Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Anwen Hughes, Peredur Jenkins, Eric M Jones, Gethin Glyn Williams a Simon Glyn (Cadeirydd y Cyngor)

 

Collodd y Cynghorydd Peter Read gysylltiad wi-fi yn ystod y cyfarfod ac o ganlyniad ni allai gymryd rhan ymhellach

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd oherwydd bod ganddo gyswllt busnes agos a chysylltiad personol gyda theulu un o’r ymgeiswyr.

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 272 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 2 Gorffennaf 2021 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 02-07-21 fel rhai cywir

 

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

6.

CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER SWYDD PENNAETH TAI AC EIDDO

I dderbyn adroddiadau o’r Ganolfan Asesu a chyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd.

 

Penderfyniad:

Penodi Carys Fôn Williams i’r swydd Pennaeth Tai ac Eiddo

 

Cofnod:

a)    Cadarnhawyd trefn y diwrnod gyda’r Aelodau.

 

b)    Gwahoddwyd Mr Geraint Owen (Pennaeth Cefnogaeth Corfforaethol)  i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r pedwar ymgeisydd mewn Canolfan Asesu allanol a gynhaliwyd 09/07/21 gan gwmni Edgecombe. Nodwyd canlyniadau’r profion seicometreg a chymwyseddau’r ymgeiswyr.

 

Gwahoddwyd Mr Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r pedwar ymgeisydd mewn cyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd gyda chefnogaeth Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol) a’r Cynghorydd Craig ab Iago (Aelod Cabinet Tai ac Eiddo).

 

c)    Cyfwelwyd pedwar ymgeisydd ar gyfer y swydd.

 

Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i roi cyflwyniad hyd at 10 munud ar y testunBe ydi’r cyfleoedd a’r bygythiadau sy’n wynebu’r Adran Tai ac Eiddo dros y blynyddoedd nesaf a sut y byddech chi’n bersonol yn ymateb iddyn nhw?’  Ymatebwyd pum cwestiwn ffurfiol a ofynnwyd gan y Cadeirydd ynghyd a chwestiynau dilynol gan yr Aelodau.

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Craig ab Iago (Aelod Cabinet Tai ac Eiddo) i gynnig sylwadau ar ymatebion yr ymgeiswyr.

 

ch)    Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei chynnig i Carys Fôn Williams

 

PENDERFYNWYD penodi Carys Fôn Williams i’r swydd Pennaeth Tai ac Eiddo