Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiadau o ymddiheuriad gan Robert Parkinson (Ymddiriedolaeth Genedlaethol), Morgan Jones-Parry (Fforwm Mynediad Arfon a Dwyfor), Wenda Williams (Cyngor Cymuned Aberdaron), Einir Wyn (Cyngor Cymuned Llanengan), Euros Jones (FWAG Cymru), Lea Elin Connelly (Arweinydd Tîm Bioamrywiaeth), Sian Parry (Cyngor Cymuned Tudweiliog) a’r Cynghorydd Dafydd Davies.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellr eu hystyried.

Cofnod:

Atgoffwyd yr aelodau bod ‘Llygad Llŷn’, newyddlen flynyddol yr AHNE yn cael ei gyhoeddi dros yr wythnosau nesaf a gofynnwyd am gymorth yr aelodau i godi ymwybyddiaeth amdano.

 

Hysbyswyd yr aelodau bod Wyn Williams (Rheolwr Cefn Gwlad) yn ymddeol mewn rhai wythnosau. Cytunwyd i yrru diolchiadau aelodau’r pwyllgor ato cyn ei ymddeoliad.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 375 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2022, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Cydbwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2022, fel rhai cywir.

 

5.

CYNLLUN GWEITHREDU ADFER NATUR pdf eicon PDF 190 KB

I rannu Gwybodaeth ag Aelodau o amcanion sydd wedi eu cynnwys oddi fewn Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cyngor Gwynedd ac AHNE Llŷn.

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad gan nodi sylwadau a godwyd yn y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn  er gwybodaeth i’r Aelodau. Eglurwyd bod cynllun gweithredu adfer natur yn weithredol ar draws awdurdodau lleol Cymru a bod ymgynghorydd wedi cael ei benodi er mwyn cynorthwyo i baratoi’r cynllun yng Ngwynedd yn unol â dyletswydd y Cyngor.

Adroddwyd bod cyfnod ymgynghorol y cynllun yn dechrau dros yr wythnosau nesaf ac anogir ir aelodau gwblhau’r ymgynghoriad yn ogystal ag annog unigolion o fewn eu cymunedau i’w gwblhau.

 

Cadarnhawyd byddai’r holiadur ymgynghorol hwn hefyd yn cael ei ddosbarthu yn ystod Sioe Nefyn a gynhelir  ar y 1af o Fai eleni er mwyn derbyn barn y cyhoedd ar yr argyfwng byd natur o fewn Gwynedd ac o fewn yr AHNE.

 

Rhannwyd nifer o safbwyntiau gwahanol am flaenoriaethau a phrosesau adfer natur a rhoddwyd sylw i amrywiol syniadau. Pwysleisiwyd yr angen i’r Aelodau gwblhau’r holiadur ymgynghorol er mwyn sicrhau bod eu safbwyntiau yn cael eu hystyried ar y cyd gyda safbwyntiau’r cyhoedd.

 

          PENDERFYNIAD

 

Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad gan nodi sylwadau a godwyd yn y drafodaeth.

 

6.

CYNLLUN STRATEGOL AR GYFER YR ECONOMI YMWELD. pdf eicon PDF 318 KB

Bleddyn Jones, Swyddog AHNE, i gyflwyno adroddiad ar Gynllun Strategol ar gyfer Yr Economi Ymweld.

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn  er gwybodaeth i’r Aelodau. Eglurwyd bod Cyngor Gwynedd wedi bod yn cydweithio gyda Pharc Cenedlaethol Eryri er mwyn creu cynllun strategol i wireddu gweledigaeth ac egwyddorion Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035.

 

Adroddwyd bod effeithiau twristiaeth o ganlyniad i Pandemig Covid-19 wedi cynyddu’r effaith ar ddiwylliant ac yr amgylchedd. Ystyriwyd bod effeithiau pryderus i’r iaith, trafnidiaeth ac economi wledig yn ogystal â thensiynau mewn rhai ardaloedd oherwydd niferoedd digynsail o ymwelwyr.

 

Cadarnhawyd bod Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo’r cynllun strategol yn dilyn cyfnod o ymgynghoriad o’r pryderon ar y cyd gyda Parc Cenedlaethol Eryri. Eglurwyd mai’r weledigaeth a osodwyd ar gyfer Cynllun Strategol Gwynedd ac Eryri yw ‘Economi ymweld er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri’.

 

Manylwyd ar egwyddorion ac amcanion y cynllun sef:

1.     Dathlu, Parchu a Gwarchod ein Cymunedau, Iaith, Diwylliant a Threftadaeth.

2.     Cynnal a Pharchu ein Hamgylchedd.

3.     Sicrhau bod cymunedau Gwynedd ac Eryri’n cael mwy o fantais nac anfantais.

 

Cadarnhawyd bod copi llawn o’r cynllun strategol i’w weld ar wefan y Cyngor.

 

Mewn ymateb i ymholiad am rôl yr AHNE wrth weithredu’r cynllun, cadarnhaodd Swyddog AHNE Llŷn bod yr uned wedi bod yn rhan o grŵp tasg a oedd yn cydweithio i i’w baratoi. Er mwyn cael eglurder ar rôl yr AHNE wrth weithredu’r cynllun, bydd swyddogion yn trafod gyda’r Tîm Twristiaeth ac yna adrodd yn ôl i’r Aelodau.

