skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Dyfed Edwards, Trevor Edwards,  Selwyn Griffiths a Brian Jones

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 58 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16.09.16 fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 o Fedi 2016 fel rhai cywir.

 

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

6.

LLUNIO RHESTR FER AR GYFER PENODI PENNAETH RHEOLEIDDIO

Ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr.

 

Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu at Aelodau’r Pwyllgor yn unig

 

 

Cofnod:

Adroddodd y Cadeirydd bod pum cais  wedi eu derbyn am y swydd a bod hyn yn galonogol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chostau cynnal canolfan asesu, cadarnhaodd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol nad oedd costau'r Ganolfan asesu yn cael eu cyfrifo ar sail cost y pen a  nododd y Prif Weithredwr  bod cynnal canolfan asesu yn greiddiol i broses penodi Penaethiaid er mwyn  sicrhau ansawdd a derbyn barn annibynnol.  Byddai cost dod i benderfyniad anghywir lawer uwch i drigolion Gwynedd.

 

Trafodwyd y ceisiadau yn unol â gofynion y swydd gan ganolbwyntio ar y prif gymwyseddau.

 

PENDERFYNWYD RHOI PEDWAR YMGEISYDD AR Y RHESTR FER

 

 

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y cyfweliadau i’w cynnal Tachwedd 8fed 2016 a chytunwyd  i estyn gwahoddiad i’r Aelod Cabinet perthnasol.

 

CWESTIYNAU AR GYFER Y CYFWELIAD

 

Dosbarthwyd pum cwestiwn a thestun cyflwyniad  ar gyfer y cyfweliad.

 

PENDERFYNWYD  bod y cwestiynau yn addas.