skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2022/23.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd T. Victor Jones yn Gadeirydd y Cydbwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn am y flwyddyn 2022/23.

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd T. Victor Jones yn Gadeirydd y Cydbwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn am y flwyddyn 2022/23.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2022/23.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Sian Parri yn Is-Gadeirydd y Cydbwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn am y flwyddyn 2022/23.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Sian Parri yn Is-gadeirydd y Cydbwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn am y flwyddyn 2022/23.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Andrew Davidson (Prif Archeolegydd - Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd), Eirian Allport (Cyngor Cymuned Clynnog Fawr) a Molly Lovatt (Cyfoeth Naturiol Cymru).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 374 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2022, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Cydbwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2022, fel rhai cywir.

 

7.

CYNLLUN RHEOLI’R AHNE pdf eicon PDF 139 KB

Bleddyn Jones, Swyddog AHNE i gyflwyno gwybodaeth am y Gynllun Rheoli’r AHNE.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad ar Gynllun Rheoli’r AHNE.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad ar Gynllun Rheoli’r AHNE gan nodi bod gan y Cydbwyllgor rôl i’w chwarae yn y broses o baratoi, cydgordio ac adolygu’r Cynllun. Nodwyd bod y Cynllun Rheoli presennol wedi ei ddyddio ac angen ei adolygu. Adroddwyd bod gwaith cefndirol eisoes wedi ei wneud yn ogystal â chomisiynu diweddariad o Adroddiad o Gyflwr yr AHNE. Mae crynodeb o’r prif ganfyddiadau wedi ei gynnwys gyda’r adroddiad fel atodiad 1.

 

Darparwyd gwybodaeth ar y camau nesaf fydd yn cynnwys adolygu nodau, amcanion a pholisïau'r Cynllun Rheoli presennol ac awgrymu newid rhai agweddau. Soniwyd am yr amserlen a’r hyn a fwriedir ei gwblhau gan gynnwys y cyfnod o ymgynghori ac ystyried yr ymatebion yn 2023. Anelwyd i fabwysiadu a gweithredu’r Cynllun Rheoli diwygiedig cyn diwedd 2023.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:-

-        Gwnaethpwyd sylw am y wybodaeth amaethyddol yn yr adroddiad o gyflwr yr AHNE oedd yn dangos lleihad o 17% yn y defnydd tir ar gyfer tyfu cnydau o 2008-2012. Cwestiynwyd pa mor ddibynadwy yw’r wybodaeth.

-        Mynegwyd pwysigrwydd tynhau’r warchodaeth dros adeiladau traddodiadol a chyfeiriwyd at geisiadau cynllunio am estyniadau sy’n mynd yn groes i gymeriad tai traddodiadol. Credwyd y dylid cryfhau’r drefn â’r sylwadau sy’n cael eu derbyn gan yr AHNE ar geisiadau cynllunio.

-        Cyfeiriwyd at y gwaith cyfredol mae Partneriaeth Tirlun Llŷn yn ei wneud efo’r Strategaeth Cysylltedd i geisio gwella’r arfordir yn Llŷn yn sgil yr argyfwng natur a newid hinsawdd. Gwerthfawrogir pe bai’r Uned AHNE yn rhan o’r broses yma.

-        Credwyd y dylid cydnabod y dirywiad sylweddol sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd yn edrychiad yr AHNE ac yn yr iaith Gymraeg a’i bod yn bwysig nodi hyn yn yr adroddiad.

-        Cydnabuwyd bod cynefinoedd a gwarchod byd natur yn bwysig ond amlygwyd mai cynhyrchu bwyd yw prif nod y tirlun a dylid sicrhau bod digon o dir yn cael ei glustnodi i’r pwrpas hwn.

 

Mewn ymateb, nodwyd:

-        Bod y wybodaeth yn yr adroddiad o gyflwr yr AHNE wedi ei ddyddio. Nodwyd ei bod wedi bod yn heriol i’r ymgynghorwyr dod o hyd i wybodaeth ddiweddar. Bydd y Swyddog AHNE yn ceisio dilyn fyny efo Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn derbyn gwybodaeth ddiweddar ar gyfer y cynllun.

-        Bod yr uned AHNE yn ymgynghorydd ac yn darparu sylwadau ar geisiadau cynllunio. Credwyd y bydd cyfle i geisio dylanwadu pan fydd y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei ddiweddaru.

-        Bydd yr Uned AHNE yn dod i gysylltiad efo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynglŷn â chysylltedd ar hyd yr arfordir wrth adolygu’r cynllun.

