skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2015/16.

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn Gadeirydd am 2015/16.

 

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2015/16.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd R H Wyn Williams yn Is Gadeirydd am 2015/16.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Stephen Churchman, Dyfed Edwards a John Wyn Williams

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Datganodd y canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir:

 

Dilwyn Williams ar gyfer yr eitem 7.  Nododd nad oedd yna unrhyw fwriad i drafod cyflog y Prif Weithredwr ond gan fod ei gyflog yn cael ei nodi yn y Polisi Tal, pe byddai yna unrhyw drafodaeth ar y mater hwnnw, byddai’n gadael y cyfarfod. 

 

Geraint Owen (Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol) yn eitem 7 ar y rhaglen gan fod ei swydd yn cael ei ystyried yn swydd prif swyddog ac felly yn destun y Polisi Tal.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 83 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o'r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir:-

 

(a)       24 Chwefror, 2015

(b)       6 Mawrth, 2015

(c)       26 Mawrth, 2015

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24.2.15, 6.3.15 a 26.3.15 fel rhai cywir

 

7.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TÂL Y CYNGOR pdf eicon PDF 75 KB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Polisi Tâl gan y Prif Weithredwr. Eglurwyd bod dyletswydd statudol ar  holl gynghorau Cymru i fabwysiadu Polisi Tâl i’w staff yn flynyddol. Mae’r ddarpariaeth statudol yn ei gwneud hi’n ofynnol i hyn fod yn swyddogaeth y Cyngor Llawn.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor Penodi gynghori’r Cyngor ar ei Bolisi Tâl ar gyfer 2016/17. Bydd y Polisi Tâl yn cael ei ystyried gan y Cyngor Llawn ar Fawrth y 3ydd.

 

Yn ei gyflwyniad, amlygodd y Prif Weithredwr mai ychydig iawn o addasiadau oedd i’r polisi tal ar gyfer 2016/2017. Amlygwyd nad oedd newidiadau pellach i gyfrifoldebau ar lefel Penaethiaid Adran a Chyfarwyddwyr Corfforaethol wedi eu cyflwyno yn ystod 2015/2016, ac felly nid oedd arfarniad o’r newydd wedi ei gynnal ar  gyfer 2016/2017. Cyfeiriwyd at y polisi presennol sydd yn nodi’r angen i feincnodi cyflogau Prif Swyddogion yn erbyn y farchnad. Nodwyd bod y mater wedi ei drafod gyda’r Penaethiaid a’r Cyfarwyddwyr a bod pawb yn gytûn nad oedd yn amserol, yn wyneb yr hinsawdd gyllidol, i  adolygu’r meincnodau  eleni. 

 

Yng nghyd-destun y cyflogau isaf nodwyd bod Canghellor y Trysorlys mewn datganiad cyllidebol ar yr 8fed o Orffennaf 2015 wedi nodi'r angen i osod £7.20 yr awr fel ‘cyflog byw’ oddi ar y 1af o Ebrill, gan godi i £9.00 yr awr erbyn Ebrill 2020 (ar gyfer gweithwyr 25 oed a hyn). O ganlyniad bydd rhaid ystyried beth fydd yr ardrawiad  ar y Cyngor a’r costau sylweddol fydd yn ei wynebu. Gydag incwm y Cyngor yn un sydd wedi ei osod, ymddengys mai toriadau pellach fydd effaith hyn.

 

Amlygwyd bod y ‘Cyflog Byw’ yn ddiffiniad gan y Sefydliad Cyflog Byw - sefydliad cyhoeddus wedi ei sefydlu i gynnig fformiwla ddamcaniaethol o gyfuniad  oriau, tal a lleoliadau ar draws y wlad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r mater nad yw’r Cyngor yn eithrio cyn swyddogion gael eu hail gyflogi, nodwyd na ellid rhoi cymal yn y datganiad ar sail eithriad. Ychwanegwyd bod y nifer o swyddogion sydd yn cael eu hail gyflogi yn isel iawn (yn cael eu cyflogi yn achlysurol, wrth gefn neu ar gyfer prosiectau penodol). Amlinellwyd bod hyn yn berthnasol i weithwyr llywodraeth leol yn unig ac nad oedd  yn cynnwys staff ysgolion. Awgrymwyd bod posib adrodd ar hyn petai’r Pwyllgor yn dymuno hyn.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr argymhelliad

 

Diolchwyd i’r Prif Weithredwr am y cyflwyniad.

 

DERBYNIWYD YR ADRODDIAD YN UNFRYDOL YN UNOL Â’R ARGYMHELLION ISOD.

 

·         Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal (draft) i’r Cyngor fel un i’w fabwysiadu  ar gyfer 2016 / 17.