Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2018/19 COFNODION: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd W Gareth Roberts yn
Gadeirydd am 2018/19. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2018/19 COFNODION: PENDERFYNWYD peidio ethol Is-gadeirydd am y
cyfnod 2018/2019 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr R Medwyn Hughes, Eryl
Jones-Williams, Mair Rowlands, Dyfrig Siencyn a Gethin Glyn Williams |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Datganodd y
canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir: Dilwyn Williams
(Prif Weithredwr) a Geraint Owen (Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol) yn eitem 5
ar y rhaglen gan ei bod yn brif swyddogion ac felly yn destun y Polisi Tâl – y
naill oherwydd y rhan yn ymwneud a chyflog y Prif Weithredwr a’r llall oherwydd
y rhan yn ymwneud a chyflogau prif swyddogion. Pe byddai yna unrhyw drafodaeth
ar y materion perthnasol, byddent yn ymadael a’r ystafell. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 14 Chwefror
2018 fel rhai cywir COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 14.02.18 fel rhai cywir |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL - POLISI TÂL Y CYNGOR PDF 65 KB Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi bod dyletswydd statudol ar y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion
i gyflwyno eu hargymhellion yn dilyn adolygu’r polisi tâl i’r Cyngor Llawn yn
flynyddol. Amlygwyd nad oedd addasiadau
i’r polisi eleni, ond yn unol â chyfansoddiad y Cyngor roedd angen ystyried y
polisi. Er nad oedd
addasiadau i’r polisi tynnwyd sylw at rai materion. Nodwyd, yn unol â Chytundeb
Tâl Cenedlaethol (cyfnod cytundeb dwy flynedd) bydd isafswm cyflog y Cyngor yn
codi o £8.62 i £9.18 yr awr erbyn Ebrill 2019. Ategwyd mai lleiafrif bychan o
swyddi fydd yn disgyn o fewn y pwynt isaf gyda rhan helaeth ar £9.55 neu uwch.
Adroddwyd, er enghraifft, bod gofalwyr yn cael eu cyflogi ar raddfa £9.36 -
£9.55ya gyda’r gallu i gyrraedd £9.55ya ar ôl blwyddyn o gyflogaeth. Atgoffwyd
yr Aelodau mai £9.00ya yw’r isafswm cyflog sydd yn cael ei ystyried fel Cyflog
Byw gan y corff gwirfoddol “Sefydliad Cyflog Byw”, ond gyda’r penderfyniad
lleol blaenorol i ddileu'r ddau bwynt isaf oddi ar y strwythur tâl
cenedlaethol, £9.18ya fydd isafswm cyflog Cyngor Gwynedd oddi ar y 1af o
Ebrill, 2019. Ategwyd y byddai hyn, o ganlyniad, yn golygu bod Cyngor Gwynedd,
am y tro cyntaf, yn talu cyflog uwchlaw’r Cyflog Byw o £9.00ya sydd yn fater y
gall y Cyngor ymfalchïo ynddo. Tynnwyd sylw at
faterion eraill oedd wedi eu diweddaru yn y polisi sef materion a gytunwyd
arnynt yn ystod y flwyddyn fel rhan o’r cytundeb torfol gyda’r undebau llafur.
O ganlyniad nodwyd bod yr amodau gwaith wedi eu moderneiddio a’u cysoni. Diolchwyd i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol am y cyflwyniad. Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â phrinder Gofalwyr a’r awgrym o gynyddu’r cyflog i £10.00ya fel
bod mwy o statws i’r swydd, adroddwyd y byddai rhaid cysoni graddfeydd cyflogau
ar draws y Cyngor i weithredu hyn er mwyn sicrhau tegwch a chyflog cyfartal.
Atgoffwyd yr Aelodau bod y Cyngor wedi
cwblhau Adolygiad Tâl Lleol yn 2008 wnaeth osod seiliau cadarn ar gyfer sicrhau
tal cyfartal am waith o werth cyfartal ar gyfer yr holl weithlu ac os am
gynyddu cyflog ar gyfer gofalwyr, byddai’n ofynnol rhoi ystyriaeth i bawb arall
fyddai â chyfrifoldebau cyfatebol. Amlygwyd y buddsoddiad sylweddol a wnaed
mewn cyflogau gan y Cyngor trwy adrodd bod cyfanswm cost y codiadau cyflog yn
2018/19 yn £4.1m gyda swm cyfatebol eto wedi’i glustnodi ar gyfer codiadau
Ebrill 2019. Ategwyd bod cynnydd cyffredinol o 2% ar gyflogau 2019/2020 gyda
staff o dan bwynt 19 yn derbyn codiadau o hyd at 5.5%. Nodwyd bod darn o
waith o gasglu tystiolaeth yn cael ei wneud gan y Gwasanaeth Oedolion i geisio
deall natur y broblem o recriwtio Gofalwyr ar draws y Sir. Er yr ymddengys bod
cwmnïau preifat yn talu cyflog uwch, maent yn cyfrannu llai at bensiwn y
gweithiwr. I’r gwrthwyneb, gwelir bod y Cyngor yn talu llai o gyflog, ond yn
cynnig pecyn pensiwn gwerthfawr. Awgrymwyd yr angen i’r Cyngor amlygu
buddiannau’r cynllun pensiwn. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chanrannau codi cyflog a’r gymhareb rhwng ... view the full COFNODION text for item 7. |