Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CROESO

Cofnod:

Croesawyd Alun Price (Cyfoeth Naturiol Cymru) i’w gyfarfod cyntaf.   

2.

CADEIRYDD

I ethol cadeirydd am y flwyddyn 2015/16.

Cofnod:

Adroddwyd bod cyfansoddiad y Cydbwyllgor wedi ei ddiwygio o dan hawliau dirprwyedig yr Aelod Cabinet – Cynllunio a Rheoleiddio fel y gall unrhyw aelod o’r Cydbwyllgor weithredu fel Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Gruffydd Williams yn Gadeirydd am y flwyddyn 2015/16.

 

3.

IS-GADEIRYDD

I ethol is-gadeirydd am y flwyddyn 2015/16.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol T. Victor Jones yn Is-gadeirydd am y flwyddyn 2015/16.

4.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Noel Davey (Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig), Morgan Jones-Parry (Fforwm Mynediad Arfon a Dwyfor), Hedd Rhys (NFU Cymru), Gillian Walker (Cyngor Cymuned Botwnnog), John Eric Williams (Cyfeillion Llŷn), Wenda Williams (Cyngor Cymuned Aberdaron) a John Lloyd Jones, Panel Adolygu Tirluniau Dynodedig Cymru.

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 388 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2015, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2015, fel rhai cywir yn ddarostyngedig i ddiwygio o dan ymddiheuriadau Arfon Jones (Cyngor Tref Nefyn) i Arfon Hughes.

 

7.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod Uned AHNE Llŷn yn cael ei ystyried fel rhan o’r toriadau posib gan y Cyngor. Gofynnwyd am gefnogaeth yr aelodau i’r Uned os ystyrir yr Uned fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar doriadau.

 

8.

ADOLYGIAD O DIRWEDDAU GWARCHODEDIG CYMRU – CAM 2 pdf eicon PDF 305 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn a oedd yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf o ran adolygiad Llywodraeth Cymru i Dirweddau Dynodedig.

 

Adroddwyd bod ymateb i Gam 2 o’r adolygiad wedi ei anfon at Banel yr adolygiad gan Gyngor Gwynedd fel sefydliad.

 

Tynnwyd sylw i lythyr a dderbyniwyd gan Yr Athro Terry Marsden, Cadeirydd yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig Cymru, a oedd yn cyflwyno Cam 2 o’r adolygiad ac yn rhoi cyfle i sefydliadau gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ynghylch trefniadau llywodraethu'r tirweddau dynodedig. Amlygwyd y cwestiynau penodol a ofynnir er mwyn helpu’r Adolygiad i adnabod a chasglu’r dystiolaeth angenrheidiol i ddod i gasgliad ar gyfer Cam 2.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

·         Yn yr hinsawdd ariannol bresennol y byddai’n fwy cost effeithiol cael un corff ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio sef Cyngor Gwynedd;

·         Bod diffyg ymwybyddiaeth o’r AHNE a dylid sicrhau trefniadau cynllunio cryfach er mwyn gwarchod yr AHNE pan benderfynir ar geisiadau cynllunio;

·         Bod angen cydbwysedd gwell o ran prydferthwch a’r economi gan fod cynifer o bobl ifanc yn gadael yr ardal;

·         Bod twristiaid yn ymweld â’r ardal oherwydd y prydferthwch a bod angen cydbwyso gwerth datblygiadau economaidd a chadwraeth. Golygai hyn bod rhaid gwrthod datblygiadau sydd ddim yn cyd-fynd efo’r harddwch naturiol yn enwedig oherwydd y ddyletswydd i sicrhau/gwarchod y prydferthwch o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000; 

·         Y byddai codi ymwybyddiaeth o’r AHNE fel y Parciau Cenedlaethol yn ysgogi mwy o bobl i ddod i’r AHNE;

·         Nododd aelod ei phryder os byddai’r Parciau Cenedlaethol a’r AHNEau yn cael eu llywodraethu o dan yr un drefn y byddai’r AHNE yn cael ei lyncu gan y Parc;

·         Bod diffyg adnoddau a phroffil isel o fewn y Cyngor a Gwynedd yn ei gyfanrwydd;

·         Dylai’r AHNE dderbyn adnoddau/cefnogaeth debyg o ran lefel a’r Parciau Cenedlaethol gan gadw annibyniaeth leol. 