-        Eglurwyd bod adroddiad llawn yn bodoli ond mae crynodeb yn unig sydd wedi ei gyflwyno i’r Cydbwyllgor. Nodwyd bod sylwadau am ddiwylliant ac iaith wedi eu hadnabod ac yn cael eu cynnwys yn y cynllun.

 

          PENDERFYNIAD

Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad ar Gynllun Rheoli’r AHNE.

 

8.

AELODAETH CYD-BWYLLGOR YMGYNGHOROL AHNE LLŶN pdf eicon PDF 118 KB

Bleddyn Jones, Swyddog AHNE i roi adroddiad ar Aelodaeth y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ar Aelodaeth y Cydbwyllgor Ymgynghorol.

Cofnod:

Darparwyd gwybodaeth am aelodaeth y Cydbwyllgor gan nodi bod trefn mewn lle i gyfnewid yr Aelodau o Gyngor Gwynedd yn dilyn yr etholiadau lleol. Cadarnhawyd yr Aelodau fydd yn derbyn lle ar y Cydbwyllgor ynghyd â’r Pencampwr Cefn Gwlad.

 

Soniwyd am y seddi gwag sy’n bodoli. Bydd y Swyddog AHNE yn ceisio ail gysylltu â rhai asiantaethau i weld os ydynt am anfon cynrychiolydd; cydnabuwyd bod rhai heb fynychu ers blynyddoedd. Darparwyd yr adroddiad am bresenoldeb yng nghyfarfodydd y Cydbwyllgor ers 2019 fel y gofynnwyd amdano yng nghyfarfod diwethaf y Cydbwyllgor.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:-

-        Nodwyd bod llai o Gynghorwyr yn bodoli ers yr etholiadau lleol ym mis Mai yn sgil newid ffiniau sydd wedi arwain at wardiau mwy. Holwyd os oes posib ail edrych ar yr aelodaeth i roi cynnig i fwy o Gynghorwyr allu mynychu.

-        Pryderwyd bod rhai Aelodau sydd â diddordeb mynychu yn methu allan oherwydd y system cylchdroi sy’n bodoli tra bod eraill sydd wedi derbyn lle ddim yn mynychu.

-        Holwyd pam bod y Cynghorydd dros ward Llanystumdwy ddim yn cael ei gynnwys o fewn yr aelodaeth o ystyried bod rhan o’r ward bellach o fewn ffiniau a thiriogaeth yr AHNE.

 

Mewn ymateb nodwyd:

-        Bod y Swyddog AHNE wedi derbyn cyngor cyfreithiol na fydd yn bosib gwahodd mwy o Gynghorwyr Cyngor Gwynedd i fod yn aelodau o'r Cydbwyllgor am ei bod yn bwysig cadw cydbwysedd rhwng Cynghorwyr Cyngor Gwynedd ac aelodau a chynrychiolwyr eraill. Credwyd bod y drefn bresennol o 6 Cynghorydd Cyngor Gwynedd â'r Pencampwr Cefn Gwald yn gweithio’n dda.

-        Bydd y Swyddog AHNE yn edrych mewn i’r mater o ward Llanystumdwy a ffiniau’r AHNE erbyn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNIAD

Derbyn yr adroddiad ar Aelodaeth y Cydbwyllgor Ymgynghorol.

 

9.

CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY pdf eicon PDF 102 KB

Wyn Williams, Rheolwr Cefn Gwlad i roi adroddiad ar Gynllun Gwella Hawliau Tramwy.

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad.

Cofnod:

Darparwyd yr adroddiad ar y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy i aelodau’r Cydbwyllgor er mwyn hysbysu’r Cydbwyllgor o’r bwriad ynghylch y Cynllun. Eglurwyd ei fod yn ddogfen strategol sy’n gosod cyfeiriad a blaenoriaethau ar gyfer y gwaith o gynnal a datblygu’r rhwydwaith hawliau tramwy ac asedau mynediad eraill yng Ngwynedd.

 

Esboniwyd bod CGHT newydd wedi ei baratoi; mabwysiadwyd y Cynllun gwreiddiol yn 2007. Adlewyrchai’r Cynllun newydd y newidiadau mewn adnoddau a deddfwriaeth ers y cyfnod hwnnw.

 

Nodwyd bod y CGHT newydd bellach yn fyw ar safle we’r Cyngor a bod modd darparu sylwadau ar y Cynllun yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus fydd yn parhau hyd at ganol fis Medi 2022. Ychwanegwyd bod neges wedi ei anfon i glercod Cynghorau Cymuned a Thref am yr ymgynghoriad a bydd Aelodau hefyd yn derbyn neges yn fuan. Y gobaith yw y gellir edrych ar ymatebion yr ymgynghoriad yn yr Hydref cyn symud ymlaen i fabwysiadu’r Cynllun.

