Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Anwen J. Davies, John Brynmor Hughes, Aled Wyn Jones ac Angela Russell (Pencampwr Cefn Gwlad Cyngor Gwynedd) ynghyd ag Andrew Davidson (Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd), Gillian Walker (Cyfeillion Llŷn) ac Wyn Williams (Rheolwr Cefn Gwlad).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 324 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2021, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Cydbwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2021, fel rhai cywir.

 

Gofynnwyd am ddiweddariad ynglŷn â’r penderfyniad i’r Swyddog Gwasanaeth AHNE drefnu cyfarfod rhithiol efo’r Cynghorau Cymuned a Thref o fewn yr AHNE i ddarparu mwy o wybodaeth am gais yr IDA i ddynodi statws Parc Awyr Dywyll i’r ardal.

Adroddwyd fod y Swyddog AHNE wedi anfon e-bost at y Cynghorau Cymuned a Thref i ddarparu gwybodaeth bellach ac am gysylltu dros yr wythnosau nesaf i drefnu’r cyfarfod; gobeithir gallu ei drefnu at ddiwedd Ebrill neu fis Mai.

 

 

5.

CYNLLUN GWEITHREDU ADFER NATUR pdf eicon PDF 190 KB

I ddarparu gwybodaeth am y Cynllun Gweithredu Adfer Natur.

 

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth am y Cynllun Gweithredu Adfer Natur a dderbyniwyd gan y Swyddog Bioamrywiaeth.

Cofnod:

Croesawyd y Swyddog Bioamrywiaeth Ann Williams i’r cyfarfod. Cyflwynwyd yr adroddiad ble nodwyd fod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn drobwynt ar gyfer cydnabod yr argyfwng natur a chynyddu camau gweithredu.

 

Darparwyd cefndir ar y Cynllun Gweithredu Adfer Natur Genedlaethol sy’n manylu ar sut y dylai pob ardal fynd i’r afael ag adfer natur a chynhyrchu Cynllun Gweithredu eu hunain. Eglurwyd mai’r Swyddog Bioamrywiaeth fydd yn arwain ar y cynllun hwn fydd yn gynllun ar y cyd rhwng Gwynedd a Llŷn. Bwriad y cynllun fydd mynd i’r afael â’r chwe amcan cenedlaethol tra hefyd yn cyfarch heriau, pryderon a’r gofynion amgylcheddol yn lleol.

 

Cydnabyddwyd fod yr amgylchedd yn bwysig ofnadwy i drigolion Gwynedd a Llŷn; bydd y cynllun yn sicrhau fod y cymunedau hyn yn gallu parhau i elwa a mwynhau byd natur. Fydd y ddogfen a’i amcanion yn cael ei anelu at amrywiaeth eang o bobol. Bwriedir i’r  Cynllun Gweithredu Adfer Natur Gwynedd a Llŷn fod yn ddogfen bolisi statudol efo fydd â phedwar rhan.

 

Adroddwyd y bydd ymgynghoriadau yn cael eu cynnal cyn yr Haf fel rhan o broses creu'r ddogfen; bydd y Cydbwyllgor hwn yn cael eu cynnwys yn y sesiynau ymgynghori hyn. Nodwyd yn y cyfamser fod drafft o ran gyntaf y Cynllun Gweithredu wedi ei baratoi, gofynnwyd am adborth a sylwadau’r Cydbwyllgor ar y drafft hwn. Bydd mwy o wybodaeth i ddilyn ar sut i gyflwyno sylwadau a bydd y Swyddog Bioamrywiaeth yn anfon y drafft i aelodau’r Cydbwyllgor. Yn ogystal, byddai’r Swyddog Bioamrywiaeth yn gwerthfawrogi pe bai’r Cydbwyllgor yn cymryd rhan a chyfrannu yn yr ymgynghoriadau cyn iddynt fynd ati i ffurfio gweddill y ddogfen.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:-

-       Gofynnwyd am eglurhad pellach ynglŷn â pha ran o’r ddogfen fydd yn destun i’r ymgynghoriad.

-       Holiwyd beth fydd yn digwydd ar ôl i’r ddogfen gael ei chynhyrchu a pwy fydd yn gweithredu cynnwys y ddogfen.

-       Cwestiynwyd pam fod y Cydbwyllgor heb gael copi o gynllun drafft rhan un ymlaen llaw. Pryderwyd nad yw aelodau’r Cydbwyllgor yn ymwybodol beth fydd cynnwys y drafft hwn.