 

PENDERFYNIAD

 

          Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad.

 

7.

PROSIECT TIRWEDDAU CYNALIADWY LLEOEDD CYNALIADWY. pdf eicon PDF 128 KB

Bleddyn Jones, Swyddog AHNE i gyflwyno adroddiad ar Brosiect Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy.

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad ar Aelodaeth y Cydbwyllgor Ymgynghorol.

b)    Ystyried aelodaeth Panel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn  er gwybodaeth i’r Aelodau. Eglurwyd mai gwybodaeth am brosiectau cyfalaf yn unig sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac  bod nhw wedi cael eu ariannu drwy gynllun Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

 

Eglurwyd bod Tirwedd Dynodedig Cymru wedi cyflwyno prosiectau ar gyfer y cyfnod 2022-25. Manylwyd bod rhain wedi cael eu cyflwyno o fewn y themâu a osodwyd sef: Bioamrywiaeth ac adfer natur, Dad-garboneiddio, Cymunedau gwydn a gwyrdd a Thwristiaeth Gynaliadwy. Cadarnhawyd mai’r prosiectau ar gyfer AHNE Llŷn oedd:

-      Cylchdaith Gyrn Goch

-      Fan drydan Warden yr AHNE

-      Tir Comin Rhos Botwnnog, Foel Gron Mynytho a Horeb/Mynytho

-      Canolfan Llithfaen

-      Gwelliannau Mynediad i safleoedd Mynydd Tir y Cwmwd, Porth Ysgo a Phorthor ar y cyd gyda Llwybr Arfordir Cymru.

-      Terfynau Traddodiadol (waliau cerrig, cloddiau a gwrychoedd)

-      Yr Awyr Dywyll

 

Soniwyd bod prosiectau eraill wedi cael eu datblygu drwy arian a dderbyniwyd gan Gyngor Gwynedd a Chyfoeth Naturiol Cymru. Trafodwyd gwaith cadarnhaol gyda gwirfoddolwyr yn ddiweddar i ail-sefydlu llwybrau a chodi sbwriel.

 

Nodwyd bod swyddogion yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r AHNE megis drwy rannu diweddariadau ar y wefan, cyfryngau cymdeithasol ac yng nghylchgrawn ‘Llygad Llŷn’.

 

          PENDERFYNIAD

 

          Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad.

 

8.

Y GRONFA DATBLYGU CYNALIADWY pdf eicon PDF 112 KB

Morus Llwyd Dafydd, Swyddog Prosiect AHNE i roi diweddariad ar Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

Penderfyniad:

a)    To accept the report on the Membership of the Consultative Joint Advisory Committee.

b)    To consider the membership of the Sustainable Development Fund Panel at the next meeting of the Joint Committee

 

Cofnod:

The report was submitted by the Llŷn AONB Officer for Members' information.  It Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn  er gwybodaeth i’r Aelodau. Adroddwyd bod £100,000 yn y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ar ddechrau blwyddyn ariannol 2022/23 ac llwyddwyd i ddyrannu £92,149.52 ohono i brosiectau teilwng. Eglurwyd bod hyn yn arwain at tanwariant bychan o £7,850.48.

 

Cadarnhawyd mai’r prosiectau a gefnogwyd yn ystod y flwyddyn diwethaf yw:

-      Amgueddfa Forwrol Llŷn

-      Bws Fflecsi Llŷn

-      Giât Mynwent Llandegwnning

-      Gŵyl R S Thomas

-      Eglwys Newydd Aberdaron

-      Arddangosfa Sarn

-      Clwb Hwylio Aberdaron

-      Cae Chwarae Llithfaen

-      Ffenestri Hafod Ceiri

-      Arolwg Archeolegol Coedlan Carl

-      Maes Parcio Aberdesach

-      Melin Daron

-      Sied Plas Carmel

-      Hysbysfyrddau Cymuned Aberdaron

-      Cyflenwyr Dosbarthu Bagiau Baw Cŵn

-      Neuadd Abersoch.

 

Cadarnhawyd bod cyllideb i ariannu prosiectau dros gyfnod o ddwy flynedd yn hytrach na blwyddyn (rhwng 2023-25), os oes angen, gan bod cyllid o £100,000 ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 ac £100,000 arall wedi ei ganiatáu ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.

 

Nodwyd bod canllawiau mwyaf diweddar Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o bwyslais ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac oherwydd hyn yn rhoi blaenoriaeth i brosiectau sydd yn cyd fynd â themâu ‘adfer natur’ a ‘dad-garboneiddio’.

 

Pwysleisiwyd bod y gwaith o hyrwyddo’r cyfle i ymgeisio am grant o’r Gronfa Cynaliadwy eisoes wedi dechrau ac anogwyd yr aelodau i rannu gwybodaeth am y cyfleoedd ymhellach.

