Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd ar gyfer 2019/20 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dafydd Meurig yn Gadeirydd am 2019/20. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is gadeirydd ar gyfer 2019/20. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn Is-gadeirydd am y cyfnod 2019/2020 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr R Medwyn
Hughes, R Glyn
Daniels, Selwyn Griffiths, Mair Rowlands a Dyfrig Siencyn |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 14
Chwefror 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14.02.19 fel rhai cywir |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol gan
ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r
paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am
unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus
sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad
mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig Cofnod: PENDERFYNWYD
cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem
ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth
am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus
sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad
mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. |
|
LLUNIO RHESTR FER AR GYFER PENODI PENNAETH PRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL Ystyried ceisiadau
gan ymgeiswyr. Pecyn gwybodaeth
a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu
i Aelodau’r Pwyllgor yn unig Cofnod: Amlygwyd
pryder gan aelod yn nifer y ceisiadau ar gyfer swyddi allweddol ac awgrymwyd y
dylid hysbysebu yn allanol er mwyn ceisio mwy o ddiddordeb. Mewn ymateb, nododd
y Prif Weithredwr bod hwn yn rhan o’r broses o gyflawni arbedion ac na fyddai modd
gwneud hynny pe byddem yn mynd tu allan i’r Cyngor i benodi. Ar ben hynny roedd angen cydnabod a rhoi
cyfleoedd i staff y Cyngor ac roedd yn hyderus fod yna ddeunydd yn y ceisiadau
fyddai’n gwneud Penaethiaid da. Adroddodd y Cadeirydd bod un cais wedi ei dderbyn am y swydd oedd
wedi ei hysbysebu yn fewnol yn unig. Trafodwyd y cais yn unol â
gofynion y swydd gan ganolbwyntio ar y prif gymwyseddau. PENDERFYNWYD
BOD YR YMGEISYDD YN GYMWYS I’W ROI AR Y RHESTR FER |
|
LLUNIO RHESTR FER AR GYFER PENODI PENNAETH TAI AC EIDDO Ystyried ceisiadau
gan ymgeiswyr. Pecyn gwybodaeth
a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu
i Aelodau’r Pwyllgor yn unig Cofnod: Nododd y Prif Weithredwr ei fod wedi cynnal adolygiad
o drefniadau rheolaethol y Cyngor er mwyn ceisio cyfarch arbedion
effeithlonrwydd. I wireddu’r amcanion hynny, a dymuniad y Cabinet i roi
blaenoriaeth i’r Strategaeth Tai, penderfynwyd creu Adran Tai ac Eiddo.
Byddai’r Pennaeth llwyddiannus yn arwain ar brosiectau o adeiladu tai ar gyfer
pobl Gwynedd. Adroddodd y Cadeirydd bod dau gais wedi ei dderbyn am y swydd, oedd
wedi ei hysbysebu yn fewnol yn unig. Trafodwyd y ceisiadau yn unol â
gofynion y swydd gan ganolbwyntio ar y prif gymwyseddau. PENDERFYNWYD
BOD YR YMGEISWYR YN GYMWYS I’W RHOI AR Y RHESTR FER Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â chostau cynnal canolfan asesu, cadarnhaodd y Pennaeth Cefnogaeth
Gorfforaethol nad oedd costau'r Ganolfan asesu yn cael eu cyfrifo ar sail cost
y pen. Nododd y Prif Weithredwr bod cynnal canolfan asesu yn greiddiol i broses
penodi Penaethiaid er mwyn sicrhau
ansawdd a derbyn barn annibynnol. Byddai
cost dod i benderfyniad anghywir lawer uwch i drigolion Gwynedd. Ategwyd bod y
darparwr gwreiddiol, a oedd yn cynnal gwasanaeth yn y Gymraeg, bellach wedi ymddeol. O ganlyniad,
adroddwyd y byddai trefniant newydd yn
cael ei brofi drwy ddefnyddio cwmni allanol i gynnal y profion seicometreg a
threfniant mewnol ar gyfer cynnal y
ganolfan asesu ei hun. Hysbyswyd
aelodau’r Pwyllgor bod cyflog y swydd Pennaeth Tai ac Eiddo newydd wedi’i
harfarnu ar lefel HS2 drwy ddefnyddio system Hay, sef yr un system a ddefnyddir
ar gyfer arfarnu pob swydd ar lefel Pennaeth ac uwch. Cytunwyd
i gyflwyno argymhelliad i gyfarfod o’r Cyngor llawn ar y 18fed o Orffennaf yn
datgan y dylid sefydlu cyflog y swydd ar raddfa HS2 a bod y Polisi Tâl ar gyfer
2019-20 yn cael ei addasu i adlewyrchu hynny. |