skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2021 / 2022

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Mair Rowlands yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2021/22

 

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Mair Rowlands yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2021/22

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is gadeirydd ar gyfer 2021 / 2022

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2021/22

 

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2021/22

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Peredur Jenkins, Eric M Jones, Peter Read, Gethin Glyn Williams a Simon Glyn (Cadeirydd y Cyngor)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn eitem 8 ar y rhaglen oherwydd bod ganddo gyswllt busnes agos a chysylltiad personol gyda theulu un o’r ymgeiswyr.

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 265 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 Ebrill 2021 fel rhai cywir  

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16eg o Ebrill 21 fel rhai cywir

 

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

8.

LLUNIO RHESTR FER AR GYFER PENNAETH TAI AC EIDDO

I ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr.

 

Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn unig

 

Penderfyniad:

 

·         RHOI PEDWAR YMGEISYDD AR Y RHESTR FER

·         Gwahodd y Cynghorydd Craig ab Iago (Aelod Cabinet Tai ac Eiddo) i’r cyfweliadau fel sylwedydd. Nodwyd na fydd ganddo hawl i bleidleisio ar y penderfyniad, ond bydd cyfle iddo siarad ar gais y Pwyllgor.

 

Cofnod:

Adroddodd y Cadeirydd bod 14 cais wedi ei derbyn am y swydd. Roedd hyn yn galonogol iawn

 

Gwahoddwyd y Prif Weithredwr i gyflwyno crynodeb ar y ceisiadau. Trafodwyd y ceisiadau yn unol â gofynion y swydd gan ganolbwyntio ar y prif gymwyseddau.

 

PENDERFYNWYD RHOI PEDWAR YMGEISYDD AR Y RHESTR FER

 

Wrth ymhelaethu ar y camau nesaf, amlygodd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol y byddai canolfan asesu yn cael ei chynnal ar y 9fed o Orffennaf 2021. Bydd adroddiad ffurfiol o ymatebion yr ymgeiswyr yn cael ei ddarparu gan y ganolfan asesu i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion.

 

Trafodwyd pum cwestiwn a thestun cyflwyniad priodol ar gyfer y cyfweliad.

 

Cyfweliadau i’w cynnal 16 Gorffennaf 2021

 

Cynigiwyd gwahodd Aelod Cabinet Tai ac Eiddo i’r cyfweliadau fel sylwedydd

 

PENDERFYNWYD gwahodd y Cynghorydd Craig ab Iago (Aelod Cabinet Tai ac Eiddo) i’r cyfweliadau fel sylwedydd. Nodwyd na fydd ganddo hawl i bleidleisio ar y penderfyniad, ond bydd cyfle iddo siarad ar gais y Pwyllgor.