 

Nid oedd sylwadau na chwestiynau gan yr aelodau.

 

          PENDERFYNIAD

Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad.

 

10.

Y GRONFA DATBLYGU CYNALIADWY pdf eicon PDF 108 KB

Morus Llwyd Dafydd, Swyddog Prosiect AHNE i roi diweddariad i aelodau ar y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, ac i ethol aelodau newydd i’r Panel Grantiau.  

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad am sefyllfa’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

b)    Enwebwyd y Cynghorydd Angela Russell i gymryd y sedd wag ar y Panel.

Cofnod:

Darparwyd diweddariad i’r Cydbwyllgor am sefyllfa’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy hyd yma a’r datblygiadau sydd ar y gweill. Cyfeiriwyd at wariant blwyddyn ariannol 2021/22 gan adrodd bod £100,000 yn y Gronfa a llwyddwyd i ddyrannu’r cyfan.

 

Cadarnhawyd bod cyllideb wedi ei gadarnhau ar gyfer y dair mlynedd nesaf. Golyga hyn bod £100,000 yn y gronfa ar gyfer 2022/23 a chyllideb o £100,000 ar gael ar gyfer 2023/24 a 2024/25. Eglurwyd bod hyn yn rhoi cyfle i brosiectau gael eu hariannu dros gyfnod o ddwy neu dair blynedd pe bai angen.

 

Ychwanegwyd bod Llywodraeth Cymru wedi newid Rheoliadau’r Gronfa gan roi mwy o bwyslais ar y Ddeddf Llesiant yn ogystal â blaenoriaethu prosiectau sy’n cyd-fynd ar themâu Adfer Natur a Dad-garboneiddio. Nodwyd bod y gwaith o hyrwyddo’r Gronfa eisoes wedi dechrau ac anogir yr aelodau i rannu gwybodaeth am y cyfle i ymgeisio am grantiau o’r gronfa.

 

I gloi eglurwyd bod angen ethol aelodau newydd i’r Panel Grantiau. Esboniwyd bod lle i 8 aelod o’r Cydbwyllgor Ymgynghorol i fod yn aelodau o’r Panel Grantiau. Yn dilyn arweiniad, awgrymwyd i bedwar o’r aelodau blaenorol barhau a dewis pedwar aelod newydd. Nodwyd mai’r bwriad yn y dyfodol fydd i gyfnewid dau aelod o’r Panel Grantiau bob dwy flynedd. Gofynnwyd i’r Cydbwyllgor dderbyn y wybodaeth ac ethol aelodau newydd i’r Panel Grantiau.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:-

-        Holwyd am y sefyllfa ynglŷn â chael cworwm. Yn ogystal gofynnwyd pam na chaiff holl aelodau’r Cydbwyllgor Ymgynghorol fod yn aelodau o’r Panel Grantiau.

-        Mynegwyd awydd gan aelodau presennol o’r Panel Grantiau i barhau i fod yn aelodau, nid oedd awydd gan neb i sefyll lawr.

-        Gwnaethpwyd cynnig gan yr Aelodau i gadw aelodaeth y Panel Grantiau fel ag yr oedd gan gynnig lle i un aelod newydd i lenwi’r sedd wag. Gofynnwyd a oedd hyn yn dderbyniol gan y Swyddog AHNE.

-        Mynegwyd sylw bod llawer o brosiectau bach angen eu hariannu yn Llŷn a gofynnwyd a oedd modd cadw swm penodol ar gyfer prosiectau sy’n gofyn am £1,000 neu lai. Teimlwyd bod prosiectau bach yn dueddol o golli allan am eu bod yn gofyn am symiau weddol isel.

 

Mewn ymateb, nodwyd:

-        Mai 1/3 yw cworwm felly bydd angen o leiaf traean o aelodau’r Panel Grantiau fod yn bresennol ymhob cyfarfod.

-        Eglurwyd bod 8 aelod ar y Panel Grantiau eisoes yn nifer uchel o gymharu ag AHNE eraill e.e. Môn sydd â 3 aelod. Atgoffwyd yr aelodau mai 6 aelod oedd yn arfer cynrychioli’r Panel Grantiau ond codwyd nifer yr aelodau i 8 a chredwyd bod y nifer yma wedi gweithio’n dda.

-        Eglurodd y Swyddog AHNE bod 1 sedd wag ar y Panel Grantiau. Bydd angen i 3 aelod presennol o’r Panel sefyll lawr ac yna enwebu 4 cynrychiolydd newydd.

-        Nododd y Swyddog AHNE bod y rheoliadau gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu cylchdroi aelodau’r Panel Grantiau ond os yw pawb yn gytûn bod modd gweithredu’r hyn a ddymunir efo aelodau presennol yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.