 

Nododd aelod bod Stad y Goron yn derbyn arian sylweddol o Gymru yn flynyddol a’i fod yn annheg.

 

Tynnodd aelod sylw at gynllun lleol sicrhau ansawdd yn Ardal y Llynnoedd lle codir ffi ychwanegol ar ymwelwyr gan ddefnyddio’r arian ar gyfer marchnata a chynnal a chadw’r ardal a’i fod mewn cysylltiad efo’r Cyngor o ran sefydlu trefn o’r fath yng Ngwynedd. Nododd y byddai sefydlu cynllun peilot yn cymryd cryn amser ond byddai o werth sylweddol i’r ardal.

 

Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn ei fod wedi bod mewn cysylltiad â’r Uned Twristiaeth, Marchnata a Gofal Cwsmer a oedd yn edrych i mewn i sefydlu trefn o’r fath. Ychwanegodd Rheolwr Cefn Gwlad a Mynediad ei fod yn fater cymhleth a bod angen adnoddau i sefydlu a gweinyddu trefn o’r fath a fyddai’n gorfod bod yn annibynnol o’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn yr adroddiad;

(ii)    bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn crynhoi’r drafodaeth a’i anfon at y Panel.

9.

DIWEDDARIAD AR BROSIECTAU pdf eicon PDF 345 KB

Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad ar waith yr Uned AHNE, nodwyd bod Catrin Glyn, Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn Dros Dro wedi derbyn swydd newydd a dymunwyd yn dda iddi.

 

Prosiectau Ardaloedd Cadwraeth Llŷn

 

Nodwyd y derbyniwyd yr adroddiad terfynol ac mai cam nesaf y gwaith, os bydd adnoddau yn caniatáu, fydd ceisio gwireddu argymhellion yr adroddiad a gwella cyflwr yr Ardaloedd Cadwraeth yn yr AHNE trwy gydweithio a sicrhau cyllid.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yr anogir perchnogion adeiladau yn yr Ardaloedd Cadwraeth i warchod a gwella golwg a chymeriad yr ardaloedd.

 

Datganodd aelod ei bryder am ddodrefn ar y stryd (gan fusnesau preifat) nad oedd yn cydweddu.

 

Nododd aelod ei farn nad oedd sylwadau Cynghorau Cymuned ar geisiadau cynllunio yn derbyn ystyriaeth deg.

 

Nododd aelod bod Swyddogion Cadwraeth, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi llwyddo i ddenu grantiau ar gyfer cynnal cadwraeth yn Nolgellau a bod angen mwy o ystyriaeth i’r Ardaloedd Cadwraeth pan benderfynir ar geisiadau cynllunio yng Ngwynedd.

 

Prosiect y Rhyfeloedd Byd

 

Nodwyd bod Elfed Gruffydd wedi cwblhau ei waith ymchwil o ran y Rhyfel Byd Cyntaf yng nghyswllt effaith a dylanwad y Rhyfeloedd Byd ar amgylchedd a chymdeithas yr ardal, a’i fod rŵan yn edrych ar Ail Ryfel Byd. Tynnwyd sylw at grynodeb o’r gwaith a nodwyd y cyflwynir yr adroddiad cyflawn gerbron y Cydbwyllgor.

 

Nododd aelod ei ddiolch i Elfed Gruffydd am y gwaith a’i obaith y byddai’r wybodaeth yn cael ei gyhoeddi. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y byddai’n pasio gwerthfawrogiad yr aelod i Elfed Gruffydd. Ychwanegodd y bwriedir cyhoeddi’r adroddiad ar y we.

 

Gwŷl yr Arfordir a Theithiau Cerdded

 

Adroddwyd y cynhelir Gwŷl yr Arfordir yn ystod yr haf a threfnwyd teithiau cerdded gan yr Uned AHNE ar gyfer mis Medi. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

10.

SEFYDLU IS-GRŴP CYNLLUNIO pdf eicon PDF 417 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn cloriannu / pwyso a mesur y sefyllfa o ran sefydlu Is-grŵp Materion Cynllunio yn unol â phenderfyniad y Cydbwyllgor yn ei gyfarfod ar 22 Hydref 2014.

