Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd
Glyn Daniels |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Medwyn Hughes fuddiant
personol mewn perthynas ag eitem 6 ar y rhaglen oherwydd bod un o’r ymgeiswyr
yn gymydog iddo. Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu
a gadawodd y Siambr yn ystod y cyfweliad a’r drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
27.06.19 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27.06.19 fel rhai
cywir |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r
cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei
fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff
12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n
berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad
oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr
unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o
gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu Cofnod: PENDERFYNWYD
cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem
ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O
ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig. |
|
CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER PENNAETH TAI AC EIDDO I gyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd Cofnod: Cadarnhawyd trefn y cyfweliadau gyda’r Aelodau. Cyfwelwyd dau ymgeisydd ar gyfer y swydd. Rhoddodd yr ymgeiswyr gyflwyniad ar ‘Be ydi’r cyfleoedd a’r bygythiadau rydych
chi’n ei weld ar gyfer yr Adran dros y ddwy flynedd nesa a sut ydych chi’n
meddwl ymateb iddyn nhw?’. Ymatebwyd
i nifer o gwestiynau dilynol ynghyd a phum cwestiwn ffurfiol. Gwahoddwyd Mr Geraint Owen, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol i gyflwyno
sylwadau o’r Ganolfan Asesu a gynhaliwyd 12.7.19. Derbyniwyd crynodeb manwl o
berfformiadau’r ddau ymgeisydd ynghyd a chanlyniadau profion seicometreg yr
ymgeiswyr a gasglwyd gan gwmni Gatenby Sanderson. Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei chynnig i Mr Dafydd Gibbard. PENDERFYNWYD PENODI MR DAFYDD GIBBARD I’R
SWYDD PENNAETH TAI AC EIDDO |
|
CYFWELD YMGEISYDD AR GYFER PENNAETH PRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL I gyfweld ymgeisydd ar gyfer y swydd Cofnod: Cadarnhawyd
trefn y cyfweliadau gyda’r Aelodau. Cyfwelwyd un ymgeisydd ar gyfer y swydd. Rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad ar ‘Be ydi’r cyfleoedd a’r bygythiadau rydych
chi’n ei weld ar gyfer yr Adran dros y ddwy flynedd nesa a sut ydych chi’n
meddwl ymateb iddyn nhw?’. Ymatebwyd
i nifer o gwestiynau dilynol ynghyd a phum cwestiwn ffurfiol. Gwahoddwyd Mr Geraint Owen, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol i gyflwyno
sylwadau o’r Ganolfan Asesu a gynhaliwyd 12.7.19. Derbyniwyd crynodeb manwl o
berfformiad yr ymgeisydd ynghyd a chanlyniadau’r profion seicometreg a
gasglwyd gan gwmni Gatenby Sanderson. Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei chynnig i Mr Steffan Jones PENDERFYNWYD PENODI MR STEFFAN JONES I’R
SWYDD PENNAETH TAI AC EIDDO Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rhaglen mentora, mynegodd y Prif
Weithredwr y byddai’n trafod yr anghenion cefnogaeth briodol gyda’r ymgeiswyr
llwyddiannus er mwyn eu cynorthwyo i ddatblygu yn ei rôl fel Penaethiaid. |