 

Mewn ymateb, nodwyd:

-       Y bydd yr ymgynghoriadau ynghylch ffurfio ail a trydedd rhan y cynllun fydd yn amlygu sut gall y boblogaeth gyffredinol helpu adferiad byd natur yn ogystal â’r camau gweithredu a’r blaenoriaethau lleol. Rhain fydd rhannau pwysicaf y cynllun ac yn destun i’r ymgynghoriadau ble bydd cyfle i gyfrannu. .

-       Nodwyd mai cefndir y cynllun yn unig oedd rhan un sydd wedi ei baratoi ar ffurf drafft ble gofynnwyd am sylwadau.

-       Bod bwriad i’r ddogfen fod yn ddogfen fyw ble gellir ychwanegu ati. Ychwanegwyd fod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu adfer natur a bioamrywiaeth dros y blynyddoedd diwethaf, golyga hyn fod cronfeydd o arian yn dod ar gael yn fwy aml. Eglurwyd y bydd y ddogfen ar gael pe bai prosiectau eraill eisiau cyfeirio at y cynllun a’i ddefnyddio fel adnodd i gefnogi ceisiadau am arian.            

-       Ychwanegwyd y bydd y cynllun hwn yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

PROSIECTAU CYFALAF AHNE LLŶN pdf eicon PDF 120 KB

I ddarparu gwybodaeth am Brosiectau Cyfalaf AHNE Llŷn.

 

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad ar Brosiectau Cyfalaf AHNE Llŷn.

Cofnod:

Darparwyd gwybodaeth am brosiectau cyfalaf AHNE Llŷn gan roi diweddariad ar Brosiectau Cyfalaf TCLC ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol (2021/22). Nodwyd y bydd mwy o wybodaeth am brosiectau AHNE Llŷn dros y flwyddyn ddiwethaf i’w weld yn y rhifyn diweddaraf o Lygaid Llŷn fydd ar gael diwedd mis Ebrill. Adroddwyd fod y prosiect Atgyweirio Trac Porth Meudwy wedi ei gwblhau a gwaith bron a gorffen ar y tri phrosiect arall.

 

Nodwyd nad oes cadarnhad wedi ei dderbyn hyd yn hyn am gyfanswm y grant yn y dyfodol na’r nifer o flynyddoedd; adroddwyd fod siawns y bydd dros gyfnod o dair blynedd. Cadarnhawyd y bydd y themâu ar gyfer y prosiectau cyfalaf yn parhau fel y flwyddyn gyfredol.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion â ganlyn gan aelodau:-

-       Holwyd erbyn pryd rhaid i’r arian gael ei wario ar brosiectau 2021/22. Roedd y gwaith ar y prosiect o adnewyddu toiledau Lôn Gam, Nefyn ychydig ar ôl yr amserlen wreiddiol oherwydd y tirlithriad diweddar.

-       Cwestiynwyd os yw’r themâu Twristiaeth Gynaliadwy yn cyfeirio at y llwybrau troed ac os yw’r Swyddog AHNE yn rhagweld y bydd ceisiadau pellach dan y themâu yma'r flwyddyn nesaf.

-       Awgrymwyd y gall y themâu Twristiaeth Gynaliadwy gyfeirio at beilot prosiect i dreialu rhywbeth newydd fydd yn cael defnydd gan dwristiaid.

Mewn ymateb nodwyd:

-       Bod estyniad wedi ei dderbyn tan ddiwedd mis Ebrill neu ddechrau Mai 2022 pe bai rhaid ar gyfer gwario arian y grant blwyddyn ariannol 2021/22.

-       Nad yw’r Swyddog Gwasanaeth AHNE yn sicr os bydd gymaint o bwyslais ar grantiau i wella llwybrau troed y flwyddyn nesaf o’r gronfa hon. Ychwanegwyd fod grant arall ar gael i wella’r llwybrau, roedd awydd i’r grant hwnnw gael ei ddefnyddio yn hytrach. Eglurwyd fod y themâu Twristiaeth Gynaliadwy yn ymdrin â phrosiectau eang e.e. gwella cyfleusterau i ymwelwyr fel toiledau cyhoeddus.

