Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd ar gyfer 2017/18 Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd W Gareth Roberts yn
Gadeirydd am 2017/18. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is gadeirydd ar gyfer
2017/18. Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn
Is Gadeirydd am 2017/18. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Peredur Jenkins, Eric M. Jones, Dyfrig Siencyn ac Ioan Thomas |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim
i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16.02.2017 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion
cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 o Chwefror 2017 fel rhai cywir. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r
cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei
fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff
12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn
berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol
sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am
ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd
cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. Cytunwyd bod yr Aelod Cabinet
perthnasol yn cael bod yn bresennol i wrando ar y drafodaeth |
|
LLUNIO RHESTR FER AR GYFER PENODI PENNAETH ADDYSG Ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr. Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn unig Cofnod: Adroddodd y Cadeirydd mai un cais
yn unig oedd wedi ei dderbyn am y swydd. Awgrymodd bod modd ynteu: - Parhau i dynnu rhestr fer - Ystyried ail hysbysebu Cynigwyd ac eiliwyd parhau gyda
llunio rhestr fer Mewn ymateb i sylw pam nad oedd Penaethiaid Ysgolion Cynradd ac Uwchradd
wedi ceisio am y swydd, adroddodd y Prif Weithredwr y byddai’n cynnal arolwg ymysg Penaethiaid i geisio
sefydlu pam nad oedd mwy o geisiadau yn cael eu derbyn, er mwyn ceisio
darganfod atebion ar gyfer y dyfodol. PENDERFYNWYD RHOI YR YMGEISYDD AR Y
RHESTR FER Atgoffwyd yr Aelodau bod y cyfweliadau i’w cynnal Tachwedd 8fed 2017 CWESTIYNAU AR GYFER Y CYFWELIAD Dosbarthwyd pum cwestiwn a thestun
cyflwyniad ar gyfer y cyfweliad. PENDERFYNWYD anfon sylwadau am y cwestiynau yn uniongyrchol at y Prif
Weithredwr |