanaeth AHNE. Cyfeiriodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn at y cyflwyniad a dderbyniwyd yn y cyfarfod blaenorol yng nghyswllt cynllun
Rhodd Eryri sef cynllun peilot
lle'r oedd ymwelwyr yn cyfrannu
tuag at waith cadwraeth yn lleol.
Nododd ei fod wedi
mynychu digwyddiad a gynhaliwyd yn Llanberis
i ddathlu llwyddiant blwyddyn gyntaf y cynllun. Nododd bod 45 busnes yn aelod
o’r cynllun erbyn hyn, gyda
£3,500 wedi ei gasglu a’u bod yn anelu i
gasglu £10,000 erbyn mis Medi. Mewn ymateb i sylwadau
gan aelodau yng nghyswllt prosiect
tebyg yn yr AHNE, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y cyflwynir mwy o wybodaeth o ran sefydlu prosiect o’r fath ar
gyfer yr AHNE i’r cyfarfodydd nesaf. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |
|
Y GRONFA DATBLYGU CYNALIADWY PDF 258 KB Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn a oedd yn
manylu ar sefyllfa’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Nodwyd mai £55,000 oedd swm y Gronfa
ar ddechrau blwyddyn ariannol 2016/17 ac fe lwyddwyd
i ddyrannu’r cyfan. Tynnwyd sylw at yr atodiad
a oedd yn
cynnwys crynodeb o’r prosiectau a dderbyniodd gyfraniad gan y Gronfa. Adroddwyd
y derbyniwyd cadarnhad fod £55,000 yn y Gronfa ar gyfer
2017/18 ac anogwyd aelodau i hyrwyddo’r
Gronfa. Ymatebodd y Swyddog i gwestiynau/sylwadau’r aelodau yng nghyswllt
prosiectau penodol. Nododd y Cadeirydd ei werthfawrogiad am y gwaith. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |
|
AELODAU LLEOL AR Y CYD-BWYLLGOR YMGYNGHOROL PDF 294 KB Cyflwyno
adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn a oedd yn egluro goblygiadau,
a’r broses, o newid cyfansoddiad y Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol o ran nifer yr Aelodau Lleol
all fod yn aelodau o’r Cyd-Bwyllgor
ar unrhyw adeg yn unol
â phenderfyniad y Cyd-Bwyllgor
yn ei gyfarfod
ar 24 Mehefin 2015. Eglurwyd bod y cyfansoddiad presennol yn nodi mai
5 Aelod Lleol all fod yn aelodau
o’r Cyd-Bwyllgor ar unrhyw adeg
gydag aelodau yn cyfnewid yn
dilyn etholiadau lleol. Tynnwyd sylw, ar adeg
y gwnaed y penderfyniad, roedd disgwyl y byddai ffiniau wardiau'r ardal yn newid ac y byddai
llai o Aelodau Lleol yn cynrychioli
wardiau yn yr AHNE (yn rhannol
neu gyfan gwbl). Fodd bynnag,
ni fu unrhyw
newid yn y wardiau, felly roedd cyfanswm yr aelodau
gyda wardiau yn yr AHNE (yn
rhannol neu gyfan gwbl) yn
11. Tynnwyd sylw pe byddai’r holl
Aelodau Lleol yn rhan o’r
Cyd-Bwyllgor, byddai aelodaeth y Cyd-Bwyllgor yn cynyddu o 27 i 33 gyda mwyafrif sylweddol
yn aelodau o Gyngor Gwynedd. Amlygwyd bod sedd i gynrychiolydd
o bob Cyngor Cymuned yn yr AHNE ar
y Cyd-Bwyllgor eisoes. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif bwyntiau canlynol: ·
Gan nad oedd y ffiniau etholiadol yn newid
dylid ystyried gadael i’r Aelodau
Lleol benderfynu ymysg ei gilydd
pwy fyddai’n aelodau o’r Cyd-Bwyllgor. ·
Bod Cynrychiolydd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi
anfon sylwadau i nodi ei
fod o’r farn
y dylid cadw at 5 Aelod Lleol ar
y Cyd-Bwyllgor gan y byddai 11 Aelod Lleol yn newid
y cydbwysedd yn ormodol o ran cynrychiolaeth y Cyngor. Roedd yn
awgrymu hefyd efallai y gellir newid aelodau ar
raddfa o un y flwyddyn er mwyn cael
newid graddol. ·
Un opsiwn
fyddai rhoi cyflwyniad i’r Aelodau Lleol o ran yr AHNE cyn iddynt
lenwi ffurflen i nodi pam eu
bod eisiau bod yn aelod o’r Cyd-Bwyllgor
gan adael y penderfyniad i’r Cyd-Bwyllgor o ran pa aelodau ddylai wasanaethu ar y Cyd-Bwyllgor. ·
Anghytuno efo 11 Aelod Lleol
ar y Cyd-Bwyllgor gan fod angen
trawstoriad/cydbwysedd o
ran aelodaeth a ni ddylid gadael y penderfyniad i’r aelodau lleol gan
all bod gwahaniaeth barn. ·
Y dylid ystyried dyrannu seddi aelodau lleol
yn unol â threfniadau Cydbwysedd Gwleidyddol y Cyngor. ·