-       Fod y themâu yn weddol hyblyg a bod arian ar gael i brosiectau eraill o dan themâu tebyg i’r rhai a nodwyd.

 

PENDERFYNIAD

Derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad ar Brosiectau Cyfalaf AHNE Llŷn.

 

7.

AELODAETH Y CYDBWYLLGOR YMGYNGHOROL pdf eicon PDF 214 KB

Bleddyn Jones, Swyddog AHNE i roi adroddiad ar aelodaeth y Cydbwyllgor Ymgynghorol a’r trefniadau sydd ar y gweill i newid Aelodau Cyngor Gwynedd.

 

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad ar Aelodaeth y Cydbwyllgor Ymgynghorol a’r trefniadau sydd ar y gweill i newid Aelodau Cyngor Gwynedd.

b)    Cytunwyd i’r Swyddog AHNE Llŷn ddarparu data ar bresenoldeb holl aelodau’r Cydbwyllgor yn y cyfarfod nesaf.

Cofnod:

Darparwyd gwybodaeth am aelodaeth y Cydbwyllgor Ymgynghorol a’r trefniadau sydd ar y gweill yn unol â Chyfansoddiad y Cydbwyllgor i newid Aelodau Cyngor Gwynedd. Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol sydd i’w gweld yn yr adroddiad gan gynnwys yr adolygiad ffiniau.

 

Cymerwyd y cyfle i ddiolch i Aelodau am yr amser a’r ymdrech sydd wedi ei roi i gefnogi’r AHNE dros y pum mlynedd diwethaf. Adroddwyd y bydd tymor rhai yn dod i ben a bydd gwahoddiad i Gynghorwr Sir o ardaloedd eraill o fewn yr AHNE i fynychu’r Cydbwyllgor yn dilyn yr etholiad. Soniwyd hefyd am y sefydliadu eraill sydd â lle ar y Cydbwyllgor ymgynghorol, ni fydd newid yma.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:-

-       Tynnwyd sylw fod rhai Cynghorau Cymuned / Tref ddim yn anfon cynrychiolydd i’r cyfarfodydd.

-       Holiwyd os oedd modd newid y drefn o enwebu Aelodau o wardiau penodol i eistedd ar y Cydbwyllgor am y cyfnod nesaf ac yn hytrach holi pa Aelodau sydd eisiau bod yn rhan o’r Cydbwyllgor ac efo diddordeb mynychu. 

-       Holiwyd ynglŷn â’r posibilrwydd o dderbyn data ar bwy sydd wedi bod yn mynychu cyfarfodydd y Cydbwyllgor Ymgynghorol. Ychwanegwyd ei bod yn bwysig fod y cynrychiolwyr yn mynychu a bod cyswllt yn cael ei wneud efo’r sawl sydd heb fod yn mynychu ers tro.

 

Mewn ymateb, nodwyd:

-       Na fydd yr awgrym o wahodd Aelodau sydd efo diddordeb i fynychu yn bosib. Nodwyd fod barn gyfreithiol wedi ei dderbyn yn y gorffennol oedd yn nodi nad oedd hyn yn bosib oherwydd y Cyfansoddiad a materion ynghylch cydbwysedd gwleidyddol.

-       Na fydd yn bosib newid y cyfansoddiad fel bod Cynghorwyr yr 8 ward o fewn yr AHNE (sydd wedi lleihau o 11 yn dilyn yr adolygiad ffiniau) yn derbyn gwahoddiad. Credwyd y bydd hyn yn arwain at ormod o bwyslais ar Gyngor Gwynedd o fewn y Cydbwyllgor yn ogystal â materion Cyfansoddiadol fyddai yn arbed hyn.

-       Y byddai’n bosib darparu gwybodaeth ar bresenoldeb holl aelodau’r Cydbwyllgor erbyn y cyfarfod nesaf.

-       Bod y Swyddog Gwasanaeth AHNE yn mynd i lythyru’r Sefydliadau a Mudiadau sydd â lle ar y Cydbwyllgor i adael iddyn nhw wybod am y tymor newydd ac i geisio cael cynrychiolwyr i lenwi seddi gwag neu pan nad oes neb wedi mynychu ers amser.

 

PENDERFYNIAD

 

a)    Derbyn yr adroddiad ar Aelodaeth y Cydbwyllgor Ymgynghorol a’r trefniadau sydd ar y gweill i newid Aelodau Cyngor Gwynedd.

b)    Cytunwyd i’r Swyddog AHNE Llŷn ddarparu data ar bresenoldeb holl aelodau’r Cydbwyllgor yn y cyfarfod nesaf.