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau Panel y Gronfa Cynaliadwy i sefyll i lawr er mwyn rhoi cyfle i aelodau eraill o’r Cyd-bwyllgor os dymunent.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan yr Aelodau:

-      Bu i gynrychiolwyr Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig a Chyngor Cymuned Clynnog Fawr gynnig sefyll i lawr o Banel y Gronfa Cynaliadwy os oedd unrhyw un yn awyddus i fod yn rhan ohono.

-      Ystyriwyd os oes modd denu sefydliadau gwahanol i fod yn aelodau o’r Panel er mwyn sicrhau trawstoriad eang wrth ystyried ceisiadau.

 

          Mewn ymateb, nodwyd:

-      Bod nifer o sefydliadau yn rhan o Aelodaeth y Cyd-bwyllgor hwn. Atgoffwyd bod aelodaeth y Panel yn aelodau’r Cyd-bwyllgor ac felly bydd unrhyw drawstoriad yn deillio o sefydliadau sy’n rhan o’r Cyd-bwyllgor.

-      Diolchwyd i’r ddau gynrychiolydd am gynnig sefyll i lawr. Penderfynwyd ail-ymweld ag aelodaeth y Panel yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor er mwyn cynnal y drafodaeth ble mae mwy o’r cynrychiolwyr yn bresennol.

 

PENDERFYNIAD

a)    Derbyn yr adroddiad ar Aelodaeth y Cydbwyllgor Ymgynghorol.

b)    Ystyried aelodaeth Panel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor.

 

9.

DYNODIAD AWYR DYWYLL pdf eicon PDF 220 KB

Morus Llwyd Dafydd, Swyddog Prosiect AHNE i gyflwyno Gwybodaeth ar y bwriad o weithio tuag at cais statws Awyr Dywyll i ardal Pen draw Llŷn.

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad a chefnogi bwriad yr Uned AHNE i weithio tuag at wneud cais am ddynodiad Awyr Dywyll i ardal Pen draw Llŷn, gyda ymgynghoriaeth â chymunedau Pen draw Llŷn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn  gan nodi bod Uned AHNE wedi bod yn gweithio ers peth amser i ymgeisio am statws Awyr Dywyll Rhyngwladol ar gyfer Llŷn. Eglurwyd bod  casglu data yn sialens fawr gan bod ardal AHNE Llŷn yn eang iawn. Manylwyd bod yr uned yn canolbwyntio ar ardal Pen draw Llŷn ar drwyn y penrhyn er mwyn derbyn y dynodiad Awyr Dywyll Rhyngwladol yn hytrach na’r ardal gyfan.

 

Cadarnhawyd bod Ynys Enlli wedi ei ddynodi’n Noddfa Awyr Dywyll ym mis Chwefror Eleni ac mai’r fan honno yw’r cyntaf yn Ewrop i dderbyn y dynodiad. Adroddwyd bod newyddion o’r dynodiad yma wedi codi ymwybyddiaeth pobl am yr ynys ac ardal Llŷn ac gobeithir byddai dynodiad Awyr Dywyll yn fuddiol i ardal Pen draw Llŷn yn yr un modd.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan yr Aelodau:

-      Holiwyd os yw’r mater hwn wedi cael ei drafod yng nghyfarfod Cyngor Cymuned Aberdaron.

-      Manylwyd ar faterion eraill i’w hystyried megis diogelwch a’r angen i gael goleuadau penodo mewn rhai mannau o’r ardal.

 

          Mewn ymateb, nodwyd:

-      Bod y swyddogion yn gobeithio derbyn cefnogaeth y Cyd-bwyllgor i weithio tuag at gwblhau cais am Ddynodiad Awyr Dywyll. Cadarnhawyd nad oes unrhyw waith wedi cael ei gwblhau i weithio tuag at y dynodiad hwn ar hyn o bryd na unrhyw gais wedi cael ei gwblhau. Manylwyd bod ymgynghori gyda’r gymuned yn elfen bwysig o’r gwaith ac felly bydd trafodaethau yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Aberdaron yn allweddol i weld os bydd y gymuned yn cefnogi’r bwriad i wneud cais am ddynodiad neu beidio.

-      Sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch ym mhob sefyllfa. Trafodwyd bod Prosiect Nos yn cydweithio yn dda gydag amryw o fusnesau a sefydliadau i addysgu am lygredd golau a’r dulliau i’w leihau gan barhau i oleuo lleoliadau yn effeithiol.

-      Ymhelaethwyd bod cydweithio clos yn digwydd rhwng yr Uned AHNE a swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd er mwyn gosod amodau sy’n ymwneud â goleuo ar geisiadau newydd pan fo’n addas. Eglurwyd er bod yr amodau hyn yn cael eu gosod mae diffygion recriwtio diweddar wedi arwain at lai o swyddogion gorfodaeth ac yn golygu bod rhai problemau yn parhau i godi.

 

          PENDERFYNIAD

 

Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad a chefnogi bwriad yr Uned AHNE i weithio tuag at wneud cais am ddynodiad Awyr Dywyll i ardal Pen draw Llŷn, gyda ymgynghoriaeth â chymunedau Pen draw Llŷn.