Bod angen
pwyso ar y Cynghorau Cymuned i anfon cynrychiolydd
i gyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor. Cynigiwyd a eiliwyd i gadw nifer yr Aelodau
Lleol i 5 ac argymell i’r Cabinet / Aelod Cabinet - Cynllunio a Rheoleiddio y dylid diwygio cyfansoddiad y Cyd-Bwyllgor i nodi y dyrennir seddi Aelodau Lleol
yn unol â threfniadau Cydbwysedd Gwleidyddol y Cyngor ac i ddileu’r cymal
“Aelodau Cyngor Gwynedd i gael eu
cylchdroi yn dilyn etholiadau lleol”. Pleidleisiwyd ar y cynnig ac fe gariodd. PENDERFYNWYD cadw nifer yr Aelodau Lleol i 5 ac argymhell i’r Cabinet / Aelod Cabinet - Cynllunio a Rheoleiddio y dylid diwygio cyfansoddiad y Cyd-Bwyllgor i nodi y dyrennir seddi Aelodau Lleol yn unol â ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CYNLLUN RHEOLI’R AHNE PDF 366 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad
ar y gwaith o ddiweddaru ac adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE. Tywyswyd yr aelodau
trwy 4 bennod drafft o Ran 2 o’r cynllun rheoli sef ‘Amgylchedd glân a Llonyddwch’, ‘Cynefinoedd a Bywyd Gwyllt’, ‘Gwaith, Cynnyrch a Sgiliau’ a ‘Pobol a Chymdeithas’ a oedd yn atodiad
i’r adroddiad. Tynnwyd sylw mai dyma’r penodau
olaf o’r
Cynllun drafft i’w hystyried. Adroddwyd mai’r cam nesaf fyddai llunio cynllun
gweithredu i gyd-fynd gyda’r polisïau a thynnu’r holl ddeunydd at ei gilydd i
ffurfio Cynllun Rheoli diwygiedig cyflawn mewn ffurf
drafft. Yn dilyn hynny bwriedir
cynnal ymgynghoriad cyhoeddus am o leiaf 6 wythnos cyn dychwelyd
i’r Cyd-Bwyllgor gyda manylion o’r
ymatebion a dderbyniwyd ac argymhellion. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau
roi sylwadau, nodwyd y prif bwyntiau canlynol: Cynefinoedd a Bywyd Gwyllt ·
Tudalen 31 – Y dylid cyfeirio
at Ymgyrch Neifion o dan y pennawd ‘Rhywogaethau morol’. ·
Tudalen 32 - Ddim yn hapus y cyfeirir
at allyriannau CO2 o dan
y pennawd ‘Newid hinsawdd’, fe ellir
nodi bod newid hinsawdd ond ni
ddylid clymu cyfrifoldeb â gweithgareddau dynol. O’r farn
bod yr haul yn ffactor mawr o ran newid hinsawdd. ·
Bod geiriad polisi BP5 yn wannach
na’r hyn a nodir ar dudalen
32. Hefyd, nodir yn y paragraff olaf ar dudalen
32 ‘…creu ynni adnewyddol ar raddfa
addas…’, fe
ddylid nodi’n fanwl yn y polisïau
beth a olygir fel graddfa addas. Gwaith, Cynnyrch a Sgiliau ·
Bod rhai o’r ffigyrau a gynhwyswyd yn y bennod yn gamarweiniol
gan nad
ellir cael dadansoddiad mor fanwl o ffigyrau STEAM. Nododd Cynrychiolydd Partneriaeth Dwristiaeth Abersoch a Llŷn
y dylid trafod y ffigyrau efo Steven Jones (Uwch Swyddog Gwasanaethau
Twristiaeth) ac y byddai ef hefyd yn
fodlon cynorthwyo. Ychwanegodd ei fod yn anodd
cael ffigyrau cadarn o ran yr Ardal o Harddwch. Pobol a Chymdeithas ·
Tudalen 55 – y dylid ystyried
nodi o dan y pennawd ‘Cartrefi Gwyliau a Phrisiau Tai’ yr angen i
edrych ar y rhesymau pam bod cynifer o dai ar werth mewn rhai
ardaloedd penodol o fewn yr AHNE. ·
Tudalen 56 - Tlodi Tanwydd - cysylltiad uniongyrchol rhwng y dreth ar garbon
a’r ffaith bod y Deyrnas Unedig yn gorfod mewnforio
tanwydd oherwydd nid oedd hawl
i gael
pwerdai llosgi glo newydd, polisïau
wedi dilyn at nifer o bobl mewn
tlodi tanwydd. ·
O ran trefn y penodau, dylid ystyried rhoi’r bennod yma yng
nghychwyn y cynllun er mwyn rhoi
mwy o bwyslais i’r bennod. ·
Bod cymunedau yn heneiddio a’r
angen i edrych
ar sut y gellir cefnogi unigolion i aros
yn eu cynefin.
Er nad
oedd hyn yn unigryw i’r
AHNE, dylid ystyried cyfeirio at y mater. Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y derbyniwyd sylwadau gan Gynrychiolydd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig ar y penodau drafft ac fe’u hystyrir a’u hymgorffori ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |