Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd ar gyfer
2016/17 Cofnod: Penderfynwyd ethol
y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn
Gadeirydd am 2016/17. |
|
ETHOL IS GADEIRYDD Ethol Is gadeirydd ar gyfer
2016/17. Cofnod: Penderfynwyd ethol
y Cynghorydd R H Wyn Williams yn
Is Gadeirydd am 2016/17. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 25.2.16
fel rhai cywir . Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 25 o Chwefror 2016 fel rhai cywir. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel
y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol
1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O
ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A,
Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr
adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth
bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o
blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. |
|
LLENWI SWYDD WAG PENNAETH OEDEOLION, LECHYD A LLESIANT Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr (ar gyfer aelodau’r
Pwyllgor yn unig) Cofnod: Yn dilyn, ymddeoliad cynnar Mrs Gwenan Parry, Pennaeth
Oedolion, Iechyd a Llesiant oherwydd
salwch hir dymor, cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn argymell y
Pwyllgor i ystyried dau opsiwn ar gyfer llenwi'r swydd. Cymerwyd y cyfle i ddiolch i Mrs Gwenan
Parry am y gwasanaeth a roddodd i drigolion Gwynedd a dymunwyd y gorau iddi ar
gyfer y dyfodol. Yn dilyn trafodaeth am yr opsiynau, ynteu i hysbysebu’n
allanol neu gadarnhau Mr Aled Davies i’r swydd yn barhaol (ac yntau wedi bod yn
gwneud y swydd dros dro ers 18 mis), cynigiwyd ac eiliwyd i Mr Aled Davies fod
yn Bennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant ar gytundeb parhaol. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL CADARNHAU MR ALED DAVIES I SWYDD PENNAETH
OEDOLION, IECHYD A LLESIANT YN BARHAOL Yn dilyn y penderfyniad, nodwyd y byddai swydd y Pennaeth Rheoleiddio bellach yn dod
yn rhydd a bod angen symud ymlaen
i lenwi’r swydd drwy hysbysebu yn y ffordd arferol. |