 

Nodwyd bod sylwadau yn cael eu cyflwyno ar geisiadau cynllunio perthnasol gan Reolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn ynghyd â datganiad y Cydbwyllgor pan gyfyd ceisiadau am dyrbinau gwynt.

 

Nododd aelod y byddai sefydlu is-grŵp yn galluogi’r aelodau i lunio sylwadau mwy cynhwysfawr pan ystyrir fod cais cynllunio am gael effaith niweidiol ar yr AHNE.

 

PENDERFYNWYD bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn cyflwyno adroddiad i’r cyfarfod nesaf yng nghyswllt sefydlu Is-grŵp Materion Cynllunio.

11.

APÊL CYNLLUNIO – TYRBIN GWYNT, CRUGERAN, SARN pdf eicon PDF 498 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yng nghyswllt Apêl Cynllunio a gyflwynwyd yn dilyn gwrthod hawl cynllunio i godi tyrbin gwynt ychwanegol ar dir ger Crugeran, Sarn Mellteyrn (Cais Cynllunio Rhif C14/0974/32/LL) yn dilyn cais gan aelod i’r Cydbwyllgor ystyried y mater.

 

Adroddwyd y gwnaed sylwadau ar y cais gan Reolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn, oedd yn cynnwys datganiad y Cydbwyllgor yng nghyswllt ceisiadau am dyrbinau gwynt.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau lunio sylwadau manwl ar yr Apêl.

 

Yn dilyn cais gan aelod, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn i anfon copi o’r sylwadau a anfonir at yr Arolygydd ar ran y Cydbwyllgor iddi ar e-bost.

 

PENDERFYNWYD awdurdodi’r Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn i gyflwyno sylwadau wedi eu selio ar yr isod ar yr apêl i’r Arolygydd ar ran y Cydbwyllgor:

 

·           Bod y Cydbwyllgor yn ystyried byddai caniatáu’r cais yn cael effaith niweidiol sylweddol ar AHNE Llŷn. Ystyrir bod y bwriad yn groes i ddyletswydd y Cydbwyllgor o dan y ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

 

·           Bod ceisiadau am dyrbinau gwynt yn y cyffiniau wedi eu gwrthod a dylid gwrthod yr apêl.

 

·           Bod y Cydbwyllgor yn anghydweld a sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n nodi nad ystyrir y byddai effaith niweidiol sylweddol. Gofynnir i’r Arolygydd gymryd arbenigedd barn lleol y Cydbwyllgor sydd yn groes i farn ymarferiad pen desg CNC. Teimlir bod anghysondeb yn sylwadau CNC ar faterion cynllunio.

 

·           Bod y ddogfen ymgynghorol Cynllun Adnau Drafft Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn 2011-26 yn nodi na chaniateir tyrbin gwynt mwy na 15 medr yn Llŷn rhag achosi effaith niweidiol sylweddol i’r AHNE, sydd wedi ei gefnogi gan sawl corff gan gynnwys y Cydbwyllgor.

 

·           Credir nad yw’r angen economaidd yn gorbwyso'r niwed a achosir i’r AHNE.

 

12.

AELODAU LLEOL AR Y CYDBWYLLGOR YMGYNGHOROL pdf eicon PDF 378 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yng nghyswllt ystyried newid cyfansoddiad y Cydbwyllgor mewn perthynas â’r nifer o Aelodau Lleol (Cynghorwyr) ar y Cydbwyllgor yn dilyn cais gan aelod i’r Cydbwyllgor ystyried y mater.

 

Nodwyd yn y drefn bresennol bod aelodau lleol yn cael eu cylchdroi bob cyfnod etholiadol gyda 5 Aelod Lleol ar y Cydbwyllgor ar yr un adeg.

 

Nododd aelod y byddai ffiniau etholiadol yn cael eu diwygio yn dilyn etholiad Cynghorau Lleol yn Mai 2017 a dylid cadw’r drefn bresennol tan fydd newid i’r ffiniau.

 

PENDERFYNWYD cadw at y drefn bresennol am y tro ond bod trefniadau yn cael eu gwneud i ddiwygio’r cyfansoddiad er galluogi bob Aelod Lleol i fod yn aelod o’r Cydbwyllgor erbyn Mai 2017.