 

8.

CYNLLUN RHEOLI’R AHNE pdf eicon PDF 151 KB

Bleddyn Jones, Swyddog AHNE i roi adroddiad ar Gynllun Rheoli’r AHNE.

 

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad ar Gynllun Rheoli’r AHNE.

Cofnod:

Tywyswyd y Cydbwyllgor drwy Adroddiad y Swyddog AHNE oedd yn nodi bod angen adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE bob pum mlynedd. Nodwyd fod y Cynllun Rheoli presennol oedd yn cael ei weithredu o 2015-2020 bellach wedi ei ddyddio a dylai adolygiad wedi cael ei gynnal eisoes. Eglurwyd bod amryw o resymau wedi amharu ar yr amserlen e.e. y pandemig a materion capasiti.

 

Adroddwyd bod ychydig o waith cefndirol wedi ei gwblhau a bod bwriad i ddod ag adroddiad gerbron y cyfarfod nesaf o’r Cydbwyllgor gyda mwy o wybodaeth a thaflen amser ar gyfer adolygu’r Cynllun Rheoli mor fuan â phosib.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:-

-       Soniwyd am yr adroddiadau sydd wedi eu darparu gan gwmnïau allanol a holwyd os oes posib eu rhannu efo aelodau’r cydbwyllgor. Nododd y Swyddog  AHNE fod yr adroddiadau hyn yn Saesneg ar hyn o bryd ond gallai drefnu i’w cyfieithu a’u dosbarthu

-       Gofynnwyd â oes modd cryfhau’r polisïau sy’n gwarchod yr AHNE a’r adeiladau traddodiadol sydd o fewn y ffin wrth adolygu’r Cynllun.

-       Mynegwyd pryder am y cyfnod adolygu gan nodi fod y cyfnod yn fyrrach y tro hwn o’i gymharu â’r cynllun blaenorol a chwestiynwyd sut y bydd hyn yn gweithio.

-       Nodwyd fod llawer o adolygiadau ac ymgynghoriadau wedi eu cynnal yn ddiweddar ynglŷn â thai a mynegwyd y dylem fod yn barod i fedru gweithredu yn sydyn fel y gallwn gynorthwyo a chefnogi unrhyw gynlluniau pe bai newidiadau yn deillio o’r Llywodraeth.

 

Mewn ymateb, nodwyd:

-       Bydd yr adolygiad o’r Cynllun rheoli yn rhoi cyfle i ail edrych ar y polisïau a chyfle i weld os oes angen eu haddasu a’u diweddaru.  Nodwyd fod canllawiau gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru y bydd angen eu dilyn yn fras a bod angen dilyn y strwythur presennol i ryw raddau. Ni ellir newid y cynllun yn llwyr ond yn sicr mae lle i addasu pe bai angen.

-       Fod gobaith gall llawer o waith gael ei gwblhau ar y Cynllun mewn blwyddyn. Gobeithir gallu adolygu'r cynllun yn gynt na’r tair blynedd oedd wedi ei gymryd yn y cyfnod diwethaf. Nodwyd ei bod yn anodd rhagdybio pryd fydd y cynllun wedi ei gwblhau yn derfynol am fod llawer o ystyriaethau eraill e.e. dogfennau a chynnwys polisïau cynllunio Cenedlaethol a’r cynllun datblygu lleol Gwynedd a Môn. Bydd adroddiad arall yn dod gerbron y pwyllgor yn fuan.

-       Bod swyddogion yn y broses o gael eu penodi yn yr ardal yma i ymwneud a gwaith ar y Cynllun Peilot Dwyfor; awgrymwyd y gall y Swyddog AHNE gysylltu â nhw i weld os oes yna unrhyw beth fedr y Cydbwyllgor ei wneud i hwyluso eu gwaith.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad ar Gynllun Rheoli’r AHNE.

 

Ar ddiwedd y cyfarfod nodwyd y bydd Cadeirydd newydd yn cael ei ethol yn y cyfarfod nesaf a chymerwyd y cyfle i ddiolch i Aelodau am eu gwasanaeth ar y Cydbwyllgor.

 

 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 4.05yh a daeth